Press release -

Cysylltiadau cyflym iawn yn cyflymu’r broses gofrestru mewn gwesty yng Ngheredigion

Mae band eang cyflym iawn yn helpu Gwesty Gwledig Conrah yn Ffosrhydgaled i ddenu gwesteion newydd a rhoi hwb i fusnes.

Oherwydd y dechnoleg ffeibr cyflym sydd ar gael nawr, diolch i’r rhaglen Cyflymu Cymru, mae’r gwesty yn gallu hysbysebu ei hunan yn fwy effeithiol a darparu gwasanaethau newydd i ymwelwyr.

Plasty Ystad Ffosrhydgaled oedd y Conrah yn wreiddiol ac mae’n sefyll mewn tiroedd helaeth yng ngefn gwlad Ceredigion, rhyw bedair milltir o Aberystwyth.

Penderfynodd perchnogion y gwesty, Geraint a Wendy Hughes, uwchraddio i fand eang cyflym iawn ar ôl sylweddoli bod galw cryf am y dechnoleg gan westeion a rhagweld effaith gadarnhaol ar y busnes.

Bellach, mae’r gwesty yn elwa o gynnig band eang cyflym iawn o 80Mbsp o ganlyniad i fand eang diweddaraf y rhaglen Cysylltiad Ffeibr i'r Adeilad. Caiff y cyflymder ei gynyddu hyd yn oed ymhellach os oes angen. Cyflwynwyd y rhaglen yn yr ardal gan beirianwyr Openreach, sef busnes rhwydwaith lleol sy’n rhan o grŵp BT.

Dywedodd Geraint Jones: “Mae band eang cyflym iawn wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i’r gwesty. Mae’r galw yno gan westeion am gysylltiadau rhyngrwyd cynt a bellach rydym yn gallu bodloni dymuniadau’r cwsmer.

“Er eu bod oddi cartref, mae ymwelwyr yn awyddus i gadw mewn cysylltiad, boed ar gyfer busnes, neu am resymau personol. Mae band eang cyflym iawn yn ffactor pwysig iawn wrth iddyn nhw benderfynu aros yma neu fynd i westy arall.”

Mae hysbysebu ar-lein yn un o’r ffyrdd mae Geraint a'i dîm wedi gwella’r busnes. Nawr, maen nhw’n gallu cymryd archebion ar y wefan yn haws nag o’r blaen a defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol yn fwy effeithiol i hysbysebu’r gwesty. Mae’n hanfodol hefyd fel rhan o’u gwasanaeth cynadledda.

Mae’r cysylltiad cyflym iawn wedi creu argraff dda ar westeion. Maen nhw’n gallu gweithio ar-lein yn ogystal â gwylio fideos a lanlwytho lluniau o’u hymweliad.

Ychwanegodd Geraint: “Mae band eang cyflym iawn wedi rhoi llawer o gyfleoedd newydd inni.Rydyn ni nawr yn cyflogi aelod o staff sy’n gyfrifol am ddim ond ein cyfryngau cymdeithasol, rhwybeth allwn ni byth fod wedi’i ei wneud o’r blaen.

“Hefyd, rydym yn treulio amser gyda’n gwesteion ac yn eu helpu igynllunio eu hymweliad ar-lein: ble hoffen nhw fynd, sut i gyrraedd, pa lwybrau cerdded i’w dilyn - mae’n fantais fawr.”

Dywedodd Julie James, y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth: “Rwy’n falch iawn o glywed sut mae band eang cyflym iawn yn gwneud gwahaniaeth go iawn yng ngwesty’r Conrah, diolch i’r rhaglen Cyflymu Cymru.

“Mae’n enghraifft wych o sut gall cysylltiadau cynt ddylanwadu’n gadarnhaol ar y busnes ac ar yr ymwelwyr. Mae cael cysylltiad rhyngrwyd cyflym, cryf a dibynadwy yn fwyfwy pwysig i westeion ac mae cyflwyno’r rhaglen Cyflymu Cymru yn helpu i ddiwallu’r galw hwnnw.

“Fyddai yna ddim band eang cyflym iawn mewn ardaloedd fel Ceredigion heb y rhaglen Cyflymu Cymru ac mae’n wych gweld sut mae’r tîm yn y Conrah yn gwneud y gorau o’r dechnoleg.”

Dywedodd Alwen Williams, cyfarwyddwr rhanbarthol BT Cymru Wales: “Mae cyflwyno band eang cyflym iawn ar draws Cymru eisoes yn dylanwadu'n enfawr ar sut mae teuluoedd a busnesau yn rhyngweithio ar-lein. Mae Gwesty’r Conrah yn enghraifft arall o sut mae’r rhwydwaith cyflym iawn newydd yn gwneud gwahaniaeth.

“Wrth i fwy a mwy o gartrefi a busnesau gael manteisio ar gysylltiadau band eang cyflym iawn bob dydd, byddwn yn annog pobl i ddilyn esiampl Gwesty’r Conrah a gwneud y mwyaf o’r dechnoleg newydd hon drwy uwchraddio’u gwasanaethau.

“Rydym yn sylweddoli nad yw hynny’n bosibl ar hyn o bryd mewn rhai rhannau o Gymru ond mae ein peirianwyr yn parhau i weithio’n galed i gyflwyno’r band eang ffeibr ledled y wlad mor gyflym ac mor eang â phosibl.”

Categories

  • wales

Contacts

BT Press office

Press contact