Blog post -

#walescoopreport Datblygu Cynaliadwy: Dull Cydweithredol

Matthew Close o Ganolfan Cydweithredol Cymru sy’n archwilio argymhelliad Comisiwn Cwmnïau Cydweithredol a Chydfuddiannol Cymru bod egwyddorion cydweithredol a chydfuddiannol yn cael eu cynnwys yn y broses ddeddfwriaethol yng Nghymru.

Mae lansiad adroddiad Comisiwn Cwmnïau Cydweithredol a Chydfuddiannol Cymru yn cynnig llawer o gyfleoedd i’r sector cydweithredol yng Nghymru. Yr hyn sy’n ddiddorol iawn yw’r argymhelliad ar gyfer ystyried modelau busnes cydweithredol a chydfuddiannol yn holl bolisïau a chynlluniau newydd y Llywodraeth, yn rhan o ymrwymiad gorfodol Llywodraeth Cymru i wneud Datblygu Cynaliadwy yn brif egwyddor drefniadol yn ei rhaglen ddeddfwriaethol.

Mae Deddf Llywodraeth Cymru 2006 yn ei gwneud yn orfodol i Lywodraeth Cymru osod cynllun ar gyfer hyrwyddo Datblygu Cynaliadwy wrth weithredu ei swyddogaethau, ac aeth ati gyflawni hyn ar ffurf Cymru'n Un, Cenedl Un Blaned. Mae’r ddogfen hon yn diffinio Datblygu Cynaliadwy fel a ganlyn:

  “gwella lles economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol pobl a chymunedau, gan sicrhau ansawdd bywyd gwell i’n cenhedlaeth ni a chenedlaethau’r dyfodol.” [i]

Un o brif bwyntiau ffocws y Cynllun yw sicrhau economi gynaliadwy sy’n hydwyth i effeithiau negyddol newidiadau economaidd byd eang ac sy’n cefnogi twf busnes cynaliadwy. Mae busnesau a sefydlwyd trwy fodelau cydweithredol a chydfuddiannol wedi dangos eu bod yn fwy hydwyth i newidiadau economaidd niweidiol. Ar hyn o bryd mae 446 o sefydliadau cydweithredol yn gweithredu yng nghalon cymunedau ledled Cymru, sy’n eiddo i’r bobl yn y cymunedau hynny ac yn cael eu gweithredu ganddynt, ac sy’n cyfrannu gwerth £1.54 biliwn o drosiant blynyddol i economi Cymru.[ii]  O fusnesau bach fel  That Useful Company a Barod, i gwmnïau mwy megis Dulas a’r cymdeithasu tai cydfuddiannol newydd, mae busnesau cydweithredol a chydfuddiannol yng Nghymru yn enghreifftiau da o gwmnïau sy’n gallu cefnogi’r weledigaeth o economi gynaliadwy a nodir yng Nghynllun Datblygu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru.

Pwynt ffocws arall Cymru'n Un, Cenedl Un Blaned yw’r ymdrech i sicrhau bod gan Gymru gymdeithas gref, iach a chynhwysol. Mae mynediad i dai o safon mewn marchnad dai amrywiol yn cael ei nodi yn y Cynllun fel dangosydd allweddol ar gyfer cymdeithas gynaliadwy. Mae modelau cydweithredol a chydfuddiannol eisoes yn chwarae rôl allweddol yn y maes hwn. Mae cwmnïau cydfuddiannol  tai cymunedol megis RCT Homes  wedi’u strwythuro yn y fath fodd er mwyn galluogi eu tenantiaid i bob pwrpas ddod yn rhanddeiliaid,  a rhoi llais iddynt o ran y modd y mae’r sefydliad yn cael ei redeg a’i weithredu.

Mae ein hymchwil diweddar hefyd wedi dangos bod galw am fodelau tai cydweithredol yng Nghymru, sy’n cynnig y cyfle i bobl ddatblygu cymunedau cryf, cynhwysol ac ar yr un pryd darparu dewis hyfyw arall yn lle opsiynau prif ffrwd y farchnad dai, y mae mwy a mwy o bobl yn cael anhawster cael mynediad iddi. Mae ein Prosiect Tai Cydweithredol yn darparu cymorth i sefydliadau sy’n archwilio’r potensial o ddatblygu prosiectau tai cydweithredol ledled Cymru neu sydd wrthi’n gwneud hynny.

Mae egwyddorion cydweithredol yn amlwg mewn sawl rhan arall o Gymru. Mae llawer o drefi a phentrefi yn elwa ar fusnesau cydweithredol cymunedol, sy’n fusnesau a sefydlwyd i ddarparu gwasanaethau i’w hardal benodol nhw. Gall y rhain amrywio o siopau a thafarndai cymunedol megis Siop y Bobl a Saith Seren, i sefydliadau chwaraeon megis Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam.  Mae cynlluniau cyfranddaliadau cymunedol yn enghraifft arall o werthoedd a modelau cydweithredol ar waith, oherwydd maent yn galluogi grwpiau a sefydliadau i dynnu cyfalaf o’r union gymunedau y mae eu mentrau yn ceisio bod o fudd iddynt. O adfywio cymunedol i gynlluniau pŵer amgylcheddol megis ffermydd gwynt cymunedol a gweithfeydd hydro-electrig, maent yn cynnig cyfle i’r sefydliadau hyn ffynnu gan sicrhau datblygu cynaliadwy gwirioneddol.

Mae’r enghreifftiau hyn yn dangos bod modelau busnes cydweithredol a chydfuddiannol yn gallu cynyddu’n fawr y debygoliaeth o gynhyrchu economi a chymdeithas gynaliadwy yng Nghymru. Rydym o’r farn y gallai’r argymhelliad hwn roi lle blaenllaw i gydweithredu yn ein proses ddeddfwriaethol, ac mae’n cynnig cyfle unigryw i Lywodraeth Cymru gynnwys egwyddorion ac ethos cydweithredu wrth wraidd y tirlun gwleidyddol yng Nghymru.


[i] Cymru’n Un: Cenedl Un Blaned: Cynllun Datblygu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru. Llywodraeth Cymru, 2009, tud.8

[ii] Cynhenid: Yr Economi Gydweithredol yng Nghymru 2013. Cyhoeddwyd gan Co-operatives UK a Canolfan Cydweithredol Cymru.


Topics

  • Economy, Finance

Categories

  • wales co-operative centre
  • sustainable development
  • future generations
  • co-operatives
  • innovation
  • co-operation
  • one plant
  • one wales

Regions

  • Wales

Contacts

David Madge

Press contact Marketing, Press & Public Affairs Officer Press and Public Affairs. Marketing (primarily Succession and Consortia Project). 01792484005

Catherine Evans

Press contact Marketing Manager Overall responsibility for marketing and communications at the Wales Co-operative Centre 01443 743943

Mark Smith

Press contact Marketing Officer Social Media, Case Studies and Communities 2.0 029 2055 6163