Press release -

Arloeswyr Cydweithredol newydd Cymru yn arwain y ffordd

Mae un deg pedwar o arloeswyr cydweithredol modern ledled Cymru wedi ymgynnull i gymryd rhan mewn sesiwn tynnu lluniau i ddathlu dechrau Pythefnos Gydweithredol 2014. Mae'r sesiwn tynnu lluniau yn cyfleu ffotograff o'r cwmni cydweithredol gwreiddiol sef y Rochdale Pioneers a dynnwyd tua 150 mlynedd yn ôl. Mae pob un o'r 'arloeswyr modern' yn rhan o fusnes cydweithredol dynamig neu fusnes dan berchnogaeth y gweithwyr sydd, rhyngddynt, yn darparu ystod o gynnyrch a gwasanaethau eang iawn ledled Cymru. O gynhyrchu i hyfforddi, adwerthu, cyfathrebu, tafarndai a chlybiau pêl-droed, mae cwmnïau cydweithredol yn parhau yn arloeswyr yn eu sectorau 170 mlynedd ar ôl dechrau'r mudiad.

Mae arloeswyr cydweithredol 2014 yn gweithredu wrth wraidd eu busnesau a'u sefydliadau ac o'r farn bod gan gwmnïau cydweithredol rôl bwysig i'w chwarae wrth gefnogi cwmnïau a datblygu economi Cymru.

Heddiw mae'r sector cydweithredol yn y DU werth tua £37 biliwn y flwyddyn ac yn cyflogi tua 235,000 o bobl. Mae'r sector yng Nghymru werth tua £1.54 biliwn y flwyddyn ac yn cyflogi tuag 11,000 o bobl ond mae llawer sy'n rhan o'r mudiad o'r farn bod y sector yn cynnig hyd yn oed mwy o botensial am dwf. 

Derek Walker yw Prif Weithredwr Canolfan Cydweithredol Cymru, prif asiantiaeth Cymru ar ddatblygu busnesau cydweithredol a chymdeithasol. Dywedodd,

"Cydweithio yw egwyddor ganolog busnesau cydweithredol. Mae pob un o'n harloeswyr cydweithredol o'r farn bod busnesau cydweithredol yn fodelau hyfyw a chynaliadwy sy'n gweithio i gyflawni amcanion eu sefydliadau.

"Mae arloeswyr cydweithredol modern heddiw yn symbolaidd o'r diddordeb newydd mewn modelau busnes sy'n canolbwyntio ar elfennau cydweithredol a chymdeithasol.  

"Cyhoeddodd Comisiwn Cwmnïau Cydweithredol a Chydfuddiannol Cymru adroddiad dylanwadol yn gynharach eleni a gyflwynodd lawer o argymhellion ymarferol yn canolbwyntio ar gefnogi datblygiad busnesau cydweithredol ledled ystod o sectorau gwahanol.

"Mae'r awydd yna i ysgogi'r sector hwn oherwydd y buddion cynaliadwy y gall modelau busnes cydweithredol eu cynnig i gymunedau ac i economi Cymru yn ei chyfanrwydd."

Mae Dulas yn gwmni byd-enwog sy'n arbenigo mewn prosiectau ac ymgynghoriaeth ynni adnewyddadwy ym Machynlleth. Alison Banton yw un o aelodau gwreiddiol y cwmni cydweithredol a helpodd sefydlu'r cwmni. Dywedodd,

"Wrth wraidd cwmni Dulas mae gennym gyfres o werthoedd ac egwyddorion a chydweledigaeth yr wyf i, fel rhanddeiliad, wedi cymryd rhan ynddynt, eu cymeradwyo ac elwa ohonynt. Mae'n bwysig i mi allu ymgysylltu â'n proses ddemocrataidd, er mwyn cael mewnbwn i’r strategaeth a phenderfyniadau busnes allweddol - mae'n gwneud y diwrnod gwaith yn fwy diddorol!

Ers 2009 mae Dulas wedi ymddangos bedair gwaith ar restr 50 o gwmniau Twf Cyflym Cymru.

Clwb Pêl Droed Wrecsam yw'r clwb pêl-droed hynaf yng Nghymru a'r trydydd clwb pêl-droed proffesiynol hynaf yn y byd. Y cefnogwyr sy'n berchen 100% ar y clwb. Peter Jones yw Cadeirydd Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam. Mae o'r farn bod cwmnïau cydweithredol yn cynnig model democrataidd ar gyfer perchnogaeth clwb,

"Mae ein profiad o gwmnïau cydweithredol yn y byd pêl-droed wedi gweld twf yn nifer y clybiau sy'n eiddo i'r cefnogwyr. Wrth gwrs, nid yw pob un ohonynt wedi llwyddo, ond fel pob cwmni cydweithredol, mae'n rhaid i'r busnes fod yn broffidiol, gan fod y brif ffynhonnell refeniw a chyfalaf yn dod gan yr aelodau".

Mae Barod yn Gwmni Buddiant Cymunedol a sefydlwyd gan bobl a benderfynodd weithio fel cwmni cydweithredol oherwydd eu bod am fod yn gyfarwyddwyr ac yn feistri ar eu hunain. Mae Alan Armstrong yn gyfarwyddwr ar y cwmni,

"Rwy'n credu bod cwmnïau cydweithredol yn beth da i economi Cymru oherwydd maent yn fodd i bobl sefydlu eu busnesau eu hunain a gweithio fel tîm wrth ddechrau'r cwmni. Maent yn rhoi mwy o gyfleoedd am gyflogaeth i helpu pobl i adael y system budd-daliadau, rhoi cynnig ar fywyd gwaith a chael cyflog byw".

Mae Marc Jones yn aelod o Saith Seren, sef tafarn gydweithredol sy'n eiddo i'r gymuned a chanolfan dysgu Cymraeg yn Wrecsam. Mae o'r farn mai

"Cwmnïau cydweithredol a mentrau cymdeithasol yw'r unig ffordd y gall cymunedau ymladd yn ôl a rheoli eu siopau, tafarndai, gwasanaethau a ffatrïoedd lleol".

Mae Ivor Williams o Siop y Bobl, sef siop gydweithredol sy'n berchen i'r gymuned ym mhentref Llanmadog yn y Gŵyr yn cytuno,

"Mae cymunedau llwyddiannus yn seiliedig ar gydgefnogaeth a chydweithredu, egwyddorion sydd yr un mor bwysig mewn busnes.  Rwy'n credu mai un o'r ffyrdd y gallai'r economi genedlaethol dyfu yw trwy'r traddodiad hir o gwmnïau cydweithredol yng Nghymru. Efallai ein bod yn fach o ran maint ond yn fawr o ran nifer, sy'n ddigon i wneud gwahaniaeth. Trwy ehangu'r cwmnïau cydweithredol, gallwn ehangu'r economi".

Mae 'Rochdale Pioneers' yn ddelwedd eiconig yn y mudiad cydweithredol. Ffurfiwyd y Rochdale Society of Equitable Pioneers ym 1844. Wrth i'r Chwyldro Diwydiannol orfodi rhagor o weithwyr tra medrus i mewn i dlodi, penderfynodd y crefftwyr hyn ymuno gyda'i gilydd i agor eu siop eu hunain, yn gwerthu eitemau bwyd nad oeddent yn gallu'u fforddio fel arall. Y nhw luniodd egwyddorion enwog Rochdale (a ddaeth yn y pen draw yn egwyddorion cydweithredol a dderbyniwyd yn gyffredinol). Ym mis Rhagfyr 1844 aethant ati i agor siop yn gwerthu nwyddau sylfaenol megis menyn, siwgr, blawd, blawd ceirch a chanhwyllau. Ym mhen deng mlynedd, roedd y mudiad cydweithredol Prydeinig wedi tyfu i bron 1000 o gwmnïau cydweithredol.

Mae'r Rochdale Pioneers yn cael eu cyfeirio atynt yn aml yr un pryd â Robert Owen, sylfaenydd y mudiad cydweithredol, a oedd yn dod o'r Drenewydd yng nghanolbarth Cymru. Mae arloeswyr heddiw yn rhannu'r weledigaeth o sicrhau perchenogaeth ddemocrataidd a rheolaeth o'u busnesau ar gyfer eu haelodau.

Gillian Lonergan yw Pennaeth Adnoddau Treftadaeth yr Ymddiriedolaeth Treftadaeth Gydweithredol a fu mor garedig yn rhoi cymorth i Ganolfan Cydweithredol Cymru wrth lunio’r ddelwedd. Dywedodd,

“Gan fod model Rochdale wedi cael ei fabwysiadu gan gymunedau yn sefydlu’u cwmnïau cydweithredol eu hunain roedd pobl yn awyddus i wybod sut roedd y ‘Pioneers’ gwreiddiol yn edrych. Ym 1865, rhoddwyd gwahoddiad i’r Pioneers gwreiddiol a oedd yn parhau i fyw yn Rochdale i stiwdio ffotograffydd. Cafwyd ceisiadau am gopïau o ddelwedd y tri ar ddeg gan bobl ledled y byd ac mae’n parhau yn un o’r delweddau mwyaf adnabyddus o gydweithredu. Mae hanes y Pioneers wedi ysbrydoli cenedlaethau o bobl gydweithredol i sefydlu eu cymdeithasau eu hunain.

Roeddem yn falch iawn o gefnogi Canolfan Cydweithredol Cymru wrth lunio ei ddehongliad ei hun o’r ddelwedd eiconig ac mae’n ysbrydoledig i weld bod yr un ysbryd cydweithredol mor ffyniannus yng Nghymru heddiw.”

Mae Cris Tomos wedi bod yn rhan o lawer o fentrau cydweithredol yng Ngorllewin Cymru. Yn fwyaf diweddar, mae wedi bod yn rhan o gwmni cydweithredol 4CG sy'n adfywio tref Aberteifi, a chwmni cydweithredol sy'n cynhyrchu ynni sef Ynni Adnewyddadwy Cwm Arian.

"Mae rôl cwmnïau cydweithredol a chydfuddiannol yn bwysig iawn a'r gyfrinach yw cael y mwyafrif helaeth o bobl leol yn aelodau. Byddai cael cwmni cydweithredol cymunedol ym mhob cymdogaeth yn galluogi creu cynlluniau gweithredu cymunedol, er mwyn mynd i'r afael â gwendidau a datblygu cyfleoedd yr ardal. Byddai cael cwmnïau ynni cydweithredol ym mhob cyngor cymuned a thref yng Nghymru yn gweld arian yn cael ei wario'n lleol er budd lleol."

Trwy gydol y Bythefnos Gydweithredol (21 Mehefin – 5 Gorffennaf) bydd Canolfan Cydweithredol Cymru yn cyhoeddi blogiau ar gyfer pob un o'r arloeswyr modern gan edrych ar eu rhesymau dros gymryd rhan mewn cwmnïau cydweithredol a'u gobeithion ar gyfer cwmnïau cydweithredol yn y dyfodol. Gellir darllen y blogiau yn www.walescooperative,org neu mae'n bosibl ymuno â'r rhestr e-bost yn http://walescooperative.wordpress.com


Arloeswyr Modern Cymru (Chwith i'r Dde)

Rhes gefn:


Rhes flaen:



Topics

  • Economy, Finance

Categories

  • social enterprise
  • wales co-operative centre

Regions

  • Wales

Canolfan Cydweithredol Cymru

Sefydlwyd Canolfan Cydweithredol Cymru dros dri deg mlynedd yn ôl ac ers hynny mae wedi bod yn helpu busnesau i dyfu, pobl i ddod o hyd i waith a chymunedau i fynd i'r afael â materion sy'n bwysig iddynt. Mae ei gynghorwyr yn gweithio'n gydweithredol ledled Cymru, yn darparu cymorth arbenigol, hyblyg a dibynadwy i gefnogi datblygu busnesau cynaliadwy a chymunedau cryf, cynhwysol.

Contacts

David Madge

Press contact Marketing, Press & Public Affairs Officer Press and Public Affairs. Marketing (primarily Succession and Consortia Project). 01792484005

Catherine Evans

Press contact Marketing Manager Overall responsibility for marketing and communications at the Wales Co-operative Centre 01443 743943

Mark Smith

Press contact Marketing Officer Social Media, Case Studies and Communities 2.0 029 2055 6163

Related content