Press release -

Call to IT training providers to contribute to Welsh Government’s online computer course listing / Galwad ar ddarparwyr hyfforddiant TG i gyfrannu at restr cyrsiau cyfrifiadurol ar-lein Llywodraeth Cymru

Digital inclusion leaders in Wales are calling on IT training providers to add their courses to a country-wide database of IT training resources.

‘Computer Courses Near You’ is a Welsh Government/European funded online resource that is used by staff in libraries and post offices to signpost enquiries to suitable IT courses.

‘Computer Courses Near You’ is a free online directory of computer courses and public access computer facilities in Wales. It promotes opportunities for people to learn essential ICT skills that will improve their home life, job prospects and access to services. The resource is managed by the Welsh Government’s Communities 2.0 programme but in order to keep the resource updated, course providers can add and manage their own information via the Communities 2.0 website.

Customers looking for computer courses can go to any Post Office counter and ask where their nearest computer courses are held. They will receive a print out showing the nearest venues to them. This information is also the primary resource for librarians who deal with a large volume of enquiries about computer courses because of the free internet access that is now offered in most libraries. It is linked into the UK Online Centres database which lists courses across Britain.

The ‘Computer Courses Near You’ directory is very accessible. Users can search for nearby courses by entering a town or postcode or by navigating a map. An advance search feature allows users to see all the Centres offering ICT courses in a county or to find centres that offer certain facilities.

The resource is designed to be easy to use and adaptable. Businesses which are running IT courses simply need to register and then add the details of the course or courses to the database using an online form available at http://www.communities2point0.org.uk/computer-courses-in-wales .

Businesses wishing to promote the resource can also add a widget to their own website using a small section of HTML code.

Cathryn Marcus is Project Director of Communities 2.0, the Welsh Government Digital Inclusion initiative which is part funded by European Union Regional Development Funds,

“Communities 2.0 runs or facilitates a host of different training courses for individuals and business across Wales. However, there are many other businesses running ICT training at all levels. We want to ensure that all regularly available ICT training courses are uploaded into this one resource that can be accessed by the public, librarians and post offices and then act as a signpost for all enquiries.

"Digital exclusion is a major issue for many people within our communities and we want to promote the many opportunities for learning about ICT and the internet that are available to people in Wales”.

Further information on how to use ‘Computer Courses Near You’ can be found on You Tube http://www.youtube.com/watch?feature=player_embedded&v=gy3o10a39MQ

For more information about Communities 2.0, visit www.communities2point0.org.uk or call 0845 474 8282

______________________________________________________________________


Mae arweinwyr cynhwysiant digidol yng Nghymru’n galw ar ddarparwyr hyfforddiant TG i ychwanegu eu cyrsiau at gronfa ddata o adnoddau hyfforddi TG ledled y wlad.

Mae ‘Cyrsiau Cyfrifiadurol Sy’n Agos Atoch Chi’ yn adnodd ar-lein dan nawdd Llywodraeth Cymru/Ewrop a gaiff ei ddefnyddio gan staff llyfrgelloedd a swyddfeydd post er mwyn cyfeirio ymholiadau at gyrsiau TG addas. Mae ‘Cyrsiau Cyfrifiadurol Sy’n Agos Atoch Chi’ yn gyfeiriadur ar-lein am ddim o gyrsiau cyfrifiadurol a chyfleusterau cyfrifiaduron cyhoeddus yng Nghymru.

Mae’n hyrwyddo cyfleoedd i bobl ddysgu sgiliau TGCh hanfodol a fydd yn gwella’u bywyd cartref, eu cyfleoedd am swyddi a’u mynediad at wasanaethau. Rheolir yr adnodd gan raglen Cymunedau 2.0 Llywodraeth Cymru ond er mwyn sicrhau bod yr adnodd wedi’i ddiweddaru, gall darparwyr cyrsiau ychwanegu a rheoli eu gwybodaeth eu hunain trwy wefan Cymunedau 2.0.

Gall cwsmeriaid sy’n edrych am gyrsiau cyfrifiadurol fynd at gownter unrhyw Swyddfa Bost a gofyn ble y cynhelir y cyrsiau cyfrifiadurol agosaf. Byddant yn cael allbrint yn dangos y lleoliadau agosaf atynt. Y wybodaeth hon hefyd yw’r prif adnodd ar gyfer llyfrgellwyr sy’n ateb nifer fawr o ymholiadau am gyrsiau cyfrifiadurol oherwydd y mynediad at y we am ddim sydd ar gael yn rhan y fwyaf o lyfrgelloedd. Mae’n gysylltiedig â chronfa ddata Canolfannau Ar-lein y DU sy’n rhestru cyrsiau ledled Prydain.

Mae’r cyfeiriadur ‘Cyrsiau Cyfrifiadurol Sy’n Agos Atoch Chi’ yn hawdd iawn ei ddefnyddio. Gall defnyddwyr chwilio am gyrsiau cyfagos trwy nodi tref neu god post neu edrych ar fap. Mae nodwedd chwilio uwch yn galluogi defnyddwyr i weld yr holl Ganolfannau sy’n cynnig cyrsiau TGCh mewn sir neu ddod o hyd i ganolfannau sy’n cynnig cyfleusterau penodol.

Dyluniwyd yr adnodd i fod yn hawdd ei ddefnyddio ac yn addasadwy. Y mae angen i fusnesau sy’n cynnal cyrsiau TG gofrestru ac ychwanegu manylion y cwrs neu gyrsiau i’r gronfa ddata gan ddefnyddio’r ffurflen ar-lein sydd ar gael o http://www.communities2point0.org.uk/computer-courses-in-wales. Gall busnesau sy’n dymuno hyrwyddo’r adnodd hefyd ychwanegu widget ar eu gwefan eu hunain gan ddefnyddio darn bach o god HTML.

Cathryn Marcus yw Cyfarwyddwr Prosiectau Cymunedau 2.0, sef menter Cynhwysiant Digidol Llywodraeth Cymru sydd wedi’i hariannu’n rhannol gan Arian Datblygu Rhanbarthol yr Undeb Ewropeaidd.

“Mae Cymunedau 2.0 yn cynnal neu’n hwyluso ystod o gyrsiau hyfforddi gwahanol ar gyfer unigolion a busnesau ledled Cymru. Fodd bynnag, mae nifer o fusnesau eraill yn cynnal hyfforddiant TGCh ar bob lefel. Rydym yn dymuno sicrhau bod yr holl gyrsiau hyfforddi TGCh sydd ar gael yn rheolaidd wedi’u llwytho ar yr un adnodd hwn y gall y cyhoedd, llyfrgellwyr a swyddfeydd post fynd ato ac yna gweithredu’n bwynt cyfeirio ar gyfer pob ymholiad. Mae eithrio digidol yn broblem fawr i nifer o bobl yn ein cymunedau a dymunwn hyrwyddo’r cyfleoedd niferus sydd ar gael i bobl yng Nghymru ddysgu am TGCh a’r rhyngrwyd.”

Mae rhagor o wybodaeth am sut i ddefnyddio ‘Cyrsiau Cyfrifiadurol Sy’n Agos Atoch Chi’ ar gael ar You Tube http://www.youtube.com/watch?feature=player_embedded&v=gy3o10a39MQ

Am ragor o wybodaeth am Cymunedau 2.0, ewch i www.communities2point0.org.uk neu ffoniwch 0845 474 8282



Related links

Topics

  • Economy, Finance

Categories

  • communities 2.0
  • welsh government
  • computer courses near you
  • training
  • training providers
  • digital inclusion
  • uk online

Regions

  • Wales

Communities 2.0

Communities 2.0 is a Welsh Government programme and is part of the Delivering a Digital Wales strategy.

Communities 2.0 is delivered by four partner organisations – the Wales Co-operative Centre, Pembrokeshire Association of Voluntary Services, Carmarthenshire County Council and the George Ewart Evans Centre for Storytelling (University of South Wales).

Communities 2.0 works in the Convergence area of Wales and parts of Wrexham, Flintshire and Powys, helping communities and small enterprises to make the most of the internet. www.communities2point0.org.uk

Cymunedau 2.0

Mae Cymunedau 2.0 yn rhaglen Llywodraeth Cymru sy’n rhan o’r strategaeth Cyflwyno Cymru Ddigidol.

Cyflwynir Cymunedau 2.0 gan bedwar sefydliad partner – Canolfan Cydweithredol Cymru, Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro, Cyngor Sir Caerfyrddin a Canolfan Adrodd Storïau George Ewart Evans (Prifysgol De Cymru).

Mae Cymunedau 2.0 yn gweithio yn ardal Cydgyfeiriant Cymru a rhannau o Wrecsam, Sir y Fflint a Phowys, gan helpu cymunedau a mentrau bychain i wneud yn fawr o’r rhyngrwyd. www.communities2point0.org.uk

Contacts

David Madge

Press contact Marketing, Press & Public Affairs Officer Press and Public Affairs. Marketing (primarily Succession and Consortia Project). 01792484005

Catherine Evans

Press contact Marketing Manager Overall responsibility for marketing and communications at the Wales Co-operative Centre 01443 743943

Mark Smith

Press contact Marketing Officer Social Media, Case Studies and Communities 2.0 029 2055 6163