Press release -

Clothes re-use consortium launches in Colwyn Bay . Consortiwm ailddefnyddio dillad yn lansio ym Mae Colwyn

A new community sector consortium has launched a textile sorting facility in Colwyn Bay.

Draig Tex is a collaboration between three north Wales social enterprises, Crest Co-operative, Antur Waunfawr and Seren Ffestiniog Cyf. It has been created with the intention of ensuring that the value of re-usable material is not lost to the waste stream and is kept in Wales, directly benefiting Welsh communities.

The consortium has been brought together with support from the Wales Co-operative Centre Succession and Consortia Project.

By joining forces, the three consortium members have established a Welsh-based sorting centre that can service a wide geographical area. Individually, the partners also handle other materials and are part of a wider sector of community reuse and resource management operators. The new textiles consortium is a step forward for that sector in Wales, increasing the scale of operations in the collection of usable materials alongside the other items they handle such as furniture and electrical appliances.

Rhian Edwards is project manager of the Succession and Consortia Project at the Wales Co-operative Centre which supported the three organisations to develop their plans and launch the new organisation. She commented,

“Congratulations to the three social enterprises for recognising and responding to a market opportunity in their area. Draig Tex is an excellent example of how individual organisations can utilise their collective capacity to develop an exciting new regeneration project which will provide employment and training opportunities for local people and real local growth”

The ERDF and Welsh Government funded Succession and Consortia Project supported the three social enterprises to examine and assess each of the potential delivery models and business structures for the new business. They facilitated and brokered the whole partnership development process, explored governance and stakeholder issues and provided briefings for legal support commissioned to pull together the partner agreements.

Sharon Jones is Chief Executive of Crest Co-operative, one of the three partners involved in Draig Tex. She said,

“Any charity or social enterprise that collects textiles can now choose a Welsh third sector service that will offer competitive market rates for most of these materials. The aim is to help keep the value of textiles collected in Wales as close to local communities as possible and to reinvest in the Welsh social economy, rather than see wealth leak away into a global market, as often happens now.

“We are grateful for the support we have received from the Wales Co-operative Centre in helping us build the framework we needed to implement this new business approach”.

Existing textile collection services don’t always say how they make their profits and where the collected materials are headed. Draig Tex aspires to build more transparency and ethics into the supply chain. This will be a challenge in a well established global market, but by securing a Welsh base grounded in community sector values, the consortium believes it is achievable. The consortium partners’ ambition is to provide a secure and ethical service on the doorstep in Wales.

The consortium aims to collect and export 1000 tonnes of textiles in its first year to export to markets in Africa, Pakistan and Eastern Europe. Draig Tex forecasts a £1million annual turnover with three quarters of revenue raised going straight back into the Welsh social economy in payments to third sector and charitable organisations. The remainder will be spent on managing the facility and employment of 11 staff. No money will be taken out of Wales.

Draig Tex has received £100,000 capital funding through Cyfenter to support purchase of equipment. Each of the 3 organisations has also put £10,000 of their own funds into the consortium.

Anyone interested in using the service should contact Draig Tex on 01492 596783 or by email on info@draigtex.com . Further information is available online www.draigtex.com

Picture: First container of reused clothes is loaded.

.

Consortiwm ailddefnyddio dillad yn lansio ym Mae Colwyn

Mae consortiwm cymunedol newydd wedi lansio cyfleuster dethol tecstilau ym Mae Colwyn. Mae Draig Tex yn ffrwyth cydweithrediad rhwng tair menter gymdeithasol yng ngogledd Cymru, sef Crest Co-operative, Antur Waunfawr a Seren Ffestiniog Cyf. Cafodd ei greu gyda'r bwriad o sicrhau nad yw gwerth deunyddiau y gellir eu hailddefnyddio yn cael ei golli i'r ffynhonnell wastraff ac yn cael ei gadw yng Nghymru, gan fod o fudd uniongyrchol i gymunedau Cymru.

Daeth y consortiwm ynghyd trwy gefnogaeth Prosiect Olyniaeth a Chonsortia Canolfan Cydweithredol Cymru.

Gyda'i gilydd, mae'r 3 consortiwm sy'n aelodau wedi sefydlu canolfan ddidoli yng Nghymru sy'n gallu gwasanaethu ardal ddaearyddol fawr. Yn unigol, mae'r partneriaid hefyd yn ymdrin â deunyddiau eraill ac yn rhan o sector ehangach o weithredwyr rheoli ac ailddefnyddio adnoddau. Mae'r consortiwm tecstilau newydd yn gam ymlaen i'r sector hwnnw yng Nghymru, gan gynyddu graddfa gweithrediadau sy'n casglu deunyddiau y gellir eu hailddefnyddio ochr yn ochr ag eitemau eraill y maent yn ymdrin â hwy fel dodrefn ac offer trydanol.

Mae Rhian Edwards yn rheolwr prosiect ar gyfer Prosiect Olyniaeth a Chonsortia Canolfan Cydweithredol Cymru a fu'n cefnogi'r tri sefydliad i ddatblygu'u cynlluniau a lansio'r sefydliad newydd. Dywedodd,

"Llongyfarchiadau i'r tair menter gymdeithasol am adnabod cyfle yn y farchnad yn eu hardal ac ymateb iddi. Mae Draig Tex yn enghraifft ardderchog o'r modd y gall sefydliadau unigol ddefnyddio'u capasiti ar y cyd i ddatblygu prosiect adfywio cyffrous newydd a fydd yn darparu cyflogaeth a chyfleoedd hyfforddi ar gyfer pobl leol a thwf lleol gwirioneddol."

Mae'r Prosiect Olyniaeth a Chonsortia sy'n cael ei ariannu gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a Llywodraeth Cymru wedi cefnogi'r tair menter gymdeithasol i archwilio ac asesu pob un o'r modelau cyflawni a strwythurau busnes posibl ar gyfer y busnes newydd. Buont yn hwyluso proses ddatblygu'r bartneriaeth gyfan, yn archwilio materion llywodraethu a rhanddeiliaid a darparu sesiynau briffio ar gyfer cymorth cyfreithiol a gomisiynwyd er mwyn dwyn ynghyd cytundebau partner.

Sharon Jones yw Prif Weithredwr Crest Co-operative, un o'r tri phartner sy'n rhan o Draig Tex. Dywedodd,

"Bellach gall unrhyw elusen neu fenter gymdeithasol sy'n casglu tecstilau ddewis gwasanaeth o'r trydydd sector yng Nghymru a fydd yn cynnig cyfraddau masnachu cystadleuol ar gyfer y mwyafrif o'r deunyddiau hyn. Y nod yw helpu i gadw gwerth tecstilau sy'n cael eu casglu yng Nghymru mor agos â phosibl at gymunedau lleol ac ail-fuddsoddi yn economi cymdeithasol Cymru yn hytrach na gweld cyfoeth yn llithro i farchnad fyd eang, fel sy'n digwydd yn aml erbyn hyn.

"Rydym yn gwerthfawrogi'n fawr y cymorth yr ydym wedi'i gael gan Ganolfan Cydweithredol Cymru wrth ein helpu i ddatblygu'r fframwaith y mae ei angen arnom i weithredu'r dull busnes newydd hwn."

Nid yw pob gwasanaeth casglu tecstilau yn nodi sut y maent yn gwneud eu helw a lle y mae'r deunyddiau sy'n cael eu casglu yn mynd. Nod Draig Tex yw datblygu rhagor o dryloywder a moeseg i'r gadwyn gyflenwi. Bydd hyn yn her mewn marchnad fyd eang sydd wedi'i hen sefydlu, ond trwy sicrhau lleoliad yng Nghymru wedi'i wreiddio yng ngwerthoedd y sector cymunedol, cred y consortiwm bod hwn yn bosibl. Uchelgais partneriaid y consortiwm yw darparu gwasanaeth diogel a moesegol ar garreg y drws yng Nghymru.

Nod y consortiwm yw casglu ac allforio 1000 tunnell o decstilau yn ystod ei flwyddyn gyntaf er mwyn allforio i farchnadoedd yn Affrica, Pacistan a Dwyrain Ewrop. Mae Draig Tex yn rhagweld trosiant blynyddol o £1 filiwn â thri chwarter o'r refeniw yn mynd yn syth i economi gymdeithasol Cymru mewn taliadau i'r trydydd sector a sefydliadau elusennol. Bydd y gweddill yn cael ei wario ar reoli'r adnodd a chyflogi 11 o staff. Ni fydd dim arian yn mynd y tu allan i Gymru.

Mae Draig Tex wedi derbyn arian cyfalaf o £100,000 trwy Cyfenter i gefnogi prynu offer. Mae pob un o'r tri sefydliad hefyd wedi rhoi £10,000 o'u harian eu hunain i mewn i'r consortiwm.

Dylai unrhyw un a chanddo ddiddordeb mewn defnyddio'r gwasanaeth gysylltu â Draig Tex ar 01492 596783 neu e-bost info@draigtex.com. Ceir rhagor o wybodaeth ar-lein www.draigtex.com




Topics

  • Economy, Finance

Categories

  • wales
  • business
  • consortium
  • consortia
  • wales co-operative centre
  • social enterprise

Regions

  • Wales

For further information, please contact David Madge, Marketing and Press Officer on 01792 484005 david.madge@walescooperative.org


Available for interview: Rhian Edwards

Interviews with representatives from the individual member organisations of Draig Tex can be arranged on request.


Notes to Editors

Draig Tex is a consortium of 3 long established north Wales social enterprises:


Seren Ffestiniog Cyf, based in Blaenau Ffestiniog, Charity Number 1108461

http://www.serencyf.org/#!home/mainPage

Established 18 years ago with a current turnover of £1.1 million employs and supports 100 beneficiaries each year.

Antur Waunfawr, based outside Caernarvon, Charity Number 515445

http://www.anturwaunfawr.org/en-GB/Home

Established 30 years ago with a current turnover of £2.1 million, employs and supports 160 beneficiaries each year.

Crest Co-operative, based in Llandudno Junction - Company Reg: 35 884 96

http://www.crestcooperative.co.uk/about-us/

Established 15 years ago with a current turnover of £1.2 million employs and supports 110 beneficiaries each year.

Wales Co-operative Centre

The Wales Co-operative Centre was set up over thirty years ago and ever since has been helping businesses grow, people to find work and communities to tackle the issues that matter to them. Its advisors work co-operatively across Wales, providing expert, flexible and reliable support to develop sustainable businesses and strong, inclusive communities.

www.walescooperative.org   

Business Succession and Consortia Project

The Wales Co-operative Centre runs a Business Succession and Consortia project with funding from Welsh Government and European Regional Development Fund. This project offers support to businesses looking to move to employee ownership or start worker co-operative businesses and support to businesses looking to work together in consortia to achieve common business objectives.

http://www.walescooperative.org/working-with-other-businesses

.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â David Madge, Swyddog y Wasg a Marchnata ar 01792 484005 david.madge@walescooperative.org


Ar gael ar gyfer cyfweliad: Rhian Edwards

Gellir trefnu cyfweliadau ag unigolion o'r sefydliadau unigol sy'n aelodau o Draig Text ar gais.


Nodiadau i'r golygydd

Mae Draig Tex yn gonsortiwm o dair menter gymdeithasol sydd wedi'u hen sefydlu yng Ngogledd Cymru:


Seren Ffestiniog Cyf, Blaenau Ffestiniog, Rhif Elusen 1108461

http://www.serencyf.org/#!home/mainPage

Sefydlwyd 18 mlynedd yn ôl â throsiant presennol o £1.1 miliwn, mae'n cyflogi ac yn cefnogi 100 o fuddiolwyr bob blwyddyn.

Antur Waunfawr, tu allan i Gaernarfon, Rhif Elusen 515445

http://www.anturwaunfawr.org/en-GB/Home

Sefydlwyd 30 mlynedd yn ôl â throsiant presennol o £2.1 miliwn, mae'n cyflogi ac yn cefnogi 160 o fuddiolwyr bob blwyddyn.

Crest Co-operative, Cyffordd Llandudno - Rhif Cwmni:  35 884 96

http://www.crestcooperative.co.uk/about-us/

Sefydlwyd 15 mlynedd yn ôl â throsiant presennol o £1.2 miliwn, mae'n cyflogi ac yn cefnogi 110 o fuddiolwyr bob blwyddyn.

Canolfan Cydweithredol Cymru

Sefydlwyd Canolfan Cydweithredol Cymru dros dri deg mlynedd yn ôl ac ers hynny mae wedi bod yn helpu busnesau i dyfu, pobl i ddod o hyd i waith a chymunedau i fynd i'r afael â materion sy'n bwysig iddynt. Mae ei chynghorwyr yn gweithio'n gydweithredol ledled Cymru, yn darparu cymorth arbenigol, hyblyg a dibynadwy i gefnogi datblygu busnesau cynaliadwy a chymunedau cryf, cynhwysol.

www.walescooperative.org 

Prosiect Olyniaeth a Chonsortia

Mae Canolfan Cydweithredol Cymru yn rhedeg prosiect Olyniaeth Busnes a Chonsortia gydag arian gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop. Mae'r prosiect yn cynnig cymorth i fusnesau sy'n awyddus i sefydlu perchnogaeth gan y gweithwyr neu ddechrau busnesu sy'n cael eu rhedeg gan y gweithwyr a chefnogi busnesu sy'n awyddus i weithio gyda'i gilydd i gyflawni amcanion busnes cyffredin.  

http://www.walescooperative.org/working-with-other-businesses


Contacts

David Madge

Press contact Marketing, Press & Public Affairs Officer Press and Public Affairs. Marketing (primarily Succession and Consortia Project). 01792484005

Catherine Evans

Press contact Marketing Manager Overall responsibility for marketing and communications at the Wales Co-operative Centre 01443 743943

Mark Smith

Press contact Marketing Officer Social Media, Case Studies and Communities 2.0 029 2055 6163