Press release -
Menter gydweithredol y gweithwyr yn prynu Caffi poblogaidd yn yr Wyddgrug
Mae menter gydweithredol o saith o weithwyr caffi wedi prynu’r Caffi Florence poblogaidd ym Mharc Gwledig Loggerheads gan ei berchennog. Penderfynodd aelodau’r fenter gydweithredol fanteisio ar y cyfle i brynu’r busnes arobryn pan benderfynodd y perchennog blaenorol adael y busnes.
Mae Caffi Florence yn gaffi arobryn, sy’n arbenigo mewn cynnyrch ffres, tymhorol, cartref a lleol ym Mharc Gwledig Loggerheads ger yr Wyddgrug.
Mae’r cytundeb wedi diogelu dros 15 o swyddi a nifer o swyddi tymhorol yng nghaffi’r Parc Gwledig. Nicola Price-Rohan yw un o’r perchnogion newydd,
Rydym wrth ein boddau’n cymryd awenau Caffi Florence. Fel menter gydweithredol, credwn fod gennym y potensial i gymryd awenau’r busnes a’i ddatblygu ymhellach gan ddefnyddio’r egwyddorion a osodwyd gan ei berchennog gwreiddiol. Fel perchnogion y busnes rydym yn gallu cynllunio ar gyfer y dyfodol a sicrhau bod Caffi Florence yn cynnig bwyd gwych a gwasanaeth gwych ym Mharc Gwledig Loggerheads am amser hir iawn.”
Roedd Jane Clough, y perchennog blaenorol, yn awyddus i’r caffi barhau i ddefnyddio egwyddorion bwyd lleol a pharatoi o’r dechrau. Trosglwyddo’r busnes i’r gweithwyr oedd, yn ddi-os, y ffordd orau o gyflawni hyn. Roedd hi wedi trafod potensial perchnogaeth y gweithwyr yn gynnar iawn, gan nodi grŵp craidd a fyddai’n gallu ateb gofynion cynnal y busnes. Roedd gwybod bod y staff yn awyddus i gymryd yr awenau a bod ganddynt y sgiliau i wneud hynny, wedi’i helpu i wneud y penderfyniad terfynol i adael.
Dywedodd,
“Mae’n wych gwybod bod egwyddorion allweddol Caffi Florence yn ddiogel a bydd y perchnogion newydd yn gallu cynnal y busnes a’i ddatblygu yn y dyfodol.”
Cefnogodd Sarah Owens o Ganolfan Cydweithredol Cymru greu’r fenter gydweithredol newydd a goruchwyliodd y broses o drosglwyddo perchnogaeth. Roedd hi wrth ei bodd pan oedd y perchnogion newydd yn gallu cael yr allweddi i’r caffi ar ddiwedd mis Chwefror,
“Mae Caffi Florence yn fusnes cynaliadwy sydd wedi’i gynnal ar drywydd moesegol cadarn a safonau ansawdd uchel ers sawl blwyddyn. Mae’r ffaith bod y staff wedi cymryd awenau’r busnes yn gyson â’r egwyddorion hyn. Mae hyn yn profi pa mor bwysig yw’r gweithwyr i gynaliadwyedd a photensial twf unrhyw fusnes. Mae’r cytundeb prynu hwn wedi sicrhau cynnal a diogelu dros 15 o swyddi yn yr ardal.”
Roedd Canolfan Cydweithredol Cymru’n gallu brocera trosglwyddo’r busnes hwn o ganlyniad i arian gan Lywodraeth Cymru a’r Undeb Ewropeaidd er mwyn cefnogi’i gwasanaeth Olyniaeth Fusnes.
Cefnogwyd y cytundeb gan Chris Inson o Capital Law yng Nghaerdydd. Roedd Chris yn rhan annatod o gefnogi’r gweithwyr gyda chyngor cyfreithiol arbenigol ac wrth oruchwylio cyflawniad cyfreithiol y cytundeb.
Elwodd y cytundeb ar gefnogaeth gan Gyngor Sir Dinbych y mae safle’r caffi’n eiddo iddynt, ac maent wedi cefnogi ffurfio’r fenter gydweithredol.
Daw creu’r fenter gydweithredol y gweithwyr newydd mewn cyfnod allweddol o ran datblygu mentrau cydweithredol yng Nghymru. Adroddodd Comisiwn Llywodraeth Cymru’n ddiweddar ar botensial datblygu busnesau cydweithredol yng Nghymru ac argymhellodd yn benodol gymysgedd cynhwysfawr o gefnogaeth a chyngor arbenigol ar gyfer mentrau cydweithredol a mentrau cydfuddiannol.
Mae Perchnogaeth y Gweithwyr yn uchel ar agenda gwleidyddol y DU ar hyn o bryd. Mae cymhelliant Treth ar Enillion Cyfalaf wedi’i ddylunio i annog perchnogion busnes i ystyried modelau perchnogaeth y gweithwyr yn rhan o’u cynllun olyniaeth yn elfen allweddol o Fil Cyllideb y DU y dylai’r senedd ei gymeradwyo yn nhymor yr Haf 2014.
Diwedd
Topics
- Economy, Finance
Categories
- parc gwledig loggerheads
- mharc gwledig loggerheads
- loggerheads
- capital law
- denbighshire
- caffi florence
- business succession
- canolfan cydweithredol cymru
- wales co-operative centre
Regions
- Wales
Nodiadau:
Canolfan Cydweithredol Cymru
Sefydlwyd Canolfan Cydweithredol Cymru ddeng mlynedd ar hugain yn ôl ac ers hynny mae wedi bod yn helpu busnesau i dyfu, pobl i ddod o hyd i waith a chymunedau i fynd i’r afael â’r materion sydd o bwys iddynt. Mae ei hymgynghorwyr yn gweithio’n gydweithredol ledled Cymru, gan roi cefnogaeth arbenigol, hyblyg a dibynadwy i ddatblygu busnesau cynaliadwy a chymunedau cryf a chynhwysol.
Ffeithiau a ffigurau defnyddiol:
- Mae tua 446 o sefydliadau cydweithredol ar waith yng Nghymru, gan greu trosiant blynyddol o £1.54 biliwn
- Mae dros 725,000 o aelodau cydweithredol yng Nghymru, o unigolion sy’n cymryd rhan mewn clybiau cymdeithasol, chwaraeon a chymunedol lleol i breswylwyr mewn mentrau tai cydweithredol a masnach busnes amaethyddol cydweithredol sy’n ffurfio tirlun economaidd Cymru
- Mae mentrau cydweithredol yn cyflogi tua 11,000 o bobl yng Nghymru, gan gefnogi ystod amrywiol o swyddi
- Mae deuddeg o’r 100 o fusnesau cydweithredol uchaf yn y DU wedi’u lleoli yng Nghymru, gan greu trosiant blynyddol o tua £280 miliwn
Ffynhonnell: Homegrown: The Co-operative Economy in Wales 2013 http://www.walescooperative.org/the-co-operativeeconomy-in-wales-2013