Press release -

Prif Weithredwr sefydliad datblygu cwmnïau cydweithredol mwyaf blaenllaw Cymru yn croesawu Adroddiad Comisiwn Cwmnïau Cydweithredol a Chydfuddiannol Cymru

Croesawodd Derek Walker, Prif Weithredwr Canolfan Cydweithredol Cymru, gyhoeddi’r adroddiad heddiw gan Gomisiwn Cwmnïau Cydweithredol a Chydfuddiannol Cymru.

Sefydlwyd Canolfan Cydweithredol Cymru yn 1982 ac mae’n cefnogi datblygu cwmnïau cydweithredol a mentrau cymdeithasol ledled y wlad. Cydnabu Mr Walker ehangder y dystiolaeth a gymerwyd a’r effaith y gallai argymhellion yr adroddiad ei chael ar economi Cymru.

Dywedodd:

“Mae Canolfan Cydweithredol Cymru yn croesawu cyhoeddi’r adroddiad. Mae’n cynnig argymhellion beiddgar ac uchelgeisiol, a fyddent pe baent yn cael eu rhoi ar waith, yn cyflymu’r twf mewn sector sydd eisoes yn ddeinamig ac arloesol.

“Mae’r sector cydweithredol wedi bod yn rhan o’n cymdeithas a’n diwylliant yng Nghymru ers dwy ganrif. Mae unigolion yng Nghymru bob amser wedi gweithio gyda’i gilydd i gyflawni nodau cyffredin. O'r cymdeithasau cydweithredol yn y Cymoedd i lyfrgelloedd y glowyr ar ddechrau’r ugeinfed ganrif, mae dulliau cydweithredol yn rhan o’n hanes a’n diwylliant.

“Rydym yn cydnabod arweiniad y Comisiwn a’r dulliau arloesol a gyflwynir yn yr adroddiad.

Addysg:

“Mae Canolfan Cydweithredol Cymru yn gwbl gytûn â’r argymhellion y dylai dysgu am gwmnïau cydweithredol a chydfuddiannol gael ei integreiddio i astudiaethau ehangach y cwricwlwm a’r fagloriaeth. Mae’r Ganolfan yn falch iawn o weld pwyslais yn cael ei roi ar fodelau busnes cydweithredol a chydfuddiannol yng nghymwysterau prif ffrwd busnes a rheoli. Yn fynych mae myfyrwyr yn gadael addysg heb wybod am fodelau busnes cydweithredol a chydfuddiannol. Rydym yn croesawu hyrwyddo’r modelau hyn mewn trafodaethau gyrfa ac entrepreneuriaeth mewn sefydliadau addysg bellach ac uwch.”

Cyllid, Cymorth a Datblygu Cwmnïau Cydweithredol:

“Mae Canolfan Cydweithredol Cymru wedi cefnogi datblygu mentrau cydweithredol y gweithwyr a busnesau sy’n berchen i’r gweithwyr am lawer o flynyddoedd. O gefnogi’r glowyr yn eu hymdrechion i brynu Pwll Glo y Tŵr, i gwmnïau fel Primepac ac yn fwy diweddar Accomodation Furniture Solutions, rydym wedi helpu gweithwyr i gynnal eu dyfodol eu hunain trwy berchnogaeth gydweithredol a democrataidd o’u busnesau.

“Mae Canolfan Cydweithredol Cymru yn croesawu’n gynnes ganfyddiadau’r Comisiwn ar gyngor busnes a chyllid buddsoddi. Mae’r Ganolfan yn cytuno â’r argymhelliad bod cymorth busnes arbenigol ar gyfer datblygu busnesau cydweithredol a busnesau sy’n berchen i’r gweithwyr yn hanfodol. Mae’r Comisiwn yn dadlau bod angen sefydlu arian penodol ar gyfer y mathau hyn o fusnesau. Rydym yn croesawu’r gydnabyddiaeth o’r angen am grantiau a benthyciadau arbennig sydd ar gael ac wedi’u targedu ar gyfer busnesau cydweithredol a busnesau sy’n berchen i’r gweithwyr a byddem yn cefnogi’r alwad i’r arian hwnnw fod ar gael.

“Mae’r argymhellion hyn yn mynd i’r afael â rhwystr sylweddol wrth ddatblygu cwmnïau cydweithredol y gweithwyr a busnesau sy’n berchen i’r gweithwyr yng Nghymru.

“Yn ôl ein profiad ni mae grwpiau gweithwyr sy’n cael y cyfle i brynu neu feddiannu busnes yn aml yn cael anhawster i sicrhau cyllid eilaidd. Byddai cronfa fenthyciadau i lenwi’r bwlch hwn yn ei gwneud yn haws i weithwyr feddiannu busnesau a sicrhau eu dyfodol eu hunain.

“Rydym wedi bod yn hyrwyddo cyllid sbardun a chyllid buddsoddi ar gyfer busnesau cydweithredol a busnesau sy’n berchen i weithwyr ers tipyn o amser. Byddai rhoi'r rhain ar waith yn golygu bod y cam tuag at berchnogaeth gan y gweithwyr yn opsiwn mwy ymarferol a deniadol ar gyfer y perchenogion busnes a grwpiau gweithwyr.

“Mae’r Ganolfan yn cefnogi ffocws yr adroddiad ar fusnesau cydweithredol yn helpu busnesau cydweithredol eraill. Mae cydweithredu ymhlith busnesau cydweithredol yn egwyddor allweddol wrth ddatblygu busnesau cydweithredol. Dylai busnesu cydweithredol helpu busnesau cydweithredol eraill i dyfu a datblygu a gweithio gyda hwy pan fo hyn yn bosibl. Mae Canolfan Cydweithredol Cymru’n falch i weld pwysigrwydd yr egwyddor hon yn cael ei chydnabod yn adroddiad y Comisiwn. Mae’r Ganolfan yn croesawu ffocws yr adroddiad ar ddatblygu busnesau newydd trwy ddulliau deilliedig, cadwyni cyflenwi a mentora ac wrth roi’r egwyddor gydweithredol hon ar waith wrth feithrin twf busnes.

“Mae’r Ganolfan yn croesawu dull seiliedig ar sectorau tuag at ddatblygu a chefnogi cwmnïau cydweithredol a chydfuddiannol, yn enwedig y cyfleoedd mewn iechyd a gofal cymdeithasol, datblygu ynni, tai ac addysg. Mae’r Ganolfan hefyd yn croesawu’r gydnabyddiaeth bod angen dull arbenigol sy’n canolbwyntio ar ddarparu cymorth i sefydliadau cydweithredol a chydfuddiannol newydd a rhai sy’n bodoli eisoes ac yn cefnogi’r syniad o ddefnyddio porth canolog ar y we i ddarparu mynediad hawdd i’r rheini sy’n edrych am gymorth yn y maes hwn.”

Caffael:

“Mae Canolfan Cydweithredol Cymru wedi bod yn ymwneud yn helaeth â dylunio a datblygu Canllaw Ceisiadau ar y Cyd Gwerth Cymru. Rydym yn sicr o blaid argymhellion yr adroddiad bod caffaelwyr yn cael eu hannog i ddatblygu’r gadwyn gyflenwi i hwyluso’r potensial i fusnesau cydweithredol a chydfuddiannol gael mynediad at waith. Rydym yn cydnabod yr effaith y mae arweiniad clir Llywodraeth Cymru yn ei chael ar gaffael yng Nghymru. Rydym yn croesawu’r effeithiau y bydd y mesurau hyn yn eu cael ar fusnesau cydweithredol a busnesau sy’n gweithio gyda’i gilydd fel busnesau cydweithredol i ddarparu nwyddau a gwasanaethau.

“Mae’r Ganolfan yn croesawu’r syniad o brosiect peilot i symbylu twf cwmnïau cydweithredol yng Nghymru. Mae’r awgrym y dylai’r peilot adlewyrchu’r gwaith yr ymgymerwyd ag ef yn Cleveland, Ohio i’w gymeradwyo. Mae Evergreen Co-operatives yn fodelau arloesol o greu swyddi a chynaliadwyedd. Yn y gwaith hwn, mae creu a thwf busnesau cydweithredol wedi cael eu symbylu gan brosesau caffael a dargedwyd trwy gyfrwng nifer o bartneriaid y sector cyhoeddus a phreifat. Nod y dull yw symbylu economi leol, datblygu cyfleoedd busnes newydd a chreu cadwyni cyflenwi cynaliadwy.”

Tir ac Asedau:

“Mae Canolfan Cydweithredol Cymru yn croesawu argymhellion y Comisiwn ar Dir ac Asedau a’r cynnig y dylai cymunedau allu rhestru’r asedau o fewn eu cymunedau a chael y cynnig cyntaf i ddod â’r asedau hynny o dan berchnogaeth gymunedol.”

“Rydym hefyd yn croesawu cynnwys clybiau chwaraeon yn rhan o’r diffiniad hwn. Mae clybiau chwaraeon yn aml yn elfennau hanfodol o gymuned fywiog ac yn cyfrannu at hunaniaeth ac ysbryd cydlynol y gymuned honno.”

Arloesedd:

“Mae Canolfan Cydweithredol Cymru yn croesawu’r gydnabyddiaeth bod arloesedd yn hanfodol i lwyddiant hirdymor mentrau cydweithredol.

  “Gellir addasu modelau cydweithredol ac maent wedi cael eu defnyddio’n arloesol mewn nifer o sectorau gwahanol. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • pobl yn cydweithredu wrth ddefnyddio’u taliadau gofal cymdeithasol uniongyrchol i brynu gwasanaethau gofal pwrpasol a helpu i’w harian fynd yn bellach;
  • buddsoddiad cymunedol wrth brynu a rhedeg gwasanaethau lleol megis tafarndai, siopau a chanolfannau cymunedol;
  • datblygu cyfleusterau ynni adnewyddadwy cymunedol;
  • gwahanol fodelau rhentu a pherchnogaeth ar gyfer datblygiadau tai cydweithredol;
  • a, chonsortia cydweithredol o fusnesau bychain yn gweithio gyda’i gilydd i gael mynediad i gontractau nad oedd modd iddynt gael mynediad iddynt ar eu pennau eu hunain..

Rhwydweithiau:

“Rydym yn croesawu awgrymiadau’r Comisiwn bod y sector cydweithredol yn gweithio gyda’i gilydd i gynyddu ei lais, ei ddylanwad a’i gapasiti ar gyfer ymchwil a strategaeth, er mwyn cynghori Llywodraeth Cymru ac i gynrychioli’r sector. Fel asiantaeth ddatblygu gydweithredol rydym yn awyddus i weithio gyda’r holl randdeiliaid i sicrhau bod Cymru yn cael ei chydnabod fel cartref i gydweithrediad, lle gall busnesau cydweithredol dyfu a ffynnu gyda chefnogaeth rhwydwaith cryf o gynghorwyr, mentoriaid a busnesau cefnogol.”

Crynodeb

“Sefydlwyd Canolfan Cydweithredol Cymru dros 30 mlynedd yn ôl i gefnogi datblygu busnesau cydweithredol a chymdeithasol. Fel sefydliad rydym yn croesawu’r adroddiad hwn gan ei fod yn cynnig fframwaith i gefnogi datblygu busnesau cydweithredol, cydfuddiannol a busnesau sy’n berchen i’r gweithwyr ledled y wlad.

“Mae’r sector cydweithredol yng Nghymru yn gryf ac yn amrywiol ac mae ganddo botensial enfawr i dyfu a datblygu. Gall cwmnïau cydweithredol effeithio’n gadarnhaol ar yr economi a chymunedau yng Nghymru.

“Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda Llywodraeth Cymru a’r sector cydweithredol ledled Cymru i sicrhau bod y dyfodol a ragwelir yn yr adroddiad hwn yn realiti.”

Diwedd

Am ragor o wybodaeth am Ganolfan Cydweithredol Cymru, astudiaethau achos cleientiaid a rhai rhyngwladol, cysylltwch â David Madge, Swyddog y Wasg a Chysylltiadau Cyhoeddus ar 01792 484005 / 07900 167906 / 0300 1115050 neu e-bost david.madge@walescooperative.org a twitter @davemadgecoop Dilynwch @WalesCoOpCentre ar Twitter am astudiaethau achos a dolenni i flogiau sy’n trafod gwahanol agweddau’r adroddiad.


Rhai ffeithiau a ffigurau defnyddiol

  • Mae 446 o sefydliadau cydweithredol yn weithgar yng Nghymru, sy’n gyfrifol am drosiant blynyddol o £1.54 biliwn
  • Mae mwy na 725,000 o aelodau cydweithredol yn bodoli yng Nghymru, o unigolion sy’n cymryd rhan mewn clybiau cymdeithasol, chwaraeon a chymunedol lleol i drigolion mewn tai cydweithredol a busnesau amaethyddol cydweithredol sy’n llunio tirlun economaidd Cymru.
  • Mae cwmnïau cydweithredol yn cyflogi tua 11,000 o bobl yng Nghymru, gan gefnogi amrywiaeth eang o swyddi.
  • Mae deuddeg o blith 100 o fusnesau cydweithredol pwysicaf y DU yng Nghymru, ac yn gyfrifol am drosiant blynyddol o tua £280 miliwn.

Ffynhonnell: Wedi’i Dyfu Gartref: Yr Economi Gydweithredol yng Nghymru 2013 http://www.walescooperative.org/the-co-operativeeconomy-in-wales-2013


Topics

  • Economy, Finance

Categories

  • wales co-operative centre
  • co-operative
  • commission

Regions

  • Wales

Canolfan Cydweithredol Cymru / Wales Co-operative Centre

Canolfan Cydweithredol Cymru Sefydlwyd Canolfan Cydweithredol Cymru tri deg mlynedd yn ôl ac ers hynny mae wedi bod yn helpu busnesau i dyfu, helpu pobl i ddod o hyd i waith a helpu cymunedau i fynd i’r afael â materion sy’n bwysig iddyn nhw. Mae ei chynghorwyr yn gweithio’n gydweithredol ledled Cymru, yn darparu cymorth arbenigol, hyblyg a dibynadwy er mwyn datblygu busnesau cynaliadwy a chymunedau cryf a chynhwysol.

The Wales Co-operative Centre was set up thirty years ago and ever since has been helping businesses grow, people to find work and communities to tackle the issues that matter to them. Its advisors work co-operatively across Wales, providing expert, flexible and reliable support to develop sustainable businesses and strong, inclusive communities.

www.walescooperative.org

Contacts

David Madge

Press contact Marketing, Press & Public Affairs Officer Press and Public Affairs. Marketing (primarily Succession and Consortia Project). 01792484005

Catherine Evans

Press contact Marketing Manager Overall responsibility for marketing and communications at the Wales Co-operative Centre 01443 743943

Mark Smith

Press contact Marketing Officer Social Media, Case Studies and Communities 2.0 029 2055 6163