Skip to content
Carol Bott, Cyfarwyddwr newydd i elusen Strôc yng Nghymru
Carol Bott, Cyfarwyddwr newydd i elusen Strôc yng Nghymru

Press release -

Cyfarwyddwr newydd i elusen Strôc yng Nghymru

Derbyniodd Carol Bott, siaradwraig Cymraeg rhugl, sy'n wreiddiol o Rydaman yn Sir Gaerfyrddin, rôl y Cyfarwyddwr ddechrau mis Rhagfyr. Mae ei rolau blaenorol yn cynnwys Cyfarwyddwr Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned Cymru, NSPCC Cymru, Healthwatch a'r GIG yn Lloegr.

Mae Carol yn dod â chyfoeth o brofiad personol o strôc gyda hi. Cymerodd seibiant gyrfa o 2016-2018 i ofalu am berthnasau hŷn ar ôl iddynt gael strôc. Yn ei gyrfa academaidd, mae Carol hefyd wedi astudio'n helaeth effeithiau strôc ar gleifion a chymunedau lleol yng Nghymru.

Dywedodd Carol, "Mae'n fraint cymryd rôl Cyfarwyddwr y Gymdeithas Strôc yng Nghymru.

"Mae fy mhrofiad personol ac academaidd o strôc yn golygu fy mod yn angerddol am drawsnewid gwasanaethau ar gyfer goroeswyr strôc a'u teuluoedd yng Nghymru.

"Mae'n anrhydedd i gael y cyfle i weithio gyda chydweithwyr ledled Cymru sy'n cefnogi goroeswyr strôc a sicrhau'r adferiad a’r ansawdd bywyd gorau iddynt ar ôl strôc.

"Dywedodd Juliet Bouverie, Prif Weithredwr y Gymdeithas Strôc, "Mae Carol yn ymuno â ni ar adeg cyffrous i’r elusen. Yn ystod y misoedd nesaf, byddwn yn lansio ein gweledigaeth newydd ar gyfer yr elusen yng Nghymru a ledled y DU, a fydd yn sicrhau bod strôc yn flaenoriaeth i ddarparwyr gofal iechyd a bod pobl sydd yn dioddef strôc yn derbyn y cymorth a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt i fyw eu bywydau."

Yn ei hamser hamdden, mae Carol yn unawdydd, yn mwynhau siarad yn gyhoeddus, teithio a gofalu am ei hwyrion.

Am ragor o wybodaeth am waith y Gymdeithas Strôc yng Nghymru, ewch i www.stroke.org.uk

Topics


Trawiad ar yr ymennydd yw strôc sydd yn digwydd pan fydd y cyflenwad gwaed i’r ymennydd yn cael ei atal, unai oherwydd clot neu waedu. Pob blwyddyn, bydd o gwmpas 7,400 o bobl yng Nghymru’n cael strôc ac mae’r Gymdeithas Strôc yn amcangyfrif bod bron i 66,000 o oroeswyr strôc yn byw yng Nghymru.

Elusen yw’r Gymdeithas Strôc. Credwn ym mywyd ar ôl strôc a gyda’n gilydd gallwn drechu strôc. Gweithiwn yn uniongyrchol gyda goroeswyr strôc a’u teuluoedd a gofalwyr, gyda gweithwyr gofal iechyd a chymdeithasol a gyda gwyddonwyr ac ymchwilwyr. Ymgyrchwn i wella gofal a chefnogaeth strôc a chefnogwn bobl i wella yn y ffordd orau posib. Mae’r Llinell Gymorth Strôc (0303 303 3100) yn darparu gwybodaeth a chefnogaeth ar strôc. Mae mwy o wybodaeth ar gael ar www.stroke.org.uk

Contacts

Angela Macleod

Angela Macleod

Press contact Communications Officer Scotland press and Stroke Association research communications 0131 555 7244
Laura Thomas

Laura Thomas

Press contact Communications Officer Wales 07776508594
Ken Scott

Ken Scott

Press contact Press Officer North of England and Midlands 0115 778 8429
Daisy Dighton

Daisy Dighton

Press contact Press Officer London and East of England 02079401358
Martin Oxley

Martin Oxley

Press contact Press Officer South of England 0207 566 1548
Vicki Hall

Vicki Hall

Press contact PR Manager Fundraising and local services 0161 742 7478
Scott Weddell

Scott Weddell

Press contact PR Manager Stroke policy, research and Northern Ireland 02075661528
Katie Taylor

Katie Taylor

Press contact Head of PR & Media This team is not responsible for booking marketing materials or advertising
Out of hours contact

Out of hours contact

Press contact Media queries 07799 436008
Kate Asselman

Kate Asselman

Press contact Artist Liaison Lead 07540 518022
Tell us your story

Tell us your story

Press contact 07799 436008

The UK's leading stroke charity helping people to rebuild their lives after stroke

The Stroke Association. We believe in life after stroke. That’s why we campaign to improve stroke care and support people to make the best possible recovery. It’s why we fund research to develop new treatments and ways to prevent stroke. The Stroke Association is a charity. We rely on your support to change lives and prevent stroke. Together we can conquer stroke.

Stroke Association
City Road
EC1V 2PR London
UK