Blog post -

Cynlluniau Nadolig Menter Fachwen yn Dwyn Ffrwyth

Nadolig yw cyfnod prysuraf y flwyddyn ym Menter Fachwen. Mae’r cyfan yn dechrau cyn gynted ag y mae’r mwyar duon yn barod i’w pigo, rhaid i ni bigo pwysi ar bwysi i wneud jam ar gyfer basgedi Nadolig, a chafwyd cnwd mawr eleni a oedd yn ddechrau da i ni.

Eleni rydym wedi canolbwyntio ar ansawdd a chyflwyniad ein cynnyrch Nadolig; roeddem am iddo edrych yn berffaith.  Thema 2013 oedd ailgylchu, ailddefnyddio ac uwch-gylchu popeth posib.

Roedd Nadolig 2012 yn rhywfaint o drychineb, ar 22 Tachwedd effeithiodd llifogydd ar dri o’n busnesau a ddaeth â diwedd i lawer o’r dathlu a drefnwyd, ond nid ydym yn sefydliad i adael i chwe modfedd o faw ein hatal.

Achubwyd popeth posib o’r llifogydd, gan gynnwys yr hen estyll pinwydd a redai ar hyd llawr gwaelod ein siop yn Llanberis.  Roedd y llawr yn Nhŷ Caxton wedi’i ddifrodi gormod i’w adfer a bu’n rhaid cael gwared arno.  Mae’r busnes gwaith asiedydd, Craig yr Wylan, yn defnyddio pren wedi’i ailgylchu lle bo’n bosib, fel arfer yn 101 peth y gallwch ei wneud o balet, ond daeth 2013 yn flwyddyn o ‘ddefnyddio’r hen estyll’. Eleni maent wedi gwneud tai adar a phryfed hardd o bren a fyddai fel arall wedi mynd i’r safle tirlenwi.

Bu Tŷ Gwydr, ein busnes garddwriaeth, yn casglu pob math o bethau rhyfedd, gan gynnwys tinau arlwyo gwag o westy lleol ac yn dilyn rhywfaint o ddychymyg ac addurno, maent yn edrych yn hyfryd gyda’r bylbiau a blannwyd yn yr hydref.  Roeddem wedi achub hen gwpanau te o’r sgip mewn canolfan gymunedol segur sydd bellach yn gartref i blanhigion bach sy’n hongian o gambrenni macramé cartref, dyna ichi uwch-gylchu retro!

Roedd pawb yn rhan o’r paratoadau; rydym yn tyfu llawer o’n ffrwythau a’n llysiau ein hunain. Mae gennym randir, twneli mawr a gardd fach.  Rydym yn tyfu cwrens duon, gwsberis, mafon a riwbob, winwns, tomatos, ciwcymbr a garlleg.

Mae’n ymdrech wirioneddol gymunedol, mae gennym gysylltiadau gwych yn y pentrefi, pob blwyddyn cawn ein gwahodd i bigo ffrwythau perffaith a fyddai fel arall yn disgyn o’r coed. Gofynnwyd i ni bigo afalau, pêrs, eirin a chwins o erddi ein cymdogion. Cafodd y rhain eu troi’n jamiau, siytni a phiclau sy’n llenwi’r basgedi gaiff eu gwerthu yn y Ffeiriau Nadolig lleol.

Nid jamiau a siytni yw’r cyfan; yng Nghaffi Padarn yn Fachwen buont yn gwneud pwdinau Nadolig moethus. Mae’r rhain yn gwerthu’n dda yn y caffi a’r Ffeiriau Nadolig; mae Sally wedi gwneud dros 100 eleni.

Bydd Caffi Caban y Cwm yng Nghwm y Glo wedi gwneud 1,200 mins-pei erbyn y Nadolig... Ond nid mins-peis cyffredin fydd y rhain; yn hytrach mins-peis Menter Fachwen yn llawn dop o friwgig. Bydd rhai â llugaeron ar eu pen neu farsipán, crymbl oren, cnau almon, eisin lemwn neu gymysgedd o’r uchod i dynnu dŵr o’ch dannedd.

Ar 10 Rhagfyr, bydd caffi EB Deiniolen yn cynnal cinio Nadolig ar gyfer 25 o’i gwsmeriaid selog. Gwn eu bod yn edrych ymlaen at wledd odidog.

Mae hi fel ffair adeg Nadolig a dyma giplun bach o’r cyfan sy’n digwydd ym Menter Fachwen eleni.

Mae manylion o ‘beth sy’ ‘mlaen’ ym Menter Fachwen a sut i ymuno yn yr hwyl neu brynu ein cynnyrch ar gael ar ein gwefan www.menterfachwen.org.uk. Gallwch chi hefyd ein galw ar 01286 872 014.

Topics

  • Economy, Finance

Regions

  • Wales

Contacts

David Madge

Press contact Marketing, Press & Public Affairs Officer Press and Public Affairs. Marketing (primarily Succession and Consortia Project). 01792484005

Catherine Evans

Press contact Marketing Manager Overall responsibility for marketing and communications at the Wales Co-operative Centre 01443 743943

Mark Smith

Press contact Marketing Officer Social Media, Case Studies and Communities 2.0 029 2055 6163