Blog post -

PATCH (Gweithredu yn erbyn Caledi Sir Benfro) #cefnogircyfan

Dyma’r blog diweddaraf gennym sy’n rhan o ymgyrch ‘Cefnogi’r Cyfan’ y Gaeaf, sy’n hyrwyddo rôl – ac yn annog pobl i gefnogi – mentrau cymdeithasol, cydweithfeydd a sefydliadau cymdeithasol eraill Cymru yn arwain at y Nadolig.

Mae PATCH (Gweithredu yn erbyn Caledi Sir Benfro) yn fenter gymdeithasol sy’n rhoi parseli bwyd, dillad ac eitemau bach cartref i bobl ledled Sir Benfro sydd mewn argyfwng ariannol. Mae’r Cydlynydd Tracy Olin yn egluro yma pam mae gan waith y fenter arwyddocâd arbennig adeg y Nadolig...

“Dyma adeg fwyaf rhyfeddol y flwyddyn!

Dyma’r adeg y cawn ein dal yng nghanol bwrlwm prynu anrhegion a’n bwyd Nadoligaidd. Rydym yn sicrhau bod gennym bob llysieuyn dan haul i gyd-fynd â seren y sioe, y twrci Nadolig. Rydym hefyd angen pwdin Nadolig, mins-peis ac wrth gwrs siocledi i’w bwyta wrth wylio ffilm y prynhawn.....

Ond, mae nifer o bobl yma yng Nghymru sydd, fel y gwelir mewn nofel Charles Dickens, yn brwydro i gadw’n gynnes a hyd yn oed i gael tun o gawl poeth ar gyfer y ‘diwrnod mawr’.

Dyma’r chweched flwyddyn i PATCH roi parseli bwyd ar gyfer y Nadolig a chynnal apêl teganau Nadolig. Dwi wedi bod yn rhan o redeg banciau bwyd am 13 o flynyddoedd, ond dim ond y llynedd, (dwi ychydig yn araf), y cefais fy mwrw go iawn wrth feddwl am bobl yn cael cŵn poeth neu belenni cig yn unig i ginio Nadolig. Cefais fy llorio, ond yna sylweddolais na fyddai’r bwyd hynny gan bobl hyd yn oed oni bai am leoedd megis PATCH a’r cynnydd aruthrol yn nifer y banciau bwyd ledled y wlad.

Fe gwrddes i â dyn rhyfeddol eleni a ddywedodd wrthyf yr oedd ar un Noswyl Nadolig yn eistedd yn ei fflat gyda theledu a oedd wedi torri, gwely a sleisen o bizza oer, a dim arian. Roedd wedi “colli popeth” - ei fusnes, ei deulu, popeth a oedd yn bwysig iddo. Ymwelodd ag eglwys leol mewn anobaith, dim ond oherwydd eu bod yn cynnig mins-peis a gwin twym. Ei enw yw Kelvin Marsh ac ef bellach yw Prif Weithredwr rhwydwaith cenedlaethol o fanciau bwyd, The FoodStore Network.

Yn anffodus nid yw ei stori Noswyl Nadolig yn unigryw. Yma yn PATCH, fel ein rhiant-elusen, rydym yn rhoi nwyddau Nadoligaidd ynghyd â’r pecyn bwyd 5 diwrnod arferol. Ni allwn roi’r twrci, ond byddwn yn rhoi pecyn o lysiau ffres yn ystod yr wythnos cyn y Nadolig. Byddwn hefyd yn rhoi pythefnos o fwyd i rai cleientiaid i’w cynnal trwy’r cyfnod, gan ein bod yn cau dros y gwyliau.

Mae rhoddion i’r banciau bwyd lleol yn hanfodol trwy’r flwyddyn, ond hyd yn oed yn fwy hanfodol yr adeg hon o’r flwyddyn. Mae’n bleser gennyf ddweud bod pobl Sir Benfro yn bodloni holl anghenion ein cleientiaid. Mae fy nhîm o 60 o wirfoddolwyr (mae ar nifer ohonynt angen eu parseli bwyd eu hunain) yn brysur iawn yr adeg hon o’r flwyddyn, gan fod nifer ein cleientiaid yn dyblu o leiaf yn ystod yr wythnos cyn y Nadolig.

Felly, yn ogystal â phrynu bwyd a phethau da ar gyfer eich anwyliaid, beth am brynu ychydig yn fwy a’i roi i’ch banc bwyd lleol er mwyn i’r rheini mewn angen hefyd allu mwynhau ychydig o hwyl yr ŵyl.

Mae’r sefydliad yn y blog hwn yn un o nifer y gallwch eu cefnogi. Mae llawer mwy ar gael ar ein Cyfeiriadur Cefnogi’r Cyfan. Nadolig Llawen a ‘phrynwch yn gymdeithasol’.


Topics

  • Economy, Finance

Regions

  • Wales

Contacts

David Madge

Press contact Marketing, Press & Public Affairs Officer Press and Public Affairs. Marketing (primarily Succession and Consortia Project). 01792484005

Catherine Evans

Press contact Marketing Manager Overall responsibility for marketing and communications at the Wales Co-operative Centre 01443 743943

Mark Smith

Press contact Marketing Officer Social Media, Case Studies and Communities 2.0 029 2055 6163