Press release -

Carwyn Jones signals importance of digital inclusion at launch of new initiative / Carwyn Jones yn dynodi pwysigrwydd cynhwysiant digidol mewn digwyddiad i lansio menter newydd

New digital inclusion initiative Get Bridgend Online will help people to use online services such as Universal Jobsmatch and access the other benefits of being online.

Launch event: Friday 6th December 1-4pm

Pyle Life Centre, Bridgend

Carwyn Jones, AM for Bridgend, will launch Get Bridgend Online at Pyle Life Centre on Friday 6th December.

Mr Jones will also present a series of awards to volunteers and digital inclusion champions which recognise the impact they make in helping people to get online in the Bridgend borough.

The Get Bridgend Online initiative is a partnership between housing provider Valleys to Coast, Bridgend County Borough Council, the Local Service Board and The Creation Group. The initiative is supported by the Welsh Government’s Communities 2.0 digital inclusion programme, which is partly funded by the European Regional Development Fund.

The Get Bridgend Online initiative brings a co-ordinated approach to digital inclusion delivery that meets the needs of digitally excluded people in Bridgend. Communities 2.0 regional digital inclusion initiatives such as this one aim to support individuals affected by the UK Government’s digital by default approach to Welfare Reform. This approach now means that job seekers have to search for posts using the Universal Jobsmatch system which is only available online.

The Get Bridgend Online initiative comprises several distinct elements:

Training for frontline staff to support digitally excluded users of their services to access job search and Universal Credit.

Awareness raising seminars for the Local Service Board Direct support for digitally excluded individuals in Bridgend.

Training and support facilities have been made available through a network of IT venues such as libraries and community centres.

Engagement of social housing tenants, older people, unemployed people and disabled people with the technology appropriate and relevant to their lives.

The initiative also includes a volunteer element that recruits and supports or Digital Champions to work within the community and support delivery at libraries, community centres and job clubs.

It is estimated that the initiative will work with approximately 1720 direct beneficiaries and up to 800 indirect beneficiaries. It will recruit 20 volunteers and train 80 frontline staff.

Councillor Lyn Morgan, Cabinet Member for Wellbeing at Bridgend County Borough Council, said:

“I welcome the Get Bridgend Online initiative as it is becoming more important than ever for people to be digitally active, especially jobseekers and people living in poorer areas who could otherwise find themselves at a disadvantage.

“Together with our partners, the council believes that it is essential for people to have at least a basic understanding of how to use ICT and the internet, and we look forward to the benefits that this new scheme will deliver.”

Steve Curry, Community Regeneration Manager of Valleys to Coast Housing in Bridgend is a delivery partner in Get Bridgend Online along with The Creation Group. He explained why this initiative is important to the area,

“Valleys To Coast and The Creation Group see how digital exclusion can effect our communities on a daily basis. Our support means that clients who are often intimidated by the idea of getting online are able to learn how to access the benefits they are entitled to and increase their employability within the workforce. By offering them support to get online we can help them to help themselves".

Cathryn Marcus is Project Director for Communities 2.0 which has supported the development of the project since its inception,

“Communities 2.0 is delighted to add its support to this essential project in Bridgend. Get Bridgend Online will allow each of the partners to develop and grow their own skills and services and embed digital inclusion into the services they offer. This will benefit individuals across Bridgend by giving them support in friendly and accessible community venues such as libraries and community centre’s across the Borough”

For more information on Get Bridgend Online, contact Jonathan Price on 07788 286551, or by email jonathan.price@creation.me.uk

For more information on Communities 2.0 visit www.communities2point0.org or call 0845 474 8282

Bydd y fenter cynhwysiant digidol newydd Dewch Ar-lein Pen-y-bont ar Ogwr yn helpu pobl i ddefnyddio gwasanaethau ar-lein megis Paru Swyddi Ar-lein a chael mynediad at fanteision eraill sy’n deillio o fod ar-lein.


Digwyddiad lansio: Dydd Gwener 6 Rhagfyr

1-4pm Canolfan Fywyd Y Pîl, Pen-y-bont ar Ogwr

Bydd Carwyn Jones, AC dros Ben-y-bont ar Ogwr, yn lansio Dewch Ar-lein Pen-y-bont ar Ogwr yng Nghanolfan Fywyd Y Pîl ar ddydd Gwener 6 Rhagfyr. Bydd Mr Jones hefyd yn cyflwyno cyfres o wobrau i wirfoddolwyr a hyrwyddwyr cynhwysiant digidol sy’n cydnabod yr effaith y maent yn ei chael wrth helpu pobl i fynd ar-lein ym mwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Mae’r fenter Dewch Ar-lein Pen-y-bont ar Ogwr yn bartneriaeth rhwng y darparwr tai Cymoedd i’r Arfordir, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, y Bwrdd Gwasanaethau Lleol a The Creation Group. Cefnogir y fenter gan raglen cynhwysiant digidol Llywodraeth Cymru, Cymunedau 2.0, a ran-ariennir â chyllid o Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.

Mae’r fenter Dewch Ar-lein Pen-y-bont ar Ogwr yn cyflwyno dull cyd-drefnedig ar gyfer cyflawni cydlyniant digidol sy’n diwallu anghenion pobl sydd wedi’u hallgau’n ddigidol ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Mae mentrau cynhwysiant digidol rhanbarthol gan Cymunedau 2.0 megis yr un yma wedi’u bwriadu i roi cymorth i unigolion yr effeithir arnynt gan ddull ‘digidol yn bennaf’ Llywodraeth y DU mewn perthynas â Diwygio Lles. Mae’r dull hwn bellach yn golygu bod ceiswyr gwaith yn gorfod chwilio am swyddi gan ddefnyddio’r system Paru Swyddi Ar-lein, nad yw ond ar gael ar-lein.

Mae’r fenter Dewch Ar-lein Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnwys sawl elfen wahanol:

Hyfforddiant i staff rheng-flaen er mwyn iddynt allu rhoi cymorth i ddefnyddwyr eu gwasanaethau sydd wedi’u hallgau’n ddigidol gael mynediad at offer chwilio am swyddi a Chredyd Cynhwysol.

Seminarau codi ymwybyddiaeth i’r Bwrdd Gwasanaethau Lleol

Cymorth uniongyrchol i unigolion sydd wedi’u hallgau’n ddigidol ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Trefnwyd fod cyfleusterau hyfforddiant a chymorth ar gael trwy rwydwaith o leoliadau TG megis llyfrgelloedd a chanolfannau cymunedol.

Cysylltu tenantiaid tai cymdeithasol, pobl hŷn, pobl ddi-waith a phobl anabl â’r dechnoleg sy’n briodol ac yn berthnasol i’w bywydau.

Mae’r fenter hefyd yn cynnwys elfen wirfoddoli sy’n recriwtio ac yn cefnogi Hyrwyddwyr Digidol i weithio o fewn y gymuned a rhoi cymorth i ddarparu mewn llyfrgelloedd, canolfannau cymunedol a chlybiau gwaith.

Amcangyfrifir y bydd y fenter yn gweithio gyda thua 1720 o fuddiolwyr uniongyrchol a hyd at 800 o fuddiolwyr anuniongyrchol. Bydd yn recriwtio 20 o wirfoddolwyr ac yn hyfforddi 80 o staff rheng-flaen.

Meddai’r Cynghorydd Lyn Morgan, yr Aelod Cabinet dros Les yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr:

“Rwy’n croesawu’r fenter Dewch Ar-lein Pen-y-bont ar Ogwr gan ei bod yn bwysicach nag erioed i bobl fod yn weithredol yn ddigidol, yn enwedig ceiswyr gwaith a phobl sy’n byw mewn ardaloedd tlotach a allai eu cael eu hunain dan anfantais fel arall.

“Ynghyd â’n partneriaid, mae’r Cyngor yn credu ei bod yn hanfodol i bobl fod â dealltwriaeth sylfaenol o leiaf sut i ddefnyddio TGCh a’r Rhyngrwyd, ac rydym yn edrych ymlaen at y manteision y bydd y cynllun newydd yma’n eu rhoi.”

Mae Steve Curry, Rheolwr Adfywio Cymunedol Tai Cymoedd i’r Arfordir ym Mhen-y-bont ar Ogwr, yn un o bartneriaid cyflawni Dewch Ar-lein Pen-y-bont ar Ogwr ynghyd â The Creation Group. Eglurodd pam fod y fenter hon yn bwysig i’r ardal,

“Mae Cymoedd i’r Arfordir a The Creation Group yn gweld sut y gall allgau digidol effeithio ar ein cymunedau yn ddyddiol. Mae ein cymorth ni’n golygu bod cleientiaid sy’n aml yn cael eu dychryn gan y syniad o fynd ar-lein yn gallu dysgu sut i gael mynediad at y manteision y mae ganddynt hawl iddynt a chynyddu eu cyflogadwyedd o fewn y gweithlu. Trwy gynnig cymorth iddynt fynd ar-lein gallwn eu helpu hwy i helpu eu hunain".

  Cathryn Marcus yw Cyfarwyddwr Prosiect Cymunedau 2.0 sydd wedi rhoi cymorth i ddatblygu’r prosiect ers y dechrau,

“Mae Cymunedau 2.0 wrth ei fodd i roi ein cefnogaeth i’r prosiect hanfodol yma ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Bydd Dewch Ar-lein Pen-y-bont ar Ogwr yn caniatáu i bob un o’r partneriaid ddatblygu a thyfu eu sgiliau a’u gwasanaethau eu hunain a sefydlu cynhwysiant digidol fel rhan annatod o’r gwasanaethau y maent yn eu cynnig. Bydd hyn o fudd i unigolion ledled Pen-y-bont ar Ogwr trwy roi cymorth iddynt mewn lleoliadau cymunedol cyfeillgar a hygyrch megis llyfrgelloedd a chanolfannau cymunedol ledled y Fwrdeistref”

I gael mwy o wybodaeth am Dewch Ar-lein Pen-y-bont ar Ogwr, cysylltwch â Jonathan Price ar 07788 286551, neu anfonwch neges e-bost i jonathan.price@creation.me.uk   I gael mwy o wybodaeth am Cymunedau 2.0 ewch at y wefan www.communities2point0.org neu ffoniwch 0845 474 8282


Topics

  • Economy, Finance

Categories

  • pyle
  • bridgend
  • valleys to coast
  • digital inclusion
  • communities 2.0

Regions

  • Wales

Notes to Editors:


The launch event will feature a series of awards presented to individuals who have already made a difference to the delivery of digital inclusion in the area.

  • Junior Digital Champion 2013
  • Senior Digital Champion 2013
  • Digital Learner of the Year 2013
  • Silver Surfer Award 2013
  • Beneficiaries Champion 2013
  • Commitment Award 2013

Communities 2.0

Communities 2.0 is a Welsh Government programme and is part of the Delivering a Digital Wales strategy. Communities 2.0 is delivered by four partner organisations – the Wales Co-operative Centre, Pembrokeshire Association of Voluntary Services, Carmarthenshire County Council and the George Ewart Evans Centre for Storytelling (University of South Wales). Communities 2.0 works in the Convergence area of Wales and parts of Wrexham, Flintshire and Powys, helping communities and small enterprises to make the most of the internet. www.communities2point0.org.uk

Valleys To Coast

Valleys To Coast Housing (V2C) operates in the County of Bridgend, with a stock of some 5,800 houses and a small portfolio of retail premises. It was the first housing association in Wales to be established as a result of a large scale voluntary transfer of social housing ownership by a local authority, supported by tenants. V2C is an Industrial and Provident Society with Charitable Rules, operating as a social enterprise which invests in both people and communities. www.v2c.org.uk

TimeCentres UK

Timecentres UK promotes, designs and create networks of active people all over the UK


Nodiadau i Olygyddion:

Bydd y digwyddiad lansio’n cynnwys cyfres o wobrau’n cael eu cyflwyno i unigolion sydd eisoes wedi gwneud gwahaniaeth i gyflawni cynhwysiant digidol yn yr ardal.

  • Hyrwyddwr Digidol Iau 2013

  • Hyrwyddwr Digidol Hŷn 2013

  • Dysgwr Digidol y Flwyddyn 2013

  • Gwobr Porwyr Penwyn  2013

  • Hyrwyddwr Buddiolwyr 2013

  • Gwobr Ymrwymiad 2013

Cymunedau 2.0 

Rhaglen gan Lywodraeth Cymru yw Cymunedau 2.0 ac mae’n rhan o’r strategaeth Cyflawni Cymru Ddigidol. Caiff Cymunedau 2.0 ei chyflawni gan bedwar sefydliad partner – Canolfan Cydweithredol Cymru, Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro, Cyngor Sir Gaerfyrddin a Chanolfan Adrodd Storïau George Ewart Evans (Prifysgol De Cymru). Mae Cymunedau 2.0 yn gweithio yn yr ardal Gydgyfeirio yng Nghymru a rhannau o Wrecsam, Sir y Fflint a Phowys, gan helpu cymunedau a mentrau bychain i wneud y gorau o’r Rhyngrwyd.

www.communities2point0.org.uk

Cymoedd i’r Arfordir

Mae Tai Cymoedd i’r Arfordir (V2C) yn gweithredu ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, gyda stoc o ryw 5,800 o dai a phortffolio bach o safleoedd adwerthu. Hon oedd y gymdeithas dai gyntaf yng Nghymru i gael ei sefydlu o ganlyniad i drosglwyddo stoc tai cymdeithasol ar raddfa fawr gan awdurdod lleol, gyda chefnogaeth tenantiaid.

Mae V2C yn Gymdeithas Ddiwydiannol a Darbodus â Rheolau Elusennol, sy’n gweithredu fel menter gymdeithasol sy’n buddsoddi mewn pobl a chymunedau. 

www.v2c.org.uk

TimeCentres UK

Mae Timecentres UK yn hyrwyddo, yn dylunio ac yn creu rhwydweithiau o bobl weithgar dros y DU gyfan


Contacts

David Madge

Press contact Marketing, Press & Public Affairs Officer Press and Public Affairs. Marketing (primarily Succession and Consortia Project). 01792484005

Catherine Evans

Press contact Marketing Manager Overall responsibility for marketing and communications at the Wales Co-operative Centre 01443 743943

Mark Smith

Press contact Marketing Officer Social Media, Case Studies and Communities 2.0 029 2055 6163