Press release -
Cefnogaeth i ofalwyr goroeswyr strôc
Mae tua 66,000 o oroeswyr strôc yng Nghymru, ac mae nifer ohonynt ag anableddau cymhleth sydd angen gofal hirdymor. Mae rhan fwyaf o'r gofal yma’n cael ei roi gan eu teuluoedd, sydd hefyd angen cefnogaeth eu hunain.
Mae nifer y gofalwyr wedi codi’n sylweddol wrth i’r cyfanswm o bobl sy’n goroesi strôc cynyddu. Erbyn 2037, mae Carers UK yn rhagweld cynnydd o 40% mewn nifer y gofalwyr ledled Prydain,
I bob gofalwr, gall addasu i rôl ofalu fod yn sialens emosiynol a chorfforol. Ond i ofalwyr goroeswyr strôc, mae natur sydyn a chymhleth strôc yn ychwanegu i’r her.
Mae’r rhaglen Gofalu a Chi wedi’i hariannu gan gynllun cymorthdaliadau Newid er Gwell sydd wedi ei noddi gan Fwrdd Iechyd Abertawe a Bro Morgannwg. Mae’r prosiect yn rhannu sgiliau gofalu newydd, yn ogystal â chreu rhwydwaith cefnogi i helpu aelodau ofalu am oroeswr strôc.
Dywedodd Liz Atter, cydlynydd y Gymdeithas Strôc sy’n cydlynu Gofalu a Chi:
“Yn ogystal â dysgu am effaith cudd strôc a sut i gael cymorth i’r un sydd wedi cael strôc, bydd y cwrs yn canolbwyntio ar anghenion y gofalwr. Bydd yn helpu lleihau’r straen, y teimladau unig ac edrych ar ffyrdd o wella eu hiechyd."
Ychwanegodd Liz bod Gofalu a Chi o gymorth i bobl sy’n ofalwyr newydd, yn ogystal â’r rhai sydd wedi bod yn gofalu am flynyddoedd.
Mae Enid Williams, 75 o Hwlffordd, yn gofalu am ei ŵr, Michael, 80, sydd wedi cael strôc a hefyd yn byw â dementia. Daeth hi o hyd i gefnogaeth wych trwy’r rhaglen Gofalu a Chi â chafodd ei gynnal yn Sir Benfro blwyddyn ddiwethaf.
Meddai Enid:
“Trafodon sut oeddwn ni’n teimlo a newidiadau yn ein tymer. Roedd yn wir o gymorth, oherwydd weithiau, dwi jest yn teimlo fel 'gyd dwi’n gwneud yw gweini ar fy ngŵr, sydd yn gallu fod yn anodd, yn enwedig gan nad yw’n gallu ymateb.”
Yr oedd y cymorth ymarferol hefyd o gymorth i Enid. Ychwanegodd:
“Rwy wedi cael cynnig sesiynau fel ‘ma o’r blaen, ond nid oedd yn bosib i mi fynd heb rywun i edrych ar ôl Michael. Ond gyda’r rhaglen yma, roedd yn bosib i mi ei adael gyda’r grŵp strôc a gwybod byddai’n iawn.
“Rwy’n annog eraill i fynd gan fod yn codi tynnu mawr oddi ar eich ysgwyddau."
Bydd llefydd ar gyfer hyd at 10 gofalwr yn y sesiynnau, sy’n cychwyn yng Nghanolfan Cymunedol Three Crosses, Abertawe ar Hydref 4 a Chanolfan Cymunedol Melin Cryddan, Castell-nedd ar 31 Hydref.
elin Cryddan Community Centre on 31 October.
Am ragor o wybodaeth ac i gofrestru eich diddordeb, ffoniwch y Gymdeithas Strôc ar 02920 524400 neu e-bostiwch info.cymru@stroke.org.uk
www.stroke.org.uk/about-us/for-professionals/life-after-stroke-services/caring-and-you-programme