Press release -
Rhywbeth blasus ar gyfer rhoi help law i bobi
Rhywbeth blasus ar gyfer rhoi help law i bobi
Ydych chi'n meddwl beth i 'w greu ar gyfer 'Rhoi Help Law i Bobi' fis Hydref?
Cewch eich hysbrydoli gan y codwr arian ardderchog Marie o Slimtone Healthy Living Pen y bont ar Ogwr, sy’n ein cefnogi wrth i nifer o oroeswyr strôc ddod i’w dosbarthiadau cadw’n iach.
Cacen Lemwn
Cynhwysion
8 owns/225g menyn
4owns/225g siwgr hanner llwy
4 wy wedi'i gymysgu
croen 2 lemwn
sudd 1 lemwn
10 owns/300g blawd codi
1 llwy de powdr codi
Surop lemwn
sudd 2 lemwn
1 pwys siwgr eisin
1 pwys siwgr hanner llwy
Dewch i goginio!
Cynheswch y popty i dymheredd o 150C /300f / Marc nwy 2
Cymysgwch y margarin a'r siwgr mewn bowlen fawr. .Ychwanegwch yr wyau yn raddol i'r brif gymysgedd a chymysgwch yn dda. Ychwanegwch y blawd, powdr codi, croen a sudd lemwn a'i gymysgu. Tolltwch y gymysgedd i dun bara wed'i iro a choginiwch yn y popty am 1 awr 40 munud nes mae wedi codi ac yn frown euraidd.
Surop lemwn
Cymysgwch y sudd lemwn a'r siwgr a tholltwch dros y gagen tra mae'n boeth. Gadewch i oeri'n llwyr cyn ei thorri.
Edrychwn ymlaen i weld eich hymdrechion!
I ddarganfod mwy am Roi Help Law i Bobi, sy’n cychwyn am wythnos o 22 Hydref 2018, ewch iwww.stroke.org.uk/gah
Topics
* Trawiad ar yr ymennydd yw strôc sydd yn digwydd pan fydd y cyflenwad gwaed i’r ymennydd yn cael ei atal, unai oherwydd clot neu waedu. Pob blwyddyn, bydd o gwmpas 7,400 o bobl yng Nghymru’n cael strôc ac mae’r Gymdeithas Strôc yn amcangyfrif bod bron i 66,000 o oroeswyr strôc yn byw yng Nghymru.
* Elusen yw’r Gymdeithas Strôc. Credwn ym mywyd ar ôl strôc a gyda’n gilydd gallwn drechu strôc. Gweithiwn yn uniongyrchol gyda goroeswyr strôc a’u teuluoedd a gofalwyr, gyda gweithwyr gofal iechyd a chymdeithasol a gyda gwyddonwyr ac ymchwilwyr. Ymgyrchwn i wella gofal a chefnogaeth strôc a chefnogwn bobl i wella yn y ffordd orau posib. Mae’r Llinell Gymorth Strôc (0303 303 3100) yn darparu gwybodaeth a chefnogaeth ar strôc. Mae mwy o wybodaeth ar gael ar www.stroke.org.uk