Press release -
GWEINIDOG YN NODI CARREG FILLTIR GYNTAF PROJECT ‘CYFLYMU CYMRU’
Cartrefi a busnesau dinas Bangor y cyntaf i elwa Recriwtio’r prentisiaid cyntaf yn y gogledd
Bydd rhannau o ddinas Bangor ymhlith ardaloedd cyntaf y wlad i dderbyn band llydan ffeibr uwchgyflym fel rhan o broject Cyflymu Cymru gwerth sawl £miliwn.
Bydd y project, partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru a BT, yn lledu band llydan ffeibr ar draws y wlad, gan gyrraedd ardaloedd na fydd cynlluniau masnachol y sector preifat yn gallu gwasanaethu.
Heddiw dadorchuddiwyd cabinet band llydan ffeibr cyntaf Cyflymu Cymru gan y gweinidog busnes Edwina Hart. Gosodwyd yn Stryd Fawr, Bangor, er mwyn gwasanaethu cannoedd o gartrefi a busnesau yn yr ardal. Gallai’r cwsmeriaid cyntaf fod yn profi buddion y dechnoleg mor gynnar â’r gwanwyn.
Erbyn hyn, mae’r project yn gosod cabinetau stryd ychwanegol mewn rhannau eraill o’r ddinas wrth i’r rhaglen ddatblygu. Yn y pen draw bydd peirianwyr yn gosod oddeutu 17,500 cilomedr o gebl ffeibr optig a thua 3,000 cabinet newydd mewn strydoedd ar hyd a lled y wlad.
Dywedodd Mrs Hart: “Mae heddiw yn garreg filltir bwysig fel rhan o ymrwymiad y Llywodraeth i sicrhau bydd cartrefi a busnesau ar draws y wlad yn gallu derbyn band llydan yr oes nesaf.
"Bydd Cyflymu Cymru yn trawsnewid tirwedd band llydan y wlad, gan wneud Cymru yn un o’r gwledydd gorau yn Ewrop yn nhermau cysylltiadau band llydan. Mae band llydan cyflym yn hanfodol os am ddarparu mynediad i wasanaethau a chyfleoedd y technolegau digidol diweddaraf.
“Bydd defnydd o fand llydan oes nesaf hefyd yn bwysig i fusnesau ar draws y wlad, wrth eu helpu i weithio’n fwy effeithiol a chystadlu ar farchnadoedd byd-eang. Mae’r buddsoddiad hwn yn dangos ein hymroddiad i gefnogi economi’r wlad a chynnal y rhwydweithiau angenrheidiol i’w helpu i ffynnu. Mae hefyd yn galonogol gweld nifer y prentisiaid bydd y project hwn yn cyflogi, gan ddarparu cyfleoedd gwaith gwerthfawr ar gyfer pobl ifanc yn ystod cyfnod economaidd anodd."
Ychwanegodd Mike Galvin, rheolwr gyfarwyddwr buddsoddiad rhwydweithiau Openreach: “Rydym wedi cydweithio’n agos â Llywodraeth Cymru i gwblhau’r broses baratoi a chynllunio er cyrraedd y sefyllfa fel y mae hi heddiw o ragweld cysylltu cwsmeriaid cyntaf Cyflymu Cymru erbyn y gwanwyn.
“Bydd y buddsoddiad yn gweld Openreach yn gweithio mewn cymunedau ar draws y wlad er mwyn darparu band llydan ffeibr cflym. Mae’n gyfnod cyffrous ac yn bwysig iawn i bawb sy'n byw a gweithio yng Nghymru sydd angen gwasanaeth band llydan cyflym a dibynadwy.”
Mae Bangor ymhlith yr wyth lleoliad cyntaf a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru a BT i elwa o waith y bartneriaeth, ynghyd ag ardaloedd Caernarfon, Dolgellau, Porthaethwy, Porthmadog, Pwllheli, Glyn Ebwy & Tredegar.
Bydd BT yn recriwtio 100 prentis newydd fel rhan o’r project. Mae eisoes wedi penodi tri yn y gogledd, gyda 15 arall i ymuno yn y gwanwyn. Bydd yn penodi mwy wrth i’r rhaglen ddatblygu.
Cyflymu Cymru yw’r bartneriaeth fwyaf o’i bath yn y Deyrnas Unedig. Sefydlwyd er mwyn helpu Llywodraeth Cymru i gyrraedd y nod o ddarparu band llydan cyflym ar gyfer 96% o gartrefi a busnesau’r wlad.
Mae band llydan ffeibr yn cynnig cyflymderau llawer uwch na’r rhai sy’n bosibl ar hyn o bryd, gyda band llydan uwchgyflym yn darparu cyflymder hyd yn oed uwch os bydd busnesau ei angen.
Bydd rhwydwaith cyflym Openreach yn agored ar delerau cyfanwerthu cyfartal i bob cwmni sy’n darparu gwasanaethau band llydan ar gyfer cartrefi a busnesau.
Manylion pellach am y rhaglen, yn cynnwys amserlen i wasanaethu’r gwahanol ardaloedd, ar wefan Cyflymu Cymru www.superfast-cymru.com.
DIWEDD
Topics
- Telecom
Categories
- group