Skip to main content

Mynd ar wib ym Mhentywyn unwaith eto

Press Release   •   Feb 29, 2016 11:46 GMT

Pentywyn yn Sir Gaerfyrddin, sy'n enwog am y cynigion a wnaed yno i dorri'r record cyflymder ar dir, yw un o'r mannau diweddaraf yng Nghymru i ddechrau elwa ar fand eang cyflym iawn, diolch i raglen Cyflymu Cymru.

Gall y cartrefi a'r busnesau cyntaf sy'n cael eu gwasanaethu gan gyfnewidfa Pentywyn fynd ati bellach i archebu band eang cyflym iawn, a bydd rhagor yn ymuno â nhw dros y misoedd nesaf wrth i'r gwaith o gyflwyno'r gwasanaeth barhau.

Mae'r ardal yn hen gyfarwydd â chyflymder am fod sawl cynnig i dorri’r record cyflymder ar dir wedi'i wneud ar draeth Pentywyn ers y 1920au ar ôl i Malcolm Campbell roi ei gynnig cyntaf arni yng nghar enwog Blue Bird.

Partneriaeth yw Cyflymu Cymru rhwng Llywodraeth Cymru a BT, ac mae cyllid ychwanegol yn cael ai ddarparu gan Broadband Delivery UK (BDUK) a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF).

Mae’r rhaglen yn dod â band eang cyflym iawn i ardaloedd lle na fyddai modd ei ddarparu fel arall.

Newydd ddechrau mae'r gwaith ym Mhentywyn ac os hoffai trigolion archebu'r gwasanaeth ‒ neu gael gwybod pryd mae hynny'n debygol o fod yn bosibl ‒dylent fynd iwww.superfast-cymru.com

Mae dros 40,000 o adeiladau yn Sir Gaerfyrddin yn gallu manteisio ar fand eang erbyn hyn, diolch i raglen Cyflymu Cymru. Mae'r rhaglen honno'n ychwanegol at y gwaith sy'n cael ei wneud gan y sector preifat mewn rhai rhannau o'r sir i gyflwyno band eang ffibr yn fasnachol. Mae'r gwaith o gyflwyno'r gwasanaeth yn parhau ar draws y sir wrth i beirianwyr Openreach, busnes rhwydweithiau lleol BT, gysylltu mwy a mwy o adeiladau bob dydd, gan wneud hynny dan amodau anodd yn aml.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg, Julie James: "Mae Pentywyn wedi bod yn gysylltiedig â chyflymder ers blynyddoedd maith, ac mae'n enwog am hynny. Erbyn hyn, gall y cartrefi a'r busnesau cyntaf ddechrau manteisio ar fand eang cyflym iawn, a bydd rhagor yn elwa ar y gwasanaeth dros y misoedd nesaf wrth i'r gwaith barhau.

"Rydyn ni wedi ymyrryd er mwyn sicrhau bod gwasanaethau cyflym iawn ar gael, a hynny am fod cwmnïau preifat wedi penderfynu nad oedd yn fasnachol hyfyw iddyn nhw fynd ati ar eu pen eu hunain i gyflwyno gwasanaethau ffibr yn yr ardaloedd hyn.Diolch i'r rhaglen, mae dros 560,000 o adeiladau ym mhob cwr o Gymru yn gallu manteisio ar y gwasanaethau hyn, ac mae’r gwaith o’u darparu ar gyfer rhagor o gartrefi a busnesau yn dal i fynd rhagddo.

Mae'r gwasanaethau cyflym iawn hyn yn golygu bod y rhyngrwyd yn gynt a bod modd g wneud gwell defnydd ohono.Er enghraifft, mae'n golygu bod pawb yn y tŷ yn gallu dilyn eu trywydd eu hunain ar y we, i gyd ar yr un pryd, boed hynny’n ffrydio ffilmiau, yn lawrlwytho cerddoriaeth, yn astudio neu'n cadw mewn cysylltiad ag anwyliaid.

Mae rhaglen Cyflymu Cymru yn brosiect enfawr. Bydd peirianwyr Openreach yn gosod 17,500 o gilometrau o geblau ffibr optig a rhyw 3,000 o flychau gwyrdd newydd wrth ochr y ffordd. Ar gyfartaledd, bydd dros 100 o adeiladau ar draws Cymru yn cael eu cysylltu â band eang cyflym iawn bob awr.

Os yw band eang cyflym iawn ar gael i aelwydydd a busnesau, ni fyddant yn cael eu huwchraddio'n awtomatig, a dylent gysylltu â'u Darparwr Gwasanaethau Rhyngrwyd os ydynt am newid o fand eang confensiynol.

Mae Llywodraeth Cymru yn darparu grantiau hefyd er mwyn i fusnesau fanteisio ar fand eang gwibgyswllt, ac mae hyd at £10,000 ar gael er mwyn gosod y gwasanaeth hwnnw.Os nad yw cartrefi a busnesau'n gallu cael band eang cyflym iawn drwy raglen Cyflymu Cymru, mae grantiau ar gael iddyn nhw hefyd er mwyn iddyn nhw gael band eang cyflym iawn mewn ffyrdd eraill, megis drwy loeren.

Mae rhagor o fanylion am y cynlluniau hynny i'w gweld yma: llyw.cymru/bandeang