Blog post -

'Antur Waunfawr' adeg y Nadolig #cefnogircyfan

Dyma’r blog diweddaraf gennym sy’n rhan o ymgyrch ‘Cefnogi’r Cyfan’ y Gaeaf, sy’n hyrwyddo rôl – ac yn annog pobl i gefnogi – mentrau cymdeithasol, mentrau cydweithredol a sefydliadau cymunedol eraill Cymru yn y cyfnod sy’n arwain at y Nadolig.

Aethom ar Twitter yn ddiweddar i sôn am Ffair Nadolig gymunedol Antur Waunfawr, sydd wedi cael ei chynnal ers tua 25 mlynedd. Sefydlwyd y digwyddiad er mwyn dod â phreswylwyr Waunfawr a’r ardal leol at ei gilydd.

Yma, gwelwn sut mae gweithwyr Antur Waunfawr wedi cadw’n brysur yn creu addurniadau Nadolig unigryw, yn y cyfnod sy’n arwain at y Nadolig gyda chymorth artist lleol.

Astudiodd Tess Urbanska o Rydyclafdy, gwrs Celf a Dylunio yng Ngholeg Menai, Bangor, a dechreuodd ei gyrfa gan weithio o seler ei rhieni. Mae hi bellach yn artist hynod boblogaidd sydd hefyd yn gweithio yn diwtor rhan amser yng Ngholeg Harlech.

Roedd Tess yn y gorffennol wedi helpu gweithwyr a staff Antur i greu darnau celf trawiadol gan ddefnyddio ceginau wedi’u hailgylchu, hen bapurau newydd a phaent. Fodd bynnag, gyda’r Nadolig yn prysur agosáu teimlwyd bod angen rhywbeth llawer yn fwy Nadoligaidd.

Defnyddiodd y tîm hen grochenwaith, gan adeiladu haenau o fwydion papur ar ei ben, wedyn eu peintio a’u trawsffurfio’n blatiau addurniadol gyda phwdinau Nadolig, angylion a rhagor!

Dywedodd Tess: “Rydw i wedi gweithio gyda phobl ag anableddau dysgu o’r blaen, ac mae pob tro’n rhoi llawer o foddhad i mi. Rydw i’n mwynhau gweithio yma yn Antur yn fawr iawn, ac yn dwlu ar weld cynnydd y gweithwyr. Mae’r gwaith celf y maent yn ei gynhyrchu’n wirioneddol ragorol ac mae pob un darn yn unigryw.”

Cytunodd y Rheolwr Gwasanaethau Dydd Sara Gant: “Crëwyd pob darn o gelf a gynhyrchir yma’n bennaf gan y gweithwyr, gydag ychydig o arweiniad gan Tess ac aelodau eraill o staff. Bu’n rhagorol cael Tess yma gyda ni, a bu’n foddhad arbennig i’r gweithwyr gan eu bod bellach yn gweld eu gwaith terfynol wedi’i arddangos yn ein siop.”

Mae Antur Waunfawr yn fenter gymdeithasol arweiniol a sefydlwyd ym 1984, ac mae’n darparu cyflogaeth a chyfleoedd hyfforddi ar gyfer pobl ag anableddau dysgu.

Mae’r sefydliad yn y blog hwn yn un o nifer y gallwch eu cefnogi. Mae llawer rhagor ar gael yn ein cyfeiriadur Cefnogi’r Cyfan. Nadolig Llawen a ‘phrynwch yn gymdeithasol’.


Topics

  • Economy, Finance

Regions

  • Wales

Contacts

David Madge

Press contact Marketing, Press & Public Affairs Officer Press and Public Affairs. Marketing (primarily Succession and Consortia Project). 01792484005

Catherine Evans

Press contact Marketing Manager Overall responsibility for marketing and communications at the Wales Co-operative Centre 01443 743943

Mark Smith

Press contact Marketing Officer Social Media, Case Studies and Communities 2.0 029 2055 6163