Blog post -
'Beacons Creative' adeg y Nadolig #cefnogircyfan
Dyma’r blog diweddaraf gennym sy’n rhan o ymgyrch ‘Cefnogi’r Cyfan’ y Gaeaf, sy’n hyrwyddo rôl – ac yn annog pobl i gefnogi – mentrau cymdeithasol, mentrau cydweithredol a sefydliadau cymunedol eraill Cymru yn y cyfnod sy’n arwain at y Nadolig.
Nid yw prynhawn oer o Ragfyr yn oeri hwyl yr ŵyl yng Nghanol Dinas Caerdydd, gyda llai nag wythnos tan y diwrnod mawr; mae llawer o bobl yn prynu anrhegion munud olaf. Mae Mark Smith ym mhrifddinas Cymru i gwrdd â Brian Popsys, Prif Weithredwr Beacons Creative, gyda’r prynu’n frwd ym Marchnad Nadolig Caerdydd:
Mae safle marchnad Beacons Creative wedi’i leoli rhwng masnachwyr eraill sy’n gwerthu popeth o emwaith i waith pren a theganau i deisennau bach. I nifer o'r rhain y Nadolig yw amser prysuraf y flwyddyn.
Mae Beacons Creative (Cymru) Limited yn fusnes cymdeithasol unigryw sy’n cynhyrchu canhwyllau a chynnyrch cysylltiedig, wrth ddarparu cyfleoedd am gyflogaeth i bobl ag anawsterau dysgu a’r rheini sydd lleiaf tebygol o gael cyflogaeth. Ganwyd Beacons Creative o un mlynedd ar ddeg o wasanaeth gofal dydd a ddarparwyd gan Gyngor Sir Powys, ac fe ddaeth yn gwmni cyfyngedig drwy warant yn 2009. Amcan y cwmni yw datblygu gwerthiant, creu cynnyrch newydd, darparu cyfleoedd am gyflogaeth i ddefnyddwyr y gwasanaeth o fewn amgylchedd diogel a gofalgar, a thrawsffurfio’r gwasanaeth gofal dydd yn fusnes llwyddiannus sy’n gwneud elw.
Esblygodd Beacons Creative o Beacons Candles, yn dilyn ymholiad am gyfleoedd am gyflogaeth gan un o ddefnyddwyr y gwasanaeth ar y pryd. Arweiniodd hyn at allanoli’r gwasanaeth gofal dydd blaenorol.
Dywedodd Brian wrthym fod pethau’n datblygu’n dda: “Mae busnes yn dda. Rydym yn derbyn llawer o archebion, gan gynnwys rhai ar gyfer canhwyllau pwrpasol. Caiff rhai o’r canhwyllau eu gwneud o ddeunyddiau ailgylchu. Rydym hefyd wedi ychwanegu canhwyllau cwyr soia at y dewis sydd ar gael, ymhlith eraill.
“Pob mis rydym wedi edrych ar sut y gallwn barhau i gyflogi mwy o bobl, i ddarparu cyflogaeth â thâl. Rydym yn gobeithio cyflogi 22 person arall y flwyddyn nesaf, wrth i ni ehangu’r busnes i wneud sebonau a deunyddiau ymolchi eraill.”
Gallwch glywed cyfweliad â Brian Popsys ar ein safle SoundCloud.
Mae’r sefydliad yn y blog hwn yn un o nifer y gallwch eu cefnogi. Mae llawer rhagor ar gael yn ein cyfeiriadur Cefnogi’r Cyfan. Nadolig Llawen a ‘phrynwch yn gymdeithasol’.
Topics
- Economy, Finance
Regions
- Wales