Blog post -

Chwilio am grefftau wedi’u masnachu’n foesegol neu anrhegion ardystiedig masnach deg i lenwi’r hosanau? Dewch i Siopa Teg y Nadolig hwn #CefnogirCyfan

Dyma’r blog diweddaraf gennym sy’n rhan o ymgyrch ‘Cefnogi’r Cyfan’ y Gaeaf', sy’n hyrwyddo rôl – ac yn annog pobl i gefnogi – mentrau cymdeithasol, cydweithfeydd a sefydliadau cymdeithasol eraill Cymru yn arwain at y Nadolig.

Chwilio am grefftau wedi’u masnachu’n foesegol neu anrhegion ardystiedig masnach deg i lenwi’r hosanau? Dewch i Siopa Teg y Nadolig hwn #CefnogirCyfan

Siopa Teg yw un o’r siopau Masnach Deg mwyaf yng Nghymru ac mae’n cefnogi’r ymgyrch i wneud Cymru’n Genedl Masnach Deg ers y dechrau. Mae nifer o wirfoddolwyr yn helpu i redeg y siop a chanddi ddewis eang o gynnyrch ac sy’n darparu gwasanaeth gwych wrth gynnig nwyddau gwerthu neu ddychwelyd i grwpiau ysgol i godi ymwybyddiaeth o Fasnach Deg. Felly os ydych yn chwilio am grefftau wedi’u masnachu’n foesegol neu siocledi ardystiedig masnach deg i lenwi’r hosanau, dewch draw i Siopa Teg.

Mae’r holl stoc wedi’i ardystio’n fasnach deg neu daw o gyflenwyr a gymeradwywyd gan Gymdeithas Siopau Masnach Deg Prydain neu aelodau o Sefydliad Masnach Deg y Byd.

Ymhlith y crefftau prydferth o safon sydd ar werth mae posau a theganau pren i blant, a wnaethpwyd â llaw gan Lanke Cade yn Sri Lanka. Mae’r sefydliad yn cynrychioli busnesau teuluol bach, nid oes dyn canol a thelir cyflog teg i’r gweithwyr yn brydlon ac mae ganddynt amodau gweithio diogel. Mae offerynnau cerdd wedi’u gwneud o ddeunyddiau wedi’u hailgylchu hefyd yn gwneud anrhegion eco gwych.

Gwerthwyr poblogaidd eraill y Nadolig hwn yw chwibanau bambŵ cynaliadwy o Indonesia, nwyddau arian i’r bwrdd o India gan y brand Created (yn flaenorol Tearcraft) a gemwaith. Dechreuodd Siopa Teg ei pherthynas fasnachu uniongyrchol gyntaf â Fair Trade Egypt, gan fewnforio gemwaith a sgarffiau a gynhyrchwyd gan grefftwyr. Mae’r fenter yn helpu i gynnal sgiliau crefft traddodiadol a chynrychioli cynhyrchwyr sydd ar y cyrion.

Gallech lenwi hamper Nadolig â siocled o frandiau megis Divine a Seed and Bean gyda digonedd o ddewis ar gyfer dietau arbennig. Byddai pentyrrau o fyrbrydau gan Traidcraft yn cyd-fynd yn wych â diodydd archwaeth Nadoligaidd. Mae cynhyrchwyr y cynnyrch ardystiedig masnach deg hyn hefyd yn cael premiwm i’w ddefnyddio ar gyfer gwella cymunedau.

Mae hefyd perlysiau a sbeisys ar gyfer gwin twym a the a choffi o frandiau cydweithredol megis Essential ac Equal Exchange. Mae olew olewydd Zaytoun a datys o Balesteina yn gwneud anrhegion gwych ac yn ystod y blynyddoedd diwethaf cynhaliwyd digwyddiadau blasu olew olewydd gyda Ffermwyr o Balesteina yn Chapter yn ystod Pythefnos Masnach deg.

Mae’r gornel fach hon o Dreganna yn gwneud ei rhan i wneud y Nadolig ychydig yn fwy ystyrlon. Dechreuodd Jan Tucker y siop yn 1998, a hi bellach yw’r Cyfarwyddwr Gweithredol. Mae Jan yn dweud:
“Mae ein cwsmeriaid yn gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau ffermwyr a chrefftwyr yn y byd datblygol.

“Rydym wedi bod yn ffodus o gael dwsinau o ymwelwyr o gymunedau sy’n cynhyrchu dros y blynyddoedd, gan gynnwys tyfwyr coffi o Dde America, ffermwyr bananas o’r Caribî, gwneuthurwyr gemwaith o Orllewin Affrica a ffermwyr olewydd o Balesteina. Mae ein holl ymwelwyr wedi dweud wrthym sut y mae masnach deg wedi gwneud gwahaniaeth enfawr iddyn nhw, eu teuluoedd a’u cymunedau. Ar eu rhan hoffem ddiolch i’n cwsmeriaid ffyddlon a’n gwirfoddolwyr a’n cynrychiolwyr ymroddgar sydd rhyngddynt yn cynnal cannoedd o ddigwyddiadau gwerthu neu ddychwelyd yn Ne Cymru a thu hwnt bob blwyddyn a dymunwn Nadolig Llawen iddyn nhw i gyd.”

Yn ddiweddar daeth Siopa Teg yn CBC (Cwmni Buddiannau Cymunedol) gyda chymorth Canolfan Cydweithredol Cymru.

Ymwelwch â Siopa Teg o ddydd Mawrth i ddydd Sadwrn rhwng 10am a 5pm http://www.fairdos.com/home/

10 Heol Llandaf, Treganna, Caerdydd CF11 9NJ

Neu i gael rhagor o wybodaeth neu i gael stondin mewn ysgol neu grŵp, cysylltwch trwy’r dulliau isod

Rhif ffôn 02920 222066

info@fairdos.com

Mae’r sefydliad yn y blog hwn yn un o nifer y gallwch eu cefnogi. Mae llawer mwy ar gael ar ein Cyfeiriadur Cefnogi’r Cyfan. Nadolig Llawen a ‘phrynwch yn gymdeithasol’.


Topics

  • Economy, Finance

Regions

  • Wales

Contacts

David Madge

Press contact Marketing, Press & Public Affairs Officer Press and Public Affairs. Marketing (primarily Succession and Consortia Project). 01792484005

Catherine Evans

Press contact Marketing Manager Overall responsibility for marketing and communications at the Wales Co-operative Centre 01443 743943

Mark Smith

Press contact Marketing Officer Social Media, Case Studies and Communities 2.0 029 2055 6163