Blog post -

Cyfleoedd ar gyfer Gofal Cymdeithasol cydweithredol #walescoopreport

Ceri-Anne Fidler o Ganolfan Cydweithredol Cymru sy’n archwilio achos Comisiwn Cwmnïau Cydweithredol a Chydfuddiannol Cymru dros gynyddu rôl cwmnïau cydweithredol gofal cymdeithasol o ran darparu gwasanaethau gofal.

Mae Canolfan Cydweithredol Cymru yn cefnogi canfyddiad Comisiwn Cwmnïau Cydweithredol a Chydfuddiannol Cymru bod achos cryf dros gynyddu rôl cwmnïau cydweithredol gofal cymdeithasol oherwydd y gwerth ychwanegol y gallant ei gynnig. Yn ein profiad ni, mae cwmnïau cydweithredol yn cynnig gwasanaethau gofal cymdeithasol o safon uchel sy’n seiliedig ar werth. Maent yn darparu gwasanaethau ymatebol sy’n cael eu cyfarwyddo gan ddinasyddion sy’n rhoi llais cryfach a rhagor o reolaeth i ddefnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr. Yn olaf, maent wedi’u hangori yn eu cymunedau ac mae buddsoddiad gan y sector cyhoeddus mewn cwmnïau cydweithredol yn aros yn y gymuned ac yn cael ei ailgylchu er budd economaidd a chymdeithasol ehangach. Gallwch ddarllen rhagor am hyn yn ein hymateb i’r ymgynghoriad ynghylch Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru).

Mae cwmnïau cydweithredol sefydliedig sy’n gweithio yn y sector yn dangos manteision gwirioneddol a gwerth ychwanegol dull cydweithredol o ddarparu gofal cymdeithasol. Er enghraifft, mae Foster Care Charity yn gofalu am 160 o blant o 55 awdurdod lleol, gan gynnwys Cymru. Mae’n ail-fuddsoddi elw i ddarparu rhagor o gymorth a hyfforddiant gofal maeth. Mae’n darparu lefel uchel o gymorth i ofalwyr maeth yn y gred bod hyn yn cynorthwyo hirhoedledd a sefydlogrwydd lleoliadau, gan gynnwys cyfarfodydd grwpiau cymorth bob chwe wythnos.

Rydym hefyd yn rhannu safbwynt y Comisiwn y gallai Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) fod yn gatalydd pellach i dwf. Mae’r Bilyn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i hyrwyddo mentrau cymdeithasol, cwmnïau cydweithredol, gwasanaethau sy’n cael eu harwain gan ddefnyddwyr a’r trydydd sector wrth ddarparu gwasanaethau gofal a chymorth. Mae Canolfan Cydweithredol Cymru wedi bod yn gweithio ar brosiect ar y cyd â Chwmnïau Cymdeithasol CymruChwmnïau Cymdeithasol Cymru sy’n canolbwyntio ar y ddyletswydd hon i hyrwyddo. Mae tîm y prosiect wedi ysgrifennu adroddiad sy’n cynnwys Cyngor i Lywodraeth Cymru ynglŷn â pha gamau sy’n angenrheidiol i sicrhau bod gofynion y Bil yn cael eu trosi’n gamau gweithredu ar lawr gwlad. Mae’r adroddiad yn seiliedig ar gyfweliadau ymchwil ag awdurdodau lleol, cwmnïau cydweithredol, mentrau cymdeithasol, arianwyr, rheoleiddwyr a defnyddwyr gwasanaethau a’u sefydliadau cynrychiadol. Buom hefyd yn cynnal cyfres o seminarau ac ymweliadau astudio â mentrau cymdeithasol i godi ymwybyddiaeth a dwysau’r ddealltwriaeth ymhlith staff awdurdodau lleol.

Roedd ein canfyddiadau wedi datgelu cymorth aruthrol ar gyfer y ddyletswydd i hyrwyddo, ac roedd llawer o randdeiliaid o’r farn y bydd yn rhoi grym i ddefnyddwyr gwasanaethau a’u gosod wrth wraidd dylunio a darparu gwasanaethau. Er hynny, mae ein hymchwil hefyd wedi dangos pryderon ynghylch rhwystrau posibl tuag at weithredu’r ddyletswydd. Clywsom bryderon bod angen newid diwylliannol ac angen dweud wrth gynrychiolwyr llywodraeth leol am y dull cydweithredol a’r manteision y gallai gynnig. Mae hyn yn adlewyrchu casgliad y Comisiwn bod angen newid sylweddol o ran diwylliant ac arweiniad cryf er mwyn gwireddu potensial y Bil. Bydd y grŵp prosiect yn parhau i weithio gydag awdurdodau lleol i godi’u hymwybyddiaeth o’r dull cydweithredol. Yn ystod ail gam y prosiect, rydym yn bwriadu gweithio gyda phrosiectau peilot a byddwn yn darparu rhagor o gymorth dwys i gefnogi awdurdodau lleol â hyn.

Mae’r Bil hefyd yn amlinellu’r fframwaith a allai roi caniatâd i awdurdodau lleol neu osod gofyniad arnynt i wneud taliadau uniongyrchol i unigolyn tuag at y gost o fodloni anghenion gofal a chymorth. Rydym o’r farn bod gan hyn hefyd y potensial i wneud newid sylweddol a fyddai’n rhoi grym i ddefnyddwyr gwasanaethau. Mae hyn yn cael ei arddangos gan ein hymchwil i gydweithredu a chwmnïau cydweithredol o ran datblygu cynlluniau taliadau uniongyrchol yng Nghymru. Mae hyn yn cael ei arddangos gan ein hymchwil i gydweithredu a chwmnïau cydweithredol o ran datblygu cynlluniau taliadau uniongyrchol yng Nghymru. Trwy ffurfio cwmnïau cydweithredol a chronni eu taliadau uniongyrchol, gall defnyddwyr gwasanaethau weithredu mwy o ddewis a phŵer prynu. Mae ein hadroddiad yn darparu astudiaethau achos pwerus sy’n arddangos manteision y dull hwn ar gyfer defnyddwyr gwasanaethau.

Yn gyffredinol, rydym o’r farn y gall cwmnïau cydweithredol a dulliau cydweithredol fod yn ganolog i’r newidiadau sy’n gosod defnyddwyr gwasanaethau wrth wraidd dylunio a darparu gwasanaethau. Rydym yn cytuno â’r Comisiwn bod y Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant yn cynnig cyfle unigryw i Gymru.

Topics

  • Economy, Finance

Categories

  • direct payments
  • social care
  • cooperatives and mutuals commission
  • wales co-operative centre

Regions

  • Wales

Contacts

David Madge

Press contact Marketing, Press & Public Affairs Officer Press and Public Affairs. Marketing (primarily Succession and Consortia Project). 01792484005

Catherine Evans

Press contact Marketing Manager Overall responsibility for marketing and communications at the Wales Co-operative Centre 01443 743943

Mark Smith

Press contact Marketing Officer Social Media, Case Studies and Communities 2.0 029 2055 6163