Blog post -
Cyfres Caffis Arweinyddiaeth: Cydnabod Arweinwyr yng Nghymru
Mae Gwobrau Arwain Cymru yn cynnal cyfres o gaffis arweinyddiaeth ym mis Ionawr a Chwefror 2014 ar draws Cymru yn ystod y cyfnod enwebu (mae enwebiadau ar agor rhwng 13eg Ionawr a 14eg Mawrth 2014). Mae Canolfan Cydweithredol Cymru’n gyd-noddwr y categori Menter Gymdeithasol, ochr yn ochr â Chwmnïau Cymdeithasol Cymru.
Mae pob sgwrs Caffi Arweinyddiaeth yn darparu cyfle i gyfranogwyr fyfyrio ac archwilio materion hanfodol yn ymwneud ag arweinyddiaeth ac arwain yng Nghymru a byddwch yn gallu:
Cael y cyfle i fyfyrio am yr hyn mae arweinyddiaeth yn ei olygu i chi. Trafod sut rydym yn cydnabod arweinyddiaeth effeithiol ac ysbrydoledig. Ystyried yr hyn mae arweinwyr da yn ei wneud a sut maent yn ymddwyn
Ni chodir tâl am fynychu unrhyw rai o'r Caffis Arweinyddiaeth ond mae'n hanfodol archebu eich lle os hoffech fynychu.
Glyn Ebwy:
Lleoliad: Monwel Ltd, Heol Letchworth, Glyn Ebwy, NP23 6UZ
Dyddiad: Dydd Iau 23ain Ionawr 2014
Amser: 10:30 cyrraedd; dod i ben am 12:00
Cyffordd Llandudno: Lleoliad: Crest Cooperative, Tŷ Brierley, Heol Fferm y Fferi, Cyffordd Llandudno, Conwy LL31 9SF
Dyddiad: Dydd Mercher 19eg Chwefror 2014
Amser: 10:00 cyrraedd; dod i ben am 11:30
Topics
- Economy, Finance
Regions
- Wales