Blog post -
Derek Walker: Croeso i ymgyrch ‘Cefnogi’r Cyfan’ Gaeaf 2013! #cefnogircyfan
Croeso i’r cyntaf mewn cyfres o flogiau i’ch annog i gefnogi busnesau mentrau cymdeithasol a chydweithredol dros yr Ŵyl. Mae ein hymgyrch Cefnogi’r Cyfan yn ymwneud â’ch annog i siopa gyda busnesau cymdeithasol lleol dos yr wythnosau nesaf.
Mae busnesau cymdeithasol ledled Cymru’n gwerthu eitemau o safon sy’n ddelfrydol ar gyfer anrhegion Nadolig. O gynnyrch gwydr hardd (Ten Green Bottles) i seidr lleol (Cymdeithas Perai Seidr Cymru), ac o ddodrefn yr ardd (Sefydliad y Deillion Merthyr Tudful) i ganhwyllau persawrus, cyneuwyr tân a sebon (Beacons Creative), mae rhywbeth i bawb. Mae’r mentrau arobryn hyn yn galw am eich busnes y Nadolig hwn.
Mae hefyd cannoedd o fusnesau cymdeithasol sy’n helpu pobl anghenus trwy gydol y flwyddyn. Mae FareShare er enghraifft yn dosbarthu cynnyrch gormodol ‘addas i bwrpas’ o’r diwydiant bwyd a diod i sefydliadau sy’n gweithio gyda phobl ddifreintiedig yn y gymuned. Byddwn yn sôn rhagor am eu gwaith da dros y pythefnos nesaf.
Os ydych yn prynu’n gymdeithasol rydych yn rhoi ddwywaith – yn gyntaf i’r derbynnydd ond hefyd i’r achos da. Mae’n gweithio’n debyg i brynu cardiau Nadolig gan elusen. Nid busnesau llwyddiannus yn unig yw mentrau cymdeithasol, mae pwrpas cymdeithasol iddynt hefyd. Efallai mai’r pwrpas hwnnw yw darparu gwaith i bobl anabl, helpu i fynd i’r afael â newid hinsawdd neu gefnogi prosiectau dŵr glân yn Affrica. Trwy siopa gyda’r busnesau hyn, rydych yn cael nwyddau o safon ac yn helpu rhai achosion arbennig hefyd.
Topics
- Economy, Finance
Regions
- Wales