Blog post -
Nadolig yng Nghaleri #cefnogircyfan
Dyma’r blog diweddaraf gennym sy’n rhan o ymgyrch ‘Cefnogi’r Cyfan’ y Gaeaf, sy’n hyrwyddo rôl – ac yn annog pobl i gefnogi – mentrau cymdeithasol, mentrau cydweithredol a sefydliadau cymunedol eraill Cymru’n arwain at y Nadolig.
Mae’r Nadolig yn gyfnod i fyfyrio ar gyfer Menter Gymdeithasol y Flwyddyn yng Nghymru, sef Galeri yng Nghaernarfon. Mae’r Rheolwr Marchnata, Steffan, wedi dweud wrthym ei fod yn gyfle i edrych yn ôl ar gyflawniadau 2013, gan edrych ymlaen at y flwyddyn o’n blaenau:
Mae Galeri Caernarfon Cyf., Cwmni Tref Caernarfon Cyf. gynt, yn fenter gymunedol nid er elw sy’n gweithredu’n Ymddiriedolaeth Datblygiad.
Gweledigaeth Galeri Caernarfon Cyf. yw:
"mae unrhyw beth yn bosibl… trwy feddwl yn greadigol a gweithredu’n gynaliadwy"
Er mwyn gwireddu’r weledigaeth bydd y cwmni’n: “cynnal prosiectau cynaliadwy mewn ffordd greadigol er mwyn cyflawni potensial diwylliannol, economaidd ac amgylcheddol y gymuned leol a’i amgylchoedd”
Sefydlwyd y cwmni ym 1992 a gweithiodd yn galed i wella delwedd canol tref Caernarfon trwy brynu adeiladau diffaith (siopau, swyddfeydd a thai) o fewn y dref furiog. Mae’r Ymddiriedolaeth hyd yn hyn wedi adnewyddu ac ailddatblygu 20 o adeiladau yng Nghaernarfon oedd gynt yn wag a dirywiedig.
Datblygiad gwerth £7.5m Canolfan Fenter Greadigol Galeri yw prosiect mwyaf a mwyaf uchelgeisiol yr Ymddiriedolaeth hyd yn hyn. Roedd agor Galeri ym mis Ebrill 2005 yn ddatblygiad arwyddocaol i’r celfyddydau a’r diwydiannau creadigol yng Ngogledd Cymru. Mae Galeri’n cynnwys:
- Theatr a sinema [394 sedd]
- 24 uned fusnes/gwaith [ar osod i 15 cwmni sy’n gweithio yn y sector creadigol/celfyddydau]
- Gofod Celf
- 2 stiwdio ymarfer fawr
- 2 ystafell ymarfer lai
- Ystafelloedd cyfarfod
- Bar Caffi DOC (yn gweini cynnyrch lleol, ffres)
Yn nhermau llwyddiant Galeri – ers ei agor yn 2005, bu cynnydd cyson yn nifer y tocynnau a werthwyd, nifer y cartrefi a gyrhaeddwyd a’r bobl sy’n dychwelyd. Rydym yn ceisio cynnig rhaglen o ddigwyddiadau amrywiol sy’n sicrhau bod rhywbeth ar gael i bawb trwy’r adeg, o sinema i gomedi, cerddoriaeth boblogaidd i theatr ieuenctid. Mae Galeri ar gyfartaledd yn trefnu dros 400 o ddigwyddiadau bob blwyddyn.
Gyda mwyafrif helaeth ein cwsmeriaid [89%] yn byw 45 munud o daith car o Galeri – rydym yn wirioneddol yn gwmni lleol ar gyfer y gymuned leol.
Mae mis Rhagfyr yn Galeri yn golygu partïon Nadolig staff yn ein bar caffi DOC, tymor y panto, Swyddfa Docynnau brysur gyda chwsmeriaid yn prynu tocynnau neu dalebau rhodd yn anrhegion Nadolig – a chyngerdd Tonic olaf y flwyddyn. Cynhelir cyngherddau prynhawn Tonic yn fisol wedi’u targedu’n benodol at y genhedlaeth hŷn. Mae ein sesiwn canu carolau flynyddol yn y bar yn dilyn y gyngerdd Nadolig, pan ddaw cwmnïau preswyl, y gynulleidfa a cherddorion ifainc o ysgolion lleol at ei gilydd i ddathlu.
Ar ran holl staff ac aelodau bwrdd Galeri Caernarfon Cyf. – Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda a diolch am eich cefnogaeth ac am brynu’n lleol.
Mae’r sefydliad yn y blog hwn yn un o nifer y gallwch eu cefnogi. Mae llawer rhagor ar gael ar ein cyfeiriadur Cefnogi’r Cyfan. Nadolig Llawen a ‘phrynwch yn gymdeithasol’!
Topics
- Economy, Finance
Regions
- Wales