Blog post -

Nadolig yng Nghanolfan Celfyddydau Chapter #cefnogircyfan

Dyma’r blog diweddaraf gennym sy’n rhan o ymgyrch ‘Cefnogi’r Cyfan’ y Gaeaf, sy’n hyrwyddo rôl – ac yn annog pobl i gefnogi – mentrau cymdeithasol, mentrau cydweithredol a sefydliadau cymunedol eraill Cymru yn y cyfnod sy’n arwain at y Nadolig.


Mae Canolfan Celfyddydau Chapter yng Nghaerdydd yn un o leoliadau celfyddydau cymunedol mwyaf poblogaidd Cymru, ond a wyddech chi mai menter gymdeithasol yw hi? Mae Megan Price, Rheolwr Marchnata Chapter, wedi dweud wrthym yr hyn y mae Nadolig yn ei olygu yn y lleoliad, fel rhan o ymgyrch Cefnogi’r Cyfan y Gaeaf:

Chapter yw un o ganolfannau celfyddydau mwyaf Ewrop. Ymfalchïwn yn ein rhaglen o gelfyddydau rhyngwladol o safon uchel sy’n torri tir newydd ac yn herio’r ffiniau, ond nid ydym byth yn anghofio bod y gymuned wrth galon popeth a wnawn. Mae Chapter yn ymwneud â’r bobl. Cerddwch drwy’n drysau unrhyw ddiwrnod o’r wythnos a gwelwch fabanod yn eu clytiau’n profi’u perfformiad byw cyntaf (Out of the Blue gan Theatr Iolo a werthodd bob tocyn – sioe theatr i fabanod 6-18 mis); pobl ifanc yn rhuthro i un o'r amryw ddosbarthiadau dawns sy’n cael eu cynnal yn ein hystafelloedd llogi; pobl greadigol yn cwrdd i fwrw syniadau am eu syniad mawr nesaf; y genhedlaeth nesaf o wneuthurwyr ffilmiau’n rhannu’u gwaith yn ein yn ein sesiwn ffilm MovieMaker misol; pensiynwyr yn gwylio ffilm yn y sinema yn y prynhawn a llawer iawn mwy. Mae ein Caffi Bar yn lle poblogaidd i gwrdd sydd wedi ennill nifer o wobrau Observer Food Monthly ac mae’n chwarae rhan allweddol mewn cefnogi’r cyfan arall rydym yn ei wneud - mae pob ceiniog a wnawn o bob coffi, byrgyr neu beint o gwrw yn mynd yn syth yn ôl i’n rhaglen, o’r gelf weledol o’r radd flaenaf yn ein galeri i’r gweithdai ffilm rydym yn eu cynnal mewn ysgolion lleol a phopeth arall yn ogystal. Mae Nadolig yn Chapter yn wahanol iawn i Nadolig y rhan fwyaf o leoliadau celfyddydau eraill y byddwch wedi ymweld â nhw – dim panto mawr neu sioe gerdd fawreddog – ond rydym yn hoffi cymryd rhan yn hwyl yr ŵyl. Rydym yn dwlu ar ffilmiau clasurol (yn naturiol!) a gallwch ymuno â ni i ddathlu gyda ffefryn y Nadolig It’s a Wonderful Life (http://www.chapter.org/it’s-wonderful-life-u) ac yn y theatr rydym yn cynnig rhywbeth ychydig yn llai arferol gydag adolygiad y Nadolig i oedolion yn unig gan Gwmni Perfformio Shock N Awe (http://www.chapter.org/beauty-and-beasts) a fersiwn amgen o A Christmas Carol gan Gwmni Theatr Leftfield (http://www.chapter.org/leftfield-theatre-company-humbug). Un o’r pethau’r ydym yn dwlu ei wneud yn Chapter yw cefnogi a hybu artistiaid, crefftwyr a busnesau bach lleol, felly rydym yn dechrau ein gweithgareddau Nadoligaidd y penwythnos hwn gyda chyfleoedd gwych i siopa Nadolig. Ddydd Sadwrn rhoddion unigryw a wnaed â llaw sydd gennym yn ein Ffair Grefftau Nadolig Oh So Crafty (http://www.chapter.org/oh-so-crafty-christmas) lle gwelwch lu o fasnachwyr annibynnol hyfryd yn gwerthu gemwaith, cerameg, tecstilau a dillad vintage a dydd Sul rydym yn cynnal ein Ffair Fwyd Nadoligaidd flynyddol (http://www.chapter.org/festive-food-fair) pan fydd cynhyrchwyr bwyd lleol yn ymuno â ni. Mae digwyddiadau Green City yn cyd-gynnal ein Ffair Fwyd Nadoligaidd, a fydd yn cynnal gweithdai crefft a disgo wedi’i bweru gan bedalau yn ogystal â chroesawu gwestai arbennig iawn – Siôn Corn Cefn Gwlad! Rydym yn edrych ymlaen at ŵyl brysur a'r holl gyfleoedd cyffrous a ddaw gyda phob Blwyddyn Newydd, a hoffem ddymuno Nadolig Llawen i chi o waelod ein calonnau. Nadolig Llawen!

Mae’r sefydliad yn y blog hwn yn un o nifer y gallwch eu cefnogi. Mae llawer rhagor ar gael yn ein cyfeiriadur Cefnogi’r Cyfan. Nadolig Llawen a ‘phrynwch yn gymdeithasol’ 


Topics

  • Economy, Finance

Regions

  • Wales

Contacts

David Madge

Press contact Marketing, Press & Public Affairs Officer Press and Public Affairs. Marketing (primarily Succession and Consortia Project). 01792484005

Catherine Evans

Press contact Marketing Manager Overall responsibility for marketing and communications at the Wales Co-operative Centre 01443 743943

Mark Smith

Press contact Marketing Officer Social Media, Case Studies and Communities 2.0 029 2055 6163