Blog post -
Nadolig yng Nghanolfan Soar #cefnogircyfan
Dyma’r blog diweddaraf gennym sy’n rhan o ymgyrch ‘Cefnogi’r Cyfan’ y Gaeaf, sy’n hyrwyddo rôl – ac yn annog pobl i gefnogi – mentrau cymdeithasol, cydweithfeydd a sefydliadau cymdeithasol eraill Cymru yn arwain at y Nadolig.
Mae’r Nadolig yn gyfle i bawb sy’n defnyddio ac yn ymwneud â’r Ganolfan, ym Merthyr Tudful, i ddod at ei gilydd i ddathlu.
Mae’n gyfnod prysur yn y Ganolfan gyda nifer o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal a phobl yn llogi ystafelloedd. Yn ogystal, mae nifer o bobl yn dod mewn i Gaffi Cwtsh i flasu bwyd Nadoligaidd ac i Siop y Ganolfan i brynu anrhegion.
Ar Rhagfyr 12fed, rydym yn dathlu drwy gynnal digwyddiadau Nadoligaidd sy’n cynnwys Groto Siôn Corn a Noson Garolau Traddodiadol, cyfleoedd i’r gymuned gyfan ddod i ddathlu gyda ni.
Ar ddiwedd y prysurdeb mae’r Nadolig yn gyfle i staff y Ganolfan ymlacio a mwynhau.
Topics
- Economy, Finance
Regions
- Wales