Blog post -
Tafarn Gymunedol Wrecsam i ffynnu’r Nadolig hwn #cefnogircyfan
Dyma’r blog diweddaraf gennym sy’n rhan o ymgyrch ‘Cefnogi’r Cyfan’ y Gaeaf, sy’n hyrwyddo rôl – ac yn annog pobl i gefnogi – mentrau cymdeithasol, cydweithfeydd a sefydliadau cymdeithasol eraill Cymru yn arwain at y Nadolig.
Diolch yn fawr i Marc Jones o dafarn gymunedol y Saith Seren yn Wrecsam, am gyfrannu at ymgyrch Cefnogi’r Cyfan Gaeaf 2013:
Y Nadolig yw cyfnod prysuraf y flwyddyn i’r Saith Seren wrth i ni nesáu at ein hail ben blwydd yn dafarn gydweithredol gymunedol ac yn Ganolfan Gymraeg ar gyfer ardal Wrecsam.
Mae’n penwythnosau’n brysur trwy gydol y flwyddyn fel lleoliad sydd ag enw am gerddoriaeth fyw yng nghanol y dref, ond mae cyfnod yr Ŵyl hefyd yn golygu galw mawr am ein bwydlen Nadoligaidd – mae gennym dros 180 cinio Nadolig wedi’u harchebu eisoes.
Mae swyddfeydd ac ystafelloedd y Ganolfan i’w llogi’n dod yn boblogaidd iawn bellach, gyda grwpiau cymunedol a sefydliadau gwirfoddol yn dymuno cwrdd rywle cyfleus sydd wedi’i adnewyddu ac yng nghanol y dref ac rydym yn cynnal cyfres o ddosbarthiadau Cymraeg ar gyfer dysgwyr ar bob lefel. Rydym hefyd yn gartref i’r Cylch Ti a Fi a’r Menter Iaith Maelor leol.
Mae’r adeilad yr ydym yn ei ddefnyddio wedi’i drawsffurfio bellach o fod yn dafarn ddiffaith a fu’n segur am flwyddyn i hwb llwyddiannus o weithgarwch ac adloniant y gymuned.
Am ragor o fanylion ewch i wefan y Saith Seren http://www.saithseren.org.uk/
Topics
- Economy, Finance
Regions
- Wales