Blog post -

#walescoopreport Gallai perchnogaeth gan y gweithwyr gynnig gwytnwch hirdymor yn sector BBaCh Cymru

Yn ein hail flog ar y goblygiadau posibl o argymhellion Comisiwn Cwmnïau Cydweithredol a Chydfuddiannol Cymru, rydym yn edrych ar y potensial ar gyfer datblygu dulliau perchnogaeth gan y gweithwyr yng Nghymru.

Rhian Edwards yw Rheolwr y prosiect Olyniaeth a Chonsortia yng Nghanolfan Cydweithredol Cymru ac mae wedi ymwneud yn helaeth â gwaith yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig yn codi ymwybyddiaeth o Berchnogaeth gan y Gweithwyr fel opsiwn olyniaeth hyfyw ac yn ddull o annog ymgysylltiad a thwf yn ein busnesau brodorol.

Mae adroddiad Comisiwn Cwmnïau Cydweithredol a Chydfuddiannol Cymru wedi awgrymu rhagor o gymorth ar gyfer grwpiau gweithwyr a fyddai’n ystyried perchnogaeth gan y gweithwyr fel dull o barhau â busnesau hyfyw sydd mewn perygl o gau, yn ogystal â thechnegau ariannu arbenigol i gefnogi’r gweithwyr i brynu’r busnes. Mae perchnogaeth gan y gweithwyr yn sbardun twf sydd eisoes wedi'i brofi felly mae’n gwneud synnwyr i godi ymwybyddiaeth a chefnogi model busnes sy’n dda ar gyfer y busnes, yn dda i’r gweithwyr ac yn dda i’r gymuned lle mae cartref y busnes.

Mae Ysgol Fusnes CASS, ysgol â pharch mawr tuag at yn City University, wedi bod yn flaenllaw ers llawer o flynyddoedd yn cyflawni ymchwil ar fusnesau sy’n berchen i’r gweithwyr. Roedd ei hastudiaeth yn 2010 “Model Growth: Do Employee Owned Businesses Provide Sustainable Advantage” wedi canfod bod busnesau sy’n berchen i’r gweithwyr yn fwy tebygol o fod yn wydn yn ystod yr “amseroedd da” (2005-08) a’r dirwasgiad (2008-09) na’u cymheiriaid mewn cwmnïau nad ydynt yn berchen i’r gweithwyr.

Yn ddiweddar mae Ysgol Fusnes CASS wedi cyhoeddi astudiaeth ddilynol sy’n dod i’r casgliad bod busnesau sy’n berchen i’r gweithwyr wedi dangos twf cryn dipyn yn uwch o ran trosiant gwerthiannau o’u cymharu â busnesau nad ydynt yn berchen i’r gweithwyr trwy gydol y dirwasgiad (hyd 2011). Cafodd hyn ei adlewyrchu yn y twf o ran niferoedd gweithwyr ac yng nghyfraniad y gweithwyr at broffidioldeb. Mae’r ymchwil hyn yn dangos er nad yw perchnogaeth gan y gweithwyr yn gwarantu twf - wedi’r cyfan, effeithir yn yr un modd ar fusnesau sy’n berchen i’r gweithwyr gan rymoedd allanol ag unrhyw fusnes arall - mae cynnydd mewn perchnogaeth ac ymgysylltiad gan y gweithwyr bron bob amser yn arwain at gynnydd mewn sefydlogrwydd a gwytnwch o’u cymharu â busnesau nad ydynt yn ymgysylltu’n effeithiol â’u gweithwyr.

Yma yng Nghanolfan Cydweithredol Cymru mae gennym ymrwymiad hirsefydlog i gynyddu ymgysylltiad gweithwyr a rhoi grym i unigolion yn y gweithle. Ychydig flynyddoedd yn ôl, gwnaethom gyhoeddi ‘Atal Bom Olyniaeth Busnes rhag Ffrwydro’ a oedd yn honni bod Cymru mewn perygl o golli canran afresymol o uchel o fusnesau bach brodorol dros y pump i ddeng mlynedd nesaf oherwydd olyniaeth a gynlluniwyd yn wael a disgwyliadau afrealistig o’r potensial am werthiannau masnach. Mae adroddiad y Comisiwn wedi cydnabod y mater hwn ac wedi ceisio mynd i’r afael â rhai o’r rhwystrau mawr tuag at y dull: ymwybyddiaeth, argaeledd cymorth ac arian.

Nid oes amheuaeth bod perchnogaeth gan y gweithwyr yn gynllun dilys a chynaliadwy ar gyfer olyniaeth busnes hirdymor. Fel yr esbonia Allan Meek, Cyfarwyddwr Rheoli Grŵp SCS Caerffili.

“I mi un o brif fanteision perchnogaeth gan y gweithwyr fel model ymadael ar gyfer perchnogion reolwyr yw’r rhyddid i fod yn agored am gynlluniau ar gyfer y dyfodol a bod yr ymadael yn cael ei gyflawni er lles y perchennog a’r busnes.”

Ceir tystiolaeth bod gan fusnesau â lefelau uchel o berchnogaeth gan y gweithwyr fanteision sylweddol o’u cymharu â’r rheini heb berchnogaeth gan y gweithwyr. Mae gan weithwyr sy’n berchnogion lefelau uwch o foddhad yn y swydd, yn cael mwy o ymdeimlad o lwyddiant, cyflawniad a sicrwydd swydd ac yn fwy tebygol o argymell eu lle gwaith na gweithwyr mewn busnesau nad ydynt yn berchen i’r gweithwyr.

Roedd Barry Wise yn un o bedwar cyfarwyddwr i sefydlu Aber Instruments yn Aberystwyth. Dywedodd:

“Mae Perchnogaeth gan y Gweithwyr yn sicrhau bod pawb yn croesawu diwylliant o ddidwylledd a gweithio fel tîm. Mae hyn yn arwain at yr holl weithwyr yn rhannu peth cyfrifoldeb am les y sefydliad ac mae hyn yn sbardun i broffidioldeb...Mae sefydlogrwydd hir dymor y cwmni’n cael ei wella trwy Berchnogaeth gan y Gweithwyr oherwydd bod y gweithwyr, sy’n adnabod y busnes drwyddi draw, yn cael lleisio’u barn am eu dyfodol. Mae hyn yn lleihau dylanwad allanol ac mae ein strwythur cyfranddaliadau’n sicrhau bod perchnogaeth yn aros “o fewn y pedair wal”.

Mae Gill Wilde o Skye Instruments yn Llandrindod o’r farn bod llawer o fanteision i berchnogaeth gan y gweithwyr,

“Y fantais gyntaf yw diogelwch swydd. Ni all randdeiliad allanol ddylanwadu ar ein cyfeiriad. Y gweithwyr sy’n gyfrifol am y llwyddiant, neu’r methiant. Mantais ariannol yw’r ail; mae gennym gynllun rhannu elw felly mae ein gweithwyr yn elwa’n ariannol o’n llwyddiant. Yn drydydd, mae gan ein gweithwyr lais. Mae ganddynt y cyfle i gyfrannu at unrhyw weithgaredd o’r busnes. Mae eu barn a’u hawgrymiadau’n cael eu hystyried o ddifri ac yn cael eu trin yn broffesiynol. Mae’r holl weithwyr yn gymwys i fod yn Ymddiriedolwyr ar Ymddiriedolaeth Buddiannau’r Gweithwyr neu’n Gyfarwyddwyr yn y cwmni.”

Mae Allan Meek o Grŵp SCS yn cytuno,

“Rydym yn defnyddio perchnogaeth gan y gweithwyr yn rhan o becyn cymorth ar gyfer ymgysylltu â’n gweithwyr sy’n rhan o’n strategaeth busnes craidd ac sydd yn ein tyb ni yn fantais gystadleuol. Mae’n anodd dweud faint mwy y mae hyn yn annog pobl i’w wneud ond mae’n dangos i’r gweithwyr bod eu barn nhw yn cyfrif.”

Gall perchnogaeth gan y gweithwyr hefyd helpu i sicrhau bod cwmnïau brodorol yn parhau’n frodorol. Fel yr esbonia Gill Wilde,

“Prin iawn yw’r cyfleoedd gwaith mewn ardaloedd gwledig nad ydynt yn gysylltiedig â thwristiaeth ac amaethyddiaeth. Mae trosglwyddo perchnogaeth Skye Instruments i’w weithwyr yn galluogi busnes uwch-dechnoleg i aros a thyfu yn yr ardal a pharhau i gynnig gyrfaoedd arbenigol i genedlaethau’r dyfodol.”

Mae Barry Wise yn cytuno,

“Rydym wedi gweld cwmnïau eraill yn gwerthu, ac o ganlyniad mae swyddi a a gwybodaeth wedi cael eu colli’n lleol. Roeddem yn benderfynol i beidio â dilyn y trywydd hwn. Mae Perchnogaeth gan y Gweithwyr yn golygu sefydlogrwydd a rheolaeth dros ein tynged.”

Y flwyddyn ariannol hon, mae eithriadau ar Dreth Enillion Cyfalaf wedi’u cyflwyno i annog perchnogion busnes i ystyried perchnogaeth gan y gweithwyr yn ddull hyfyw o olyniaeth. Pe bai argymhellion adroddiad Comisiwn Cwmnïau Cydweithredol a Chydfuddiannol Cymru yn cael eu dilyn mae gwir bosibilrwydd y gallai perchnogaeth gan y gweithwyr ddod yn fodel busnes cyffredin sy’n cael ei dderbyn yng Nghymru, ac yn un sy’n cyfrannu’n sylweddol tuag at economi Cymru.


Topics

  • Economy, Finance

Categories

  • business succession
  • cymraeg
  • wales co-operative centre

Regions

  • Wales

Contacts

David Madge

Press contact Marketing, Press & Public Affairs Officer Press and Public Affairs. Marketing (primarily Succession and Consortia Project). 01792484005

Catherine Evans

Press contact Marketing Manager Overall responsibility for marketing and communications at the Wales Co-operative Centre 01443 743943

Mark Smith

Press contact Marketing Officer Social Media, Case Studies and Communities 2.0 029 2055 6163