Skip to main content

Co-operative Congress coming to Wales / Y Gyngres Gydweithredol yn dod i Gymru.

Press Release   •   Jun 19, 2013 21:51 BST

 

Co-operative Congress coming to Wales.


Three-day event at the Swalec Stadium, Cardiff 28th – 30th June

Co-operative Congress is the co-operative sector's premier event in Britain. It brings together those with a passion for co-operative action to share ideas, learn and be inspired.

The event takes place over three days and is an opportunity for those with an interest in co-operative approaches to hear from experts and leaders within the sector, as well as network and learn more about co-operatives working in the UK today. The programme for the event includes the annual business event for co-operators, as well as events organised by the Wales Co-operative Centre, The Co-operative Cymru/Wales and Co-operatives and Mutuals Wales.

www.uk.coop/congress/programme

Co-operative Congress is organised by Co-operatives UK. They selected Cardiff as this year’s location because of exciting developments such as the establishment of the Welsh Government’s Commission on Co-operatives and Mutuals. During the weekend 350 delegates will attend the formal Congress sessions, whilst 1000 people are expected to visit the exhibition area.

The Wales Co-operative Centre is pleased to be hosting several events within Congress that showcase our activity in new and developing areas of co-operation.

Employee Ownership: Solutions for the Private Sector

On Friday 28th June, the Wales Co-operative Centre’s Business Succession Team present a seminar and workshop session, ‘Employee Ownership: Solutions for the Private Sector’, which is aimed at the business intermediary sector in Wales and those who have an interest in employee ownership.

Business succession is an often overlooked, but essential element of long term business planning. Too many businesses in Wales fail because of poor succession planning, resulting in loss of intellectual property, assets, supplier relationships, and most importantly, jobs. Employee Ownership offers a vital succession approach that will ensure that businesses are passed to a team of people who have a vested interest in their future success, its employees. The session will equip delegates with the latest thinking and developments in Employee Ownership from those at the forefront of business development and guidance.

It will focus on:

  • The importance of succession planning
  • The Employee Ownership opportunity for the Welsh economy
  • Managing the Employee Ownership transition.

Speakers include the Business Succession Team from the Wales Co-operative Centre and two clients who have led their respective companies through the Employee Ownership process:

Barry Wise, Aber Instruments. Based in Aberystwyth, Aber Instruments produces measurement instruments used for fermentation in brewing. After creating an Employee Benefit Trust, supported by a Share Incentive Plan, the founding owners have been able to reduce their shareholding and transfer their shares in the company to their employees.

Steve Meredith, PrimePac Solutions Ltd. PrimePac Solutions Ltd is a worker co-operative based in Ebbw Vale that fills bottles, sachets and tubes for clients including leading brands in the health and personal care sector. In 2005, the then owners decided to close the factory. Staff members invested their redundancy payment into setting up PrimePac Solutions Ltd as an employee owned company which now has a turnover of £3.8million (2012).

This event is free and is open to attendees who are not participating in Congress. Use the link below to secure your place. www.walescooperative.org/co-operative-congress-2013-employee-ownership

Co-operative Housing: A model for accessing homes in Wales

The following day (Saturday 29th June), the Wales Co-operative Centre hosts a seminar on the opportunities for developing co-operative housing in Wales. The issue of affordable housing is never far from the headlines. This event is intended to bring together experts in housing with anyone who has an interest in co-operative housing. It will investigate opportunities for using co-operative approaches to tackle the shortage of affordable housing.

The event will explore:

  • Different options for co-operative housing schemes
  • Latest research on the potential market in Wales for co-operative housing
  • Success stories from around the UK
  • Exciting proposals for co-operative pioneer housing projects across Wales
  • Interactive workshops on how to kick-start and grow housing co-operatives
  • Information on the support available for housing co-operatives in Wales

One of the key-note speakers will be Nic Bliss, Chair of the Confederation of Co-operative Housing for the event. This event is free and is open to attendees who are not participating in Congress.

Use the link below to secure your place. www.walescooperative.org/co-operative-congess-2013-co-operative-housing

 

Plenary Session ‘Creating a Business Environment for Co-operatives’

In addition to these events, Wales Co-operative Centre Chief Executive Derek Walker will chair a plenary session entitled ‘Creating a Business Environment for Co-operatives’.

The session will include presentations from:

Andrew Davies, Chair, Co-operative and Mutuals Commission for Wales

‘Growing the co-operative economy through government action’

Sarah Deas, Chief Executive of Co-operative Development Scotland

‘Growing the co-operative economy through business development networks’, and,

Pierre Liret, Training and Human Resource Manager, Confédération Générale Des Scop (French worker co-operative movement) ‘Growing the co-operative economy through changing perceptions’

www.uk.coop/congress/event/programme/plenary-session-three-creating-business-environment-co-operatives

This event is a plenary session within the main Congress event. Day tickets are available for the event via the Co-operative UK booking website http://www.hg3.co.uk/coop/registration.aspx

 

Exhibition

The Wales Co-operative Centre will also be exhibiting throughout the weekend in the exhibition marquee situated at the front of Swalec Stadium Gate 5, opposite the pavilion.

 

Y Gyngres Gydweithredol yn  dod i Gymru.

Digwyddiad dros dridiau yn Stadiwm SWALEC, Caerdydd 28 – 30 Mehefin

Y Gyngres Gydweithredol yw prif ddigwyddiad y sector cydweithredol ym Mhrydain. Mae’n dwyn ynghyd y rheiny sy’n frwd dros gydweithredu i rannu syniadau, dysgu a chael eu hysbrydoli. Cynhelir y
digwyddiad dros dridiau ac mae’n gyfle i’r rheiny â diddordeb mewn dulliau cydweithredol glywed gan arbenigwyr ac arweinwyr o fewn y sector, yn ogystal â rhwydweithio a dysgu mwy am fentrau cydweithredol sydd ar waith yn y DU heddiw.

Mae rhaglen y digwyddiad yn cynnwys y digwyddiad busnes blynyddol i gydweithredwyr, yn ogystal â digwyddiadau a drefnir gan Ganolfan Cydweithredol Cymru, The Co-operative Cymru/Wales a Co-operatives and Mutuals Wales.

www.uk.coop/congress/programme

Trefnir y Gyngres Gydweithredol gan Co-operatives UK. Fe ddewison nhw Gaerdydd fel lleoliad eleni oherwydd datblygiadau cyffrous megis sefydlu Comisiwn Llywodraeth Cymru ar Gwmnïau Cydweithredol a Chydfuddiannol. Yn ystod y penwythnos bydd 350 o gynadleddwyr yn mynychu sesiynau ffurfiol y Gyngres, tra disgwylir i 1000 o bobl ymweld â’r ardal arddangos.

Mae’n bleser gan y Gyngres Gydweithredol gynnal nifer o ddigwyddiadau o fewn y Gyngres a fydd yn arddangos ein gweithgarwch mewn meysydd cydweithredol newydd a datblygol.

Perchnogaeth gan y Gweithwyr: Datrysiadau i’r Sector Preifat

Ar ddydd Gwener 28 Mehefin bydd Tîm Olyniaeth Busnes Canolfan Cydweithredol Cymru’n cyflwyno seminar a sesiwn gweithdy, ‘Perchnogaeth gan y Gweithwyr: Datrysiadau i’r Sector Preifat’, sydd wedi’u bwriadu ar gyfer y sector cyfryngu busnes yng Nghymru a’r rheiny a chanddynt ddiddordeb mewn perchnogaeth gan y gweithwyr.

Mae olyniaeth busnes yn elfen o gynllunio busnes hirdymor sy’n aml yn cael ei hanwybyddu, ond sy’n hanfodol. Mae gormod o fusnesau yng Nghymru’n methu oherwydd cynllunio olyniaeth gwael, sy’n arwain at golli eiddo deallusol, asedau, perthnasoedd â chyflenwyr, ac yn bwysicach na dim, swyddi. Mae Perchnogaeth gan y Gweithwyr yn cynnig dull olyniaeth hollbwysig a fydd yn sicrhau bod busnesau’n cael eu trosglwyddo i dîm o bobl ac iddynt fudd personol o lwyddiant y busnes yn y dyfodol, sef ei gyflogeion.

Bydd y sesiwn yn arfogi cynadleddwyr â’r syniadau a’r datblygiadau diweddaraf ym maes Perchnogaeth gan y Gweithwyr gan y rheiny sydd ar flaen y gad o ran datblygu busnesau a rhoi
canllawiau i fusnesau.

Bydd yn canolbwyntio ar y canlynol:  

  • Pwysigrwydd cynllunio olyniaeth
  • Y cyfle y mae Perchnogaeth gan y Gweithwyr yn ei gynnig i economi Cymru
  • Rheoli’r newid i Berchnogaeth gan y Gweithwyr.

 Mae’r siaradwyr yn cynnwys y Tîm Olyniaeth Busnes o Ganolfan Cydweithredol Cymru a dau gleient sydd wedi arwain eu priod gwmnïau trwy’r broses Perchnogaeth gan y Gweithwyr:

Barry Wise, Aber Instruments. Mae Aber Instruments, sydd wedi’i leoli yn Aberystwyth, yn cynhyrchu offerynnau mesur a ddefnyddir ar gyfer eplesiad wrth fragu. Ar ôl creu Ymddiriedolaeth Budd Gweithwyr, a ategir gan Gynllun Anogaeth Cyfranddaliadau, mae’r sylfaenwyr wedi gallu gostwng eu cyfran a throsglwyddo eu cyfranddaliadau yn y cwmni i’w cyflogeion.

 
Steve Meredith, PrimePac Solutions Ltd. Mae PrimePac Solutions Ltd yn gwmni cydweithredol y gweithwyr sydd wedi’i leoli yng Nglyn Ebwy ac sy’n llenwi poteli, bagiau bychain a thiwbiau i gleientiaid gan gynnwys brandiau blaenllaw yn y sector iechyd a’r sector gofal personol. Yn 2005, fe benderfynodd y perchnogion ar y pryd gau’r ffatri. Buddsoddodd aelodau o staff eu tâl colli swydd er mwyn sefydlu PrimePac Solutions Ltd fel cwmni a berchnogir gan y gweithwyr a chanddo bellach drosiant o £3.8 miliwn (2012).

Mae’r digwyddiad yma am ddim ac yn agored i fynychwyr nad ydynt yn cyfranogi yn y Gyngres. Defnyddiwch y ddolen isod i sicrhau eich lle.

www.walescooperative.org/co-operative-congress-2013-employee-ownership

 

Tai Cydweithredol: Model ar gyfer cael mynediad at gartrefi yng Nghymru

 

Y diwrnod canlynol (Dydd Sadwrn 29 Mehefin), bydd Canolfan Cydweithredol Cymru’n cynnal seminar ar y cyfleoedd i ddatblygu tai cydweithredol yng Nghymru. Mae tai fforddiadwy’n bwnc nad yw byth yn bell o’r penawdau. Mae gan bobl sy’n awyddus i fynd ar yr ysgol dai, gwleidyddion, awdurdodau lleol a’r sector preifat oll gwestiynau ynghylch sut y gellid cynyddu’r cyflenwad o dai fforddiadwy:

  • Gwahanol opsiynau ar gyfer cynlluniau tai cydweithredol
  • Yr ymchwil ddiweddaraf i’r farchnad bosib ar gyfer tai cydweithredol
  • Storïau llwyddiant o bob rhan o’r DU
  • Cynigion cyffrous ar gyfer prosiectau tai cydweithredol arloesol ledled
    Cymru
  • Gweithdai rhyngweithiol ar sut i gychwyn a thyfu mentrau tai cydweithredol
  • Gwybodaeth am y cymorth sydd ar gael i fentrau tai cydweithredol yng
    Nghymru.

Un o’r siaradwyr cyweirnod fydd Nic Bliss, Cadeirydd y Conffederasiwn Tai Cydweithredol ar gyfer y digwyddiad.

 

Mae’r digwyddiad hwn yn rhad ac am ddim ac yn agored i bobl nad ydynt yn cymryd rhan yn y Gyngres. Defnyddiwch y ddolen isod i sicrhau eich lle.

www.walescooperative.org/co-operative-congess-2013-co-operative-housing

 

Sesiwn Lawn ‘Creu Amgylchedd Busnes i Gwmnïau Cydweithredol’

 

Yn ogystal â’r digwyddiadau hyn, bydd Prif Weithredwr Canolfan Cydweithredol Cymru, Derek Walker, yn cadeirio sesiwn lawn a fydd yn dwyn y teitl ‘Creu Amgylchedd Busnes i Gwmnïau Cydweithredol’. Bydd y sesiwn yn cynnwys cyflwyniadau gan:

Andrew Davies, Cadeirydd, Comisiwn Cwmnïau Cydweithredol a Chydfuddiannol Cymru ‘Tyfu’r economi gydweithredol trwy weithredu gan y Llywodraeth’  


Sarah Deas, Prif Weithredwr Co-operative Development Scotland ‘Tyfu’r economi gydweithredol trwy rwydweithiau datblygu busnes’, a 

 
Pierre Liret, Rheolwr Hyfforddiant ac Adnoddau Dynol, Confédération Générale Des Scop (Mudiad cydweithredol y gweithwyr yn Ffrainc) ‘Tyfu’r economi gydweithredol trwy newid canfyddiadau’

www.uk.coop/congress/event/programme/plenary-session-three-creating-business-environment-co-operatives

Sesiwn lawn o fewn prif ddigwyddiad y Gyngres yw’r digwyddiad hwn. Mae tocynnau diwrnod ar gael ar gyfer y digwyddiad trwy wefan archebu Co-operative UK

http://www.hg3.co.uk/coop/registration.aspx

 

Arddangosfa

Bydd Canolfan Cydweithredol Cymru hefyd yn arddangos trwy gydol y penwythnos yn y babell arddangos o flaen Gât 5 Stadiwm SWALEC, gyferbyn â’r pafiliwn.

 

Wales Co-operative Centre

The Wales Co-operative Centre was set up thirty years ago and ever since has been helping businesses grow, people to find work and communities to tackle the issues that matter to them. Its advisors work co-operatively across Wales, providing expert, flexible and reliable support to develop sustainable businesses and strong, inclusive communities.

www.walescooperative.org

Comments (0)

Add comment

Comment