Skip to content
Some of the photographs on display at the Senedd | Rhai o'r lluniau sy'n ymddangos yn y Senedd
Some of the photographs on display at the Senedd | Rhai o'r lluniau sy'n ymddangos yn y Senedd

News -

Stroke photography launches Make May Purple in Wales | Ffotograffiaeth Strôc yn lansio Troi Mai yn Borffor yng Nghymru

Six photographs from stroke survivors will go on display in the National Assembly for Wales’ Senedd building today, in a display organised by the Stroke Association.

The Purple Lenses photography exhibition, sponsored by Dr Dai Lloyd AM, launches Make May Purple ahead of next month.

Make May Purple is the charity’s annual stroke awareness month, taking place every May. Friends, families and communities are invited to show their support for people who have been affected by stroke.

The theme for Make May Purple this year is independence. The Stroke Association asked clubs, groups and volunteers to submit photographs to show what this word means to them. The shortlisted images – shown in the exhibition – feature stroke survivors or have been taken by stroke survivors, celebrating their independence.

One of the photographers is Dave Riley from Bridgend. He chose his shot of a former Stroke Association coordinator whom he first met whilst still in hospital. This was his journey to greater independence with the support of the Bridgend Stroke Support Service.

Dave said:

“She was so prim and proper when I met her on the ward, and then here she is at the Bridgend Step Out looking fantastic!

“Even though I can’t see much through the viewfinder because of the affect the stroke had on my eyesight, I just take a guess! Photography gets me out and gives me the chance to meet other survivors.”

Rhodri Davies, the Stroke Association’s Head of Communication and Influencing in Wales added:

“For some stroke survivors, independence can mean getting back to work, continuing to enjoy hobbies or even learning new skills. For others, it can mean the support they get from other stroke survivors and professionals to help them make the best possible recovery.

In the UK stroke is the leading cause of disability and there are almost 67,000 people in Wales living with the physical and emotional after effects. The money raised through Make May Purple will help the charity support more stroke survivors regain their independence.

The pictures will be shown in the Senedd until Friday 27 April. The Senedd is open to members of the public and entry is free.

To find out more about the work of the Stroke Association and how you can Make May Purple visit www.stroke.org.uk/makemaypurple.

__________________________________________________________________________________________

Bydd chwe ffotograff yn cael eu harddangos yn Senedd y Cynulliad Cenedlaethol heddiw, mewn arddangosfa sydd wedi’i threfnu gan y Gymdeithas Strôc yng Nghymru.

Mae’r arddangosfa Lensys Porffor, a noddwyd gan Dr Dai Lloyd AC, wedi’i threfnu gan y Gymdeithas Strôc i lansio Troi Mai yn Borffor fis nesaf.

Troi Mai yn Borffor yw mis ymwybyddiaeth flynyddol yr elusen, sydd yn digwydd pob mis Mai. Gwahoddir ffrindiau, teuluoedd a chymunedau i ddangos eu cefnogaeth i bobl sydd wedi’u heffeithio gan strôc.

Eleni, thema Troi Mai yn Borffor yw annibyniaeth. Gofynnodd y Gymdeithas Strôc i glybiau, grwpiau a gwirfoddolwyr cyflwyno ffotograffau i ddangos beth mae’r gair hwn yn golygu iddyn nhw. Mae lluniau’r rhestr fer – sy’n ymddangos yn yr arddangosfa hon – yn cynnwys goroeswyr strôc, neu wedi’u cymryd gan oroeswyr strôc, yn dathlu eu hannibyniaeth.

Dave Riley o Benybont yw un o’r ffotograffwyr. Dewisodd lun o gyn-gydlynydd y Gymdeithas Strôc, a chwrddodd am y tro cyntaf pan oedd yn yr ysbyty. Dyma oedd cychwyn ei daith at fwy o annibyniaeth gyda chefnogaeth y Gwasanaeth Cefnogi Strôc Penybont.

Dywedodd Dave:

“Yr oedd hi mor parchus pan gwrddais â hi ar y ward, ac yna dyma hi yn Step Out Penybont yn edrych yn wych!”

“Er nad wyf yn gallu gweld llawer trwy’r camera oherwydd yr effaith mae’r strôc wedi cael ar fy llygaid, rwy jyst yn ceisio dyfalu! Mae ffotograffiaeth yn rhoi cyfle i mi fynd mas a chwrdd a goroeswyr eraill.”

Ychwanegodd Rhodri Davies, Pennaeth Cyfathrebu a Dylanwadu yng Nghymru:

“I rai goroeswyr strôc, gall annibyniaeth golygu dychwelyd i’r gwaith, parhau i fwynhau hobïau neu hyd yn oed dysgu sgiliau newydd. I eraill, gall olygu’r gefnogaeth maent yn cael gan oroeswyr strôc a gweithwyr proffesiynol i’w helpu i wneud y gwellhad gorau posib..”

Strôc yw prif achos anabledd yn y DU, ac mae bron i 67,000 o bobl yn byw â’r sgil effeithiau corfforol ac emosiynol. Bydd yr arian sydd yn cael ei godi trwy Troi Mai yn Borffor yn helpu’r elusen i gefnogi mwy o oroeswyr strôc i adennill eu hannibyniaeth.

Bydd y lluniau yn ymddangos yn y Senedd tan ddydd Gwener 27 Ebrill. Mae’r Senedd ar agor i’r cyhoedd ac mae mynediad am ddim.

I ganfod mwy am waith y Gymdeithas Strôc a sut gallwch Droi Mai yn Borffor ymwelwch â www.stroke.org.uk/makemaypurple

Topics

Contacts