Skip to content
Mae'r Gymdeithas Stôc yn galw am fwy o gefnogaeth i gynorthwyo cleifion i adael yr ysbyty'n gynnar, ac am well mynediad at therapiau adsefydlu
Mae'r Gymdeithas Stôc yn galw am fwy o gefnogaeth i gynorthwyo cleifion i adael yr ysbyty'n gynnar, ac am well mynediad at therapiau adsefydlu

News -

Y Gymdeithas Strôc yn croesawu cynllun hir dymor newydd ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru

Cafodd ‘Cymru Iachach’ ei gyhoeddi mewn ymateb i’r Adolygiad Seneddol o Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru a rhyddhawyd yn gynharach eleni. Mae’r cynllun yn ymrwymo’r llywodraeth i wella cydweithio rhwng iechyd a gofal cymdeithasol, a chynyddu nifer y bobl sy’n derbyn gofal yn y gymuned yn lle’r ysbyty. Mae’n nodi hefyd y bydd gwasanaethau arbenigol ar gael i bawb yng Nghymru lle bynnag maent yn byw.

Gallwch ddarllen ‘Cymru Iachach’ yma.

Mae’r Gymdeithas Strôc yn credu i Lywodraeth Cymru wireddu’r weledigaeth sydd yn y cynllun, mae angen gwella'r cymorth sydd ar gael i gynorthwyo cleifion i adael yr ysbyty'n gynnar (ESD) yn ogystal â’r therapïau sydd eu hangen ar oroeswyr strôc. Yn y canlyniadau SSNAP mwyaf diweddar, derbyniodd llai na phump y cant o gleifion cymorth ESD yn 8 o’r 12 uned strôc yng Nghymru.

Dywedodd Margaret Street, Cyfarwyddwr y Gymdeithas Strôc yng Nghymru:

“Croesawn y cynllun newydd ac edrychwn ymlaen ar weld gwasanaethau i gleifion a goroeswyr strôc yn gwella. Rhaid i’r ymrwymiadau at ofal yn seiliedig ar dystiolaeth a gwell mynediad at ofal arbenigol arwain at gynnydd o ran datblygu safon unedau strôc, ac argaeledd thrombectomi.

“Mae’r cynllun wir yn tanlinellu pwysigrwydd darparu cefnogaeth i’r gymuned. Mae gormod o oroeswyr strôc yn mynd heb gefnogaeth therapyddion iaith a lleferydd, seicolegwyr, therapyddion galwedigaethol neu ffisiotherapyddion. Mae rhai’n gwario’n hirach yn yr ysbyty na sydd angen oherwydd does dim cefnogaeth iddynt adael yn gynnar.

“Bydd sicrhau y bydd cleifion yn cael cefnogaeth i adael yr ysbyty, a derbyn y therapïau sydd eu hangen arnynt yn flaenoriaeth er mwyn gwireddu’r cynllun hwn.”

Topics

Regions

Contacts

Related content