Press release -
Allwn ni ddim “Rhoi Help Law i Bobi” ' heb bice ar y maen -'Welsh cakes' ! Yn enwedig mai ond 69 o galoriau sydd mewn un pice!
Allwn ni ddim “Rhoi Help Law i Bobi” ' heb bice ar y maen -'Welsh cakes' ! Yn enwedig mai ond 69 o galoriau sydd mewn un pice!
Dyma riset blasus arall gan Marie sy'n rhedeg adran Pen y bont o Slimtone Healthy Living. Mae Marie yn godwr arian ardderchog i ni wrth iddi helpu goroeswyr strôc i gadw’n iach.
Cynhwysion pice ar y maen
454g/1 pwys blawd codi
2. wy maint canolig wedi'i guro
168g/6 owns sultanas
112g/4 owns siwgr hanner llwy
196g/ 7 owns menyn hanner braster
Rhowch y blawd,menyn,siwgr a phinsiad o halen mewn bowlen fawr a rhwbiwch efo'i gilydd nes bod y gymysgedd fel briwsion bara. Ychwanegwch y sultanas a'r wyau a cymysgwch y cyfan efo'i gilydd. Os yw'n sych,ychwanegwch ychydig o ddwr. Rhowliwch y gymysgedd nes bod gennych chi does ac yna gwnewch belen fawr. Gwastadwch y toes gyda phin rowlio a thorrwch yn gylchau . Irwch y maen neu'r badell gygag olew coginio caloriau isel a choginiwch y cacennau tan mae nhw'n grwst euraidd bob ochr.
Edrychwn ymlaen i weld eich hymdrechion!
I ddarganfod mwy am Roi Help Law i Bobi, sy’n cychwyn am wythnos o 22 Hydref 2018, ewch iwww.stroke.org.uk/gah
Topics
Trawiad ar yr ymennydd yw strôc sydd yn digwydd pan fydd y cyflenwad gwaed i’r ymennydd yn cael ei atal, unai oherwydd clot neu waedu. Pob blwyddyn, bydd o gwmpas 7,400 o bobl yng Nghymru’n cael strôc ac mae’r Gymdeithas Strôc yn amcangyfrif bod bron i 66,000 o oroeswyr strôc yn byw yng Nghymru.
Elusen yw’r Gymdeithas Strôc. Credwn ym mywyd ar ôl strôc a gyda’n gilydd gallwn drechu strôc. Gweithiwn yn uniongyrchol gyda goroeswyr strôc a’u teuluoedd a gofalwyr, gyda gweithwyr gofal iechyd a chymdeithasol a gyda gwyddonwyr ac ymchwilwyr. Ymgyrchwn i wella gofal a chefnogaeth strôc a chefnogwn bobl i wella yn y ffordd orau posib. Mae’r Llinell Gymorth Strôc (0303 303 3100) yn darparu gwybodaeth a chefnogaeth ar strôc. Mae mwy o wybodaeth ar gael ar www.stroke.org.uk