Skip to content
Liz Atter, cydlynydd y Gymdeithas Strôc sy’n cydlynu Gofalu a Chi
Liz Atter, cydlynydd y Gymdeithas Strôc sy’n cydlynu Gofalu a Chi

Press release -

Cefnogaeth i ofalwyr goroeswyr strôc

Mae’r Gymdeithas Strôc yn lansio prosiect newydd, Gofalu a Chi, i ofalwyr goroeswyr strôc de orllewin Cymru sydd wedi gweld newid yn eu bywydau ar ôl effaith dirybudd strôc.

Mae tua 66,000 o oroeswyr strôc yng Nghymru, ac mae nifer ohonynt ag anableddau cymhleth sydd angen gofal hirdymor. Mae rhan fwyaf o'r gofal yma’n cael ei roi gan eu teuluoedd, sydd hefyd angen cefnogaeth eu hunain.

Mae nifer y gofalwyr wedi codi’n sylweddol wrth i’r cyfanswm o bobl sy’n goroesi strôc cynyddu. Erbyn 2037, mae Carers UK yn rhagweld cynnydd o 40% mewn nifer y gofalwyr ledled Prydain,

I bob gofalwr, gall addasu i rôl ofalu fod yn sialens emosiynol a chorfforol. Ond i ofalwyr goroeswyr strôc, mae natur sydyn a chymleth strôc yn ychwanegu i’r her.

Mae’r rhaglen Gofalu a Chi wedi’i hariannu gan gynllun cymorthdaliadau Newid er Gwell sydd wedi ei noddi gan Fwrdd Iechyd Abertawe a Bro Morgannwg. Mae’r prosiect yn rhannu sgiliau gofalu newydd, yn ogystal â chreu rhwydwaith cefnogi i helpu aelodau ofalu am oroeswr strôc.

Dywedodd Liz Atter, cydlynydd y Gymdeithas Strôc sy’n cydlynu Gofalu a Chi:

“Yn ogystal â dysgu am effaith cudd strôc a sut i gael cymorth i’r un sydd wedi cael strôc, bydd y cwrs yn canolbwyntio ar anghenion y gofalwr. Bydd yn helpu lleihau’r straen, y teimladau unig ac edrych ar ffyrdd o wella eu hiechyd."

Ychwanegodd Liz bod Gofalu a Chi o gymorth i bobl sy’n ofalwyr newydd, yn ogystal â’r rhai sydd wedi bod yn gofalu am flynyddoedd.

Mae Enid Williams, 75 o Hwlffordd, yn gofalu am ei ŵr, Michael, 80, sydd wedi cael strôc a hefyd yn byw â dementia. Daeth hi o hyd i gefnogaeth wych trwy’r rhaglen Gofalu a Chi â chafodd ei gynnal yn Sir Benfro blwyddyn ddiwethaf.

Meddai Enid:

"Roedd yn un o’r pethau gorau i mi erioed ei wneud. Roedd e mor dda i siarad gyda phobl yn yr un sefyllfa a fi.

“Trafodon sut oeddwn ni’n teimlo a newidiadau yn ein tymer. Roedd yn wir o gymorth, oherwydd weithiau, dwi jest yn teimlo fel 'gyd dwi’n gwneud yw gweini ar fy ngŵr, sydd yn gallu fod yn anodd, yn enwedig gan nad yw’n gallu ymateb.”

Yr oedd y cymorth ymarferol hefyd o gymorth i Enid. Ychwanegodd:

“Rwy wedi cael cynnig sesiynau fel ‘ma o’r blaen, ond nid oedd yn bosib i mi fynd heb rywun i edrych ar ôl Michael. Ond gyda’r rhaglen yma, roedd yn bosib i mi ei adael gyda’r grŵp strôc a gwybod byddai’n iawn.

“Rwy’n annog eraill i fynd gan fod yn codi tynnu mawr oddi ar eich ysgwyddau."

Bydd llefydd ar gyfer hyd at 10 gofalwr ar bob raglen sy’n cael ei chynnig. Bydd y cyntaf yn digwydd ym Mhen-y-bont ar Ogwr ym mis Awst, ac un arall yn yr un ardal cyn mis Mawrth nesaf, yn ogystal â dwy yn Abertawe a dwy arall yn ardal Castell Nedd a Phort Talbot.

Am ragor o wybodaeth ac i gofrestru eich diddordeb, ffoniwch y Gymdeithas Strôc ar 02920 524400 neu e-bostiwch info.cymru@stroke.org.uk

www.stroke.org.uk/about-us/for-professionals/life-after-stroke-services/caring-and-you-programme

Topics

Regions


  • Trawiad ar yr ymennydd yw strôc sydd yn digwydd pan fydd y cyflenwad gwaed i’r ymennydd yn cael ei atal, unai oherwydd clot neu waedu. Pob blwyddyn, bydd o gwmpas 7,400 o bobl yng Nghymru’n cael strôc ac mae’r Gymdeithas Strôc yn amcangyfrif bod bron i 66,000 o oroeswyr strôc yn byw yng Nghymru.
  • Elusen yw’r Gymdeithas Strôc. Credwn ym mywyd ar ôl strôc a gyda’n gilydd gallwn drechu strôc. Gweithiwn yn uniongyrchol gyda goroeswyr strôc a’u teuluoedd a gofalwyr, gyda gweithwyr gofal iechyd a chymdeithasol a gyda gwyddonwyr ac ymchwilwyr. Ymgyrchwn i wella gofal a chefnogaeth strôc a chefnogwn bobl i wella yn y ffordd orau posib. Mae’r Llinell Gymorth Strôc (0303 303 3100) yn darparu gwybodaeth a chefnogaeth ar strôc. Mae mwy o wybodaeth ar gael ar www.stroke.org.uk

Contacts