Skip to content

Press release -

Galwad am darged amser uchaf newydd o alwad 999 i driniaeth ar gyfer cleifion strôc

Wrth ymateb i'r ffigurau a gafwyd gan Blaid Cymru, dywedodd Carol Bott, Cyfarwyddwr y Gymdeithas Strôc yng Nghymru, “Mae'n hanfodol bod cleifion yn cael mynediad at ofal cyflym ac effeithiol, i sicrhau eu bod yn cael y trinaieth gorau posibl er mwyn gallu ailadeiladu eu bywyd ar ôl strôc.

“Y hiraf y bydd cleifion yn aros am ofal brys, y mwyaf difrifol fydd effaith y strôc. Mae'n arbennig o bryderus gweld nifer fawr o gleifion yn aros mwy nag awr - gallai hyn gael effaith ddinistriol ar allu'r rhan fwyaf o bobl i wella'n dda.

“Dyma pam ein bod yn galw am newidiadau i'r ffordd y caiff amseroedd ymateb ambiwlansys eu mesur yng Nghymru; i edrych ar y gofal sy’n cael ei gynnig, nid yn unig o bwynt yr alwad 999 i pan fydd yr ambiwlans yn cyrraedd, ond i'r pwynt lle mae pobl yn derbyn triniaeth yn yr ysbyty. Credwn yn gryf fod angen target ymateb hefyd gyda'r mesur hwn, wrth ddysgu o'r dull yn Lloegr.

“Rydym yn croesawu sylw'r Gweinidog heddiw y byddai'n ystyried cyflwyno targed, pe bai tystiolaeth newydd yn dod i'r amlwg. Fodd bynnag, credwn fod newyddion am yr amserau aros ambiwlans hir hyn yn ychwanegu at y dystiolaeth bresennol i gefnogi'r angen am darged, er mwyn sicrhau bod cleifion strôc yng Nghymru yn cael y gofal cyflym ac effeithiol sydd ei angen arnynt i allu ailadeiladu eu bywyd ar ôl strôc.”

Diwedd

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Ffion Miles ar 02920 524419/07398110393 neu e-bostiwch Ffion.miles@stroke.org.uk

Topics


  • Trawiad ar yr ymennydd yw strôc sydd yn digwydd pan fydd y cyflenwad gwaed i’r ymennydd yn cael ei atal, unai oherwydd clot neu waedu. Pob blwyddyn, bydd o gwmpas 7,400 o bobl yng Nghymru’n cael strôc ac mae’r Gymdeithas Strôc yn amcangyfrif bod bron i 66,000 o oroeswyr strôc yn byw yng Nghymru.
  • Elusen yw’r Gymdeithas Strôc. Credwn ym mywyd ar ôl strôc a gyda’n gilydd gallwn drechu strôc. Gweithiwn yn uniongyrchol gyda goroeswyr strôc a’u teuluoedd a gofalwyr, gyda gweithwyr gofal iechyd a chymdeithasol a gyda gwyddonwyr ac ymchwilwyr. Ymgyrchwn i wella gofal a chefnogaeth strôc a chefnogwn bobl i wella yn y ffordd orau posib. Mae’r Llinell Gymorth Strôc (0303 303 3100) yn darparu gwybodaeth a chefnogaeth ar strôc. Mae mwy o wybodaeth ar gael ar www.stroke.org.uk

Contacts