Skip to content
Goroeswr strôc o Abertawe Sara Thomas-Norman
Goroeswr strôc o Abertawe Sara Thomas-Norman

Press release -

Goroeswr lleol yn annog trigolion Abertawe i Roi Help Law I Bobi a chefnogi strôc

Mae Sara, 49 oed, yn cefnogi Wythnos Rhoi Help Law i Bobi yr elusen o'r 22 i 28 Hydref 2018, pan fydd arian yn cael ei godi trwy werthu bwyd blasus ledled Cymru.

Fel mam o dri phlentyn oedd ar fin gadael adref, roedd Sara yn edrych ymlaen at gyfnod newydd yn ei bywyd lle gallai hi roi mwy o amser I ganolbwyntio ar ddod yn fwy iachus ac adeiladu ei gyrfa fel gwneuthurwr cacennau proffesiynol a gweithiwr cymorth i blant anabl pan newidiodd popeth.

Dywedodd Sara:

"Roeddwn i ar fin cychwyn cam nesaf fy mywyd. Byddwn bob amser yn rhoi fy mhlant yn gyntaf, ond erbyn hynny roedd hi'n amser i fi ac roeddwn i'n colli pwysau ac yn teimlo'n wych.

"Ond un diwrnod, roedd gen i cur pen drwg iawn a phan ddaeth fy mechgyn adref, roedden nhw'n gwybod nad oedd rhywbeth yn iawn a ddaru nhw ddweu fod rhaid imi fynd i'r ysbyty.

"Roeddwn i mewn am bron i ddau fis. Fe ddywedon nhw y byddai'n hirach, ond roeddwn i'n benderfynol o adael - felly byddwn i'n gwneud i unrhyw un a ymwelodd a fi fy helpu i gerdded i fyny ac i lawr y ward a tharro fy ffon lawr, gan ddweud fy mod yn gadael – ac mi wnes i lwyddo gadael yn gynharach nag oeddent wedi meddwl!”


Mae gan Sara gwendid i lawr un ochr sydd wedi effeithio ar ei gallu i bobi.Ond, gyda chymorth ei meibion, sy'n ddau gogydd, mae'n edrych ymlaen at greu rhywbeth blasus ar gyfer Rhoi Help Law i Bobi.


Ychwanegodd:

"Pan gyrhaeddais adref o'r ysbyty, nid oedd gen i fywyd, ond roedd Jason o'r Gymdeithas Strôc yn dweud wrtha’i i ymuno â'm grŵp lleol - a phan wnes i, daethon nhw fel teulu i mi. Roeddwn wedi cael ‘zest’ am fywyd cyn fy strôc, ac fe'u cynorthwyodd i mi ei gael yn ôl, felly erbyn hyn rwyf am roi rhywbeth yn ôl iddyn nhw hefyd.

"Dwi ddim yn gallu addurno cacennau fel yr oeddwn i'n arfer, ond os yw fy mab yn fy helpu i gracio'r wyau a defnyddio’r pibell eisin, gallaf wneud sbwng digon blasus!”

A ragor o gyngor gan Sara i eraill sy'n meddwl Rhoi Help Law i Bobi?

"Dylech bob amser cymryd yr wyau allan o'r oergell 12 awr ymlaen llaw, a phan mae’r cacen yn barod, rhoi haen o eisin drosto, ei roi yn yr oergell am pum munud cyn roi gweddill yr eisin ymlaen fel na fydd yn llawn briwsion.”

Dywedodd Llinos Wyn Parry, Cyfarwyddwr dros-dro y Gymdeithas Strôc yng Nghymru:

"Mae Wythnos Rhoi Help Law I bobi yn ffordd hwyliog a blasus o gefnogi gwaith ein helusen. Rydym yn ariannu ymchwil I mewn i driniaeth strôc a gofal a chefnogi goroeswyr strôc gyda'u hadferiad. Mae hyn yn cynnwys ein rhaglen diweddaraf ar-lein, Fy Nghanllaw Strôc,, sy'n darparu cyngor, gwybodaeth a chefnogaeth rownd y cloc i oroeswyr strôc, eu teuluoedd a'u gofalwyr.

“Byddem ni wrth ein boddau pe byddau bobl Abertawe yn codi storm gyda ffrindiau, teulu neu gydweithwyr ar gyfer Rhoi Help Law I Bobi. P'un a ydych chi'n newydd i bobi neu’n gogydd llawn profiad, am brynu brownies ar gyfer y swyddfa neu â’r gallu I gynnal te prynhawn i ffrindiau a theulu, mae yna lawer o ffyrdd y gallwch cymryd rhan a chefnogi strôc.”

Ewch i www.stroke.org.uk/GAH i gofrestru am becyn codi arian ac i ddarganfod mwy am Fy Nghanllaw Strôc a’r holl gymorth arall sy’n cael ei chynnig gan y Gymdeithas Strôc. 

Topics


  • Trawiad ar yr ymennydd yw strôc sydd yn digwydd pan fydd y cyflenwad gwaed i’r ymennydd yn cael ei atal, unai oherwydd clot neu waedu. Pob blwyddyn, bydd o gwmpas 7,400 o bobl yng Nghymru’n cael strôc ac mae’r Gymdeithas Strôc yn amcangyfrif bod bron i 66,000 o oroeswyr strôc yn byw yng Nghymru.
  • Elusen yw’r Gymdeithas Strôc. Credwn ym mywyd ar ôl strôc a gyda’n gilydd gallwn drechu strôc. Gweithiwn yn uniongyrchol gyda goroeswyr strôc a’u teuluoedd a gofalwyr, gyda gweithwyr gofal iechyd a chymdeithasol a gyda gwyddonwyr ac ymchwilwyr. Ymgyrchwn i wella gofal a chefnogaeth strôc a chefnogwn bobl i wella yn y ffordd orau posib. Mae’r Llinell Gymorth Strôc (0303 303 3100) yn darparu gwybodaeth a chefnogaeth ar strôc. Mae mwy o wybodaeth ar gael ar www.stroke.org.uk
  • Contacts