Press release -
Goroeswr strôc am i fwy deall strôc a helpu i ailadeiladu bywydau
- Nid yw dros chwarter (27%) o’r boblogaeth yn gwybod bod strôc yn digwydd yn yr ymennydd - gan amlygu diffyg ymwybyddiaeth am brif achos anabledd y DU.
- Mae dau draean o oedolion yng Nghymru yn adnabod rhywun sydd wedi cael strôc ond mae'r rhan fwyaf yn cyfaddef bod ganddynt ddiffyg yn yr ymwybyddiaeth a dealltwriaeth sydd eu hangen i gefnogi goroeswyr strôc wrth iddynt wella.
- Mewn arolwg arall o oroeswyr strôc, dywedodd mwy na phedwar allan o bump (85%) nad oedd y bobl yr oeddent yn cysylltu gyda yn dyddiol â hwy yn deall effaith y strôc.
Mae ymchwil syfrdanol arall yn dangos bod bron i draean (30%) o bobl (i) yng Nghymru sy'n adnabod rhywun sydd wedi goroesi strôc yn cyfaddef eu bod yn ei chael hi'n anodd I’w cefnogi i wneud eu gwellhad gorau posibl, yn ôl canfyddiadau newydd (ii) a gyhoeddwyd gan y Gymdeithas Strôc.
Mae'r ymchwil yn dangos bod un rheswm pwysig dros y diffyg cymorth strôc i oroeswyr yn deillio o ddiffyg ymwybyddiaeth o'r hyn yw strôc a sut mae'n effeithio ar bobl. Yn wir syfrdanol, nid yw mwy na chwarter (27%) y cyhoedd yn y DU (ii) yn gwybod ble yn y corff mae strôc yn digwydd: yr ymennydd.
I'r rhai yng Nghymru sy'n adnabod goroeswr strôc, mae nifer enfawr o bedwar allan o bump (i) (82%) yn teimlo y byddai dealltwriaeth gwell o strôc yn eu helpu i gefnogi'r goroeswr yn well. Hyn oll, er mai strôc yw prif achos anabledd y wlad.
Darganfyddodd yr ymchwil (i) hefyd mai allan o’r rheini yng Nghymru sy'n adnabod rhywun yn bersonol sydd wedi cael strôc:
Mewn arolwg ar wahân (iii) o oroeswyr strôc, dywedodd mwy na phedwar allan o bump (85%) o oroeswyr strôc nad oedd y bobl y cawsant gyswllt dyddiol â hwy yn deall effaith y strôc. Mae'r bwlch gwybodaeth 'hwn yn atal goroeswyr rhag cael y cymorth sydd ei angen arnynt gan y rhai sydd agosaf atynt, ac yn atal goroeswyr rhag gwneud yr adferiad gorau posibl i ailadeiladu eu bywydau ar ôl strôc.
Roedd y dad I ddau o blant, Dave Jones o Rydaman yn 36 oed pan gafodd strôc yn 2017. Roedd ganddo gur pen a phendro ac roedd yn rhaid iddo adael y gwaith. Gwaethygodd ei gyflwr a deffrodd ddeuddydd yn ddiweddarach yn methu gweld.
Dywedodd Dave: “Roeddwn i'n weddol ifanc ac yn heini, roeddwn i'n mynd i'r gampfa yn rheolaidd. Ni wnes i hyd yn oed ystyried y gallwn gael strôc.
“Ddaru sgan dangos fy mod wedi bod yn gwaedu yn fy ymennydd a ddaru nhw ddweud fy mod yn lwcus i fod yn fyw. Pan ddaeth fy ngolwg yn ôl roeddwn yn gweld popeth yn dwbl a dwi'n dal i gael trafferth gyda fy nghof, blinder a thrafferth rheoli fy emosiynau.
“Gall o wneud i chi deimlo'n unig iawn gan nad yw pobl yn deallpam nad ydw i yr un person ‘roeddwn i o’r blaen. Y diwrnod diwethaf roeddwn i eisiau crio am ddim rheswm, yna roeddwn i'n chwerthin. Ond mae pobl yn dweud, ‘mae o’n ddyn dros chwe throedfedd, beth sy’ bod gyda fo?’ Nid ydynt yn deall y gwahanol ffyrdd y mae strôc yn effeithio arnoch chi.”
Ymunodd Dave â grŵp Cymdeithas Strôc ar gyfer goroeswyr strôc iau yn Sir Gaerfyrddin, sydd wedi bod yn gefnogaeth enfawr.
Ychwanegodd: “Cefais wybod pwy oedd fy ffrindiau go iawn ar ôl y strôc. Nid oedd rhai am draelio amser efo fi erbyn hynny, felly roedd cyfarfod â goroeswyr eraill fel fi yn mor bwysig.
“Mae wedi fy helpu i ddysgu nad yw o nawr am fynd yn ôl at y ffordd yr oedde chi cyn y strôc, ond am gymryd camau bach i ailadeiladu eich bywyd mewn ffordd wahanol. Ac mae angen i bawb ddeall hynny fel y gallant eich cefnogi chi.”
Cyhoeddodd yr elusen ei chanfyddiadau i nodi lansiad ei hymgyrch ddiweddaraf, ‘Rebuilding Lives’, sy'n ceisio dangos yr heriau sy'n wynebu goroeswyr strôc a'r rhai sy'n eu cefnogi gyda'u hadferiadau. Mae canfyddiadau eraill yn datgelu'r effeithiau niweidiol y gall strôc eu cael ar rwydweithiau a pherthnasoedd cymdeithasol:
Roedd mwy nag un o bob 10 o ymatebwyr yn cyfaddef eu bod yn gweld y goroeswr yn llai ar ôl eu strôc.
Cyfaddefodd mwy nag un o bob chwech o'r rhai sy'n adnabod goroeswr strôc eu bod yn treulio llai o amser gyda nh oherwydd eu nad oeddynt yn gweld y goroeswr yn yr un ffordd yn dilyn eu strôc.
Dywedodd chwarter (25%) y bu gostyngiad mewn gweithgarwch cymdeithasol ar ran y goroeswr strôc.
Dywedoedd Carol Bott, Cyfarwyddwr y Gymdeithas Strôc yng Nghymru: “Mae strôc yn digwydd yn yr ymennydd, y ganolfan sy’n reoli dros pwy ydym ni a beth y gallwn ei wneud. Mae'r effaith yn amrywio yn ôl pa ran o'r ymennydd sy’n cael ei heffeithio. Gallai fod yn unrhyw beth, o effeithio arnoch yn gorfforol, ar eich gallu i siarad neu ar eich emosiynau a'ch personoliaeth. Felly, mae'n wir yn sialens i bawb wrth iddynt fynd i'r afael â'r digwyddiad hwn sy'n newid bywyd cyn gymaint.
“Mae'r adroddiad hwn yn amlygu cymhlethdod strôc ac yn codi'r angen ymhlith pobl i ddeall effaith strôc er mwyn cefnogi eu hanwyliaid yn well.
“Mae hynny'n eithaf brawychus o ystyried bod bron i 70,000 o oroeswyr strôc yn byw yng Nghymru, gyda llawer ohonynt yn ddibynnol ar eu ffrindiau a'u teulu I gael cymorth gyda byw bob dydd ac i ddeall eu hanghenion emosiynol ac iechyd meddwl.
“Nid oes rhaid iddo fod fel hyn. Rydym yn annog y bobl hynny sy'n adnabod rhywun sydd wedi cael strôc i helpu i droi hyn o gwmpas. Estynwch allan i'r Gymdeithas Strôc am gymorth er mwyn i ni allu cefnogi goroeswyr strôc i ailadeiladu eu bywydau.
I gael rhagor o wybodaeth am yr hyn y gallwch ei ddisgwyl ar ôl strôc, mae'r Gymdeithas Strôc wedi gweithio mewn partneriaeth â Choleg Brenhinol y Meddygon i gynhyrchu llyfryn sydd ar gael yma:https://tinyurl.com/yyqj638z
Topics
Nodiadau i Olygyddion
Awgrymiadau da i bobl sy'n cynnig cymorth i oroeswyr strôc
Byddwch yn amyneddgar
Gadewch i'r goroeswr strôc wneud pethau yn eu hamser eu hunain. Os oes rhywbeth sy'n eich rhwystro chi, eglurwch beth yw’r broblem yn bwyllog a chanolbwyntiwch ar yr hyn y gall y ddau ohonoch ei wneud i'w wella.
Peidiwch â gor-gymhlethu.
Peidiwch â gwneud pethau'n rhy gymhleth os yw'r goroeswr strôc yn ei chael hi'n anodd canolbwyntio neu gofio pethau. Helpwch nhw yn y ffordd iawn: torrwch dasgau i lawr i gamau unigol, rhowch gyfarwyddiadau syml, un ar y tro, yn hytrach na rhestr o bethau i'w gwneud. Cyrhaeddwch y pwynt.
Annog
Ymarferiwch ymarferion gyda'r goroeswr strôc a meddwl am ffyrdd i'w gwneud yn hwyl. Gall coginio pryd o fwyd fod yn ffordd dda o ymarfer cynllunio a datrys problemau, er enghraifft. Os yw gwellhad yn araf gall fod yn hawdd meddwl na fydd pethau byth yn gwella, felly helpwch nhw drwy ddathlu eu holl lwyddiannau, waeth pa mor fach ydynt.
Peidiwch â gwneud popeth ar eu cyfer
Mae'n arferol i chi wneud cymaint â phosib ar gyfer eich anwylyd. Ond bydd yn well i chi eu helpu i wneud pethau ar eu pennau eu hunain yn hytrach na gwneud popeth ar eu rhan. Felly, os byddant yn gofyn i chi pa ddiwrnod ydyw, awgrymwch eu bod yn edrych ar y papur i gael gwybod. Efallai gosodwch eu dillad allan, fel y gallant wisgo eu hunain, neu gynhwysion i wneud brechdan.
Helpwch nhw i gael cefnogaeth
Mae meddygon yn aml yn methu problemau gwybyddol ac weithiau gall fod yn anodd eu cymryd o ddifrif. Fodd bynnag, mae angen i chi fod yn ffyddiog eich bod chi'n adnabod y goroeswr - eich ffrind neu rywun annwyl i chi - yn well na nhw, felly peidiwch â bod ofn parhau i wthio i gael y cymorth sydd ei angen arnoch. Os nad ydych chi'n meddwl eich bod yn cael y cymorth iawn gan eich meddyg neu'ch tîm strôc, yna ffoniwch ein Llinell Gymorth Strôc ar 0303 3033 100.
Dod o hyd i ffyrdd newydd o gyfathrebu
Os nad yw'r goroeswr yn gallu cyfathrebu yn yr un modd ag o'r blaen, yna bydd angen i chi ddysgu ffyrdd newydd o wneud hynny hefyd. Gofynnwch iddyn nhw beth sy'n helpu. Cymerwch ran yn eu therapi siarad ac iaith gymaint ag y gallwch. Mae llawer o bobl â phroblemau cyfathrebu yn dweud eu bod yn anweledig oherwydd bod pobl yn anghofio bod ganddynt rywbeth i'w ddweud neu nad ydynt yn barod i roi'r ymdrech i mewn i ddarganfod. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys y person mewn gweithgareddau a sgyrsiau.