Skip to content
Mae Dave, goroeswr strôc o Sir Gaerfyrddin, wedi ymddangos mewn apêl ar y teledu dros y Gymdeithas Strôc

Press release -

Mae Dave, goroeswr strôc o Sir Gaerfyrddin, wedi ymddangos mewn apêl ar y teledu dros y Gymdeithas Strôc

Ymddangosodd goroeswr strôc o Sir Gaerfyrddin ar y teledu gyda’r seren o raglen EastEnders, Rudolph Walker, i godi arian i’r elusen a wnaeth ei helpu i ailgydio yn ei fywyd.

Yn apêl codi arian ‘Lifeline’, ar BBC 1, dywedodd Dave Jones, o Dycroes, ger Rhydaman, fod y gefnogaeth yr oedd wedi’i derbyn gan Y Gymdeithas Strôc wedi bod yn “amhrisiadwy”.

Cyflwynir y rhaglen, y gellir ei gweld ar wefan y BBC https://www.bbc.co.uk/iplayer/episode/m000tq6d/lifeline-stroke-association , gan yr actor, y mae’i gymeriad ‘Patrick Trueman’ wedi cael dwy strôc.

Roedd Dave ond yn 36 oed, yn abl, yn iach ac yn gweithio fel rheolwr gwerthu rhanbarthol i Selwood Pumps pan gafodd ei strôc yn 2017.

“Fe deimlais sŵn popian bychan y tu ôl i fy ngwddf, ac fe wnes ei briodoli i feigryn,” meddai Dave.

“Fe ddeffrais ar y bore yn ddall. Fe es i lawr i’r Adran Damweiniau ac Achosion Brys yn Ysbyty Glangwili, ac fe wnaethant fy anfon am sgan CT. Daeth y nyrs ataf ac meddai: ‘Rydych wedi cael gwaedlif ar yr ymennydd, fe allech fynd i goma.’ Dyna adeg fwyaf arswydus fy mywyd.”

Cafodd Dave ei olwg yn ôl ond fe’i cafodd hi’n anodd yn gorfforol ac fe ddioddefodd ei iechyd meddwl hefyd dros y misoedd canlynol.

“Roedd gen i olwg dwbl, nid oedd fy mraich dde’n gweithio, nid oedd fy nghoes dde’n gweithio. Ni allwn siarad yn iawn. Fe gyrhaeddais y sefyllfa lle nad oedd arnaf eisiau bod yma. Fe wnes mewn gwirionedd gyrraedd y pwynt o feddwl am roi diwedd ar y cwbl.”

Dechreuodd ei fywyd wella pan wnaeth Y Gymdeithas Strôc helpu i drefnu ffisiotherapi a therapi cyfathrebu. Fe wnaeth hefyd ymuno â grŵp cymorth newydd i ddynion yn ei ardal oedd yn cael profiadau cyffelyb, a sefydlwyd gan Angela Hayes, cydgysylltydd gwasanaeth adferiad strôc yr elusen dros Sir Gaerfyrddin.

Roedd arnynt eisiau cael ychydig o hwyl a bod yn gallu sgwrsio â’i gilydd ymaith o’u teulu. Dechreuodd y grŵp gyfarfod yn fisol mewn tafarn leol, gyda thua 15 o aelodau o Rydaman, Llanelli, Caerfyrddin a chymunedau eraill ledled y sir.

Pan darodd Covid-19, symudodd y grŵp i fod ar-lein gyda chyfarfodydd pob pythefnos ar Zoom. Yn yr apêl ar y teledu, fe welir Dave yn sgwrsio ar-lein â’i gyd-oroeswyr.

Dywedodd Dave: “Byddem yn helpu’n gilydd drwyddo ac yn siarad am ein profiad; mae’n gymorth enfawr i mi.

“Wrth siarad â goroeswyr eraill, rydych yn teimlo bod yna rywun yno. Nad ydych ar eich pen eich hun. Maen’ nhw wedi’i wneud o, ac felly fe allaf innau'i wneud o. Fe allaf wella. Nid wyf yn ei alw’n ‘adferiad’, rwyf yn ei alw’n ‘ailadeiladu’. Rwyf yn dal i gael symptomau hyd y dydd heddiw o affasia (diffyg lleferydd) a lludded.

“Mae fy swyddog cymorth o’r Gymdeithas Strôc wedi bod yn gymorth enfawr imi. Mae hi wedi bod yn amhrisiadwy yn fy adferiad. Ni fyddwn byth wedi cyrraedd lle rydwyf hebddi.”

Mae Dave yn parhau i ailgydio yn ei fywyd gyda’i wraig Susan, 38, ei ferch Steph, 17, ac Arthur, sy’n bedwar.

“Pan gefais fy strôc, fe ddywedwyd wrthyf na fyddwn byth yn gweithio wedyn ond rwyf yn bwriadu chwilio am rywbeth addas ymhen 18 mis arall, a’u profi’n anghywir,” meddai Dave.

Dywedodd Katie Chappelle, cyfarwyddwr cyswllt Y Gymdeithas Strôc dros Gymru: “Hoffem ddweud ‘Diolch yn fawr iawn’ wrth Dave am rannu’i stori strôc yn apêl ‘Lifeline’ y BBC ac am fwrw goleuni ar sut rydym yn cynorthwyo pobl sydd wedi goroesi strôc.

“Strôc yw un o’r lladdwyr mwyaf ac mae’n un o achosion pennaf anabledd, ac mae tua 7,400 o bobl yn cael strôc bob blwyddyn yng Nghymru.

“Fel pob elusen, amharwyd yn ddrwg ar ein hincwm yn ystod y pandemig ond mae ar oroeswyr strôc ein hangen yn awr yn fwy nag erioed, a bydd pob rhodd yn ein helpu i wneud gwahaniaeth.”

Mae partner yr elusen, sef ISS UK, wedi addo rhoi £1 am bob £1 a gyfrannir, sy’n golygu y gellir dyblu gwerth rhoddion am y £15,000 cyntaf a roddir.

Gellir gwylio apêl ‘Lifeline’ BBC 1 ar ran y Gymdeithas Strôc ar iPlayer yma: https://www.bbc.co.uk/iplayer/episode/m000tq6d/lifeline-stroke-association

I gael mwy o wybodaeth am strôc a’r gwasanaethau cymorth ar gyfer goroeswyr a gofalwyr yng Nghymru, ewch i www.stroke.org.uk neu ffoniwch Llinell Gymorth Strôc ar 0303 3033 100.

Topics

Categories


  • Ynglŷn â’r Gymdeithas Strôc
    Mae strôc yn taro bob pum munud yn y Deyrnas Unedig ac mae’n newid bywydau ar amrantiad.
    Elusen yw’r Gymdeithas Strôc sy’n gweithio ledled y Deyrnas Unedig i gynorthwyo pobl ailgydio yn eu bywydau ar ôl strôc. Credwn fod pawb yn haeddu byw’r bywyd gorau y gallant ar ôl strôc. O wasanaethau a grwpiau cymorth lleol i wybodaeth a chymorth ar-lein, gall pawb yr effeithir arnynt gan strôc fynd i stroke.org.uk neu ffonio’n Llinell Gymorth Strôc benodedig ar 0303 3033 100 i ganfod gwybodaeth am gymorth sydd ar gael yn lleol.
    Mae ein cymorth arbenigol, ein hymchwil a’n gwaith ymgyrchu ond yn bosibl gyda dewrder a phenderfyniad y gymuned strôc a haelioni’n cefnogwyr. Gyda mwy o roddion a chymorth, gallwn helpu i ailadeiladu hyd yn oed mwy o fywydau.

Contacts