Skip to content
Over half of Welsh people have never heard of aphasia / Nid yw dros hanner pobl Cymru erioed wedi clywed am affasia

Press release -

Over half of Welsh people have never heard of aphasia / Nid yw dros hanner pobl Cymru erioed wedi clywed am affasia

New research from the Stroke Association reveals a huge lack of public awareness and knowledge of aphasia - a language and communication disorder most commonly caused by stroke

New research from the Stroke Association reveals over half of the Welsh public (57%) have never heard of aphasia*, despite it affecting over 350,000 people in the UK1.

Aphasia is a language and communication disorder - with stroke being the biggest cause1. The condition often has a profound effect on someone’s ability to speak, read, write and/or use numbers. There are over 70,000 stroke survivors living in Wales, and over a third (40%) will experience aphasia after their stroke.

The new research* from the UK's leading stroke charity highlights that most people in Wales don’t know about the disorder, and the huge impact it has on people’s lives. Moreover, two thirds (66%) of people in Wales don’t know that aphasia is a language and communication disorder.

Currently, most people (85%) lack confidence in recognising its symptoms and less than half of people (40%) would feel confident in communicating with someone with the disorder.

Whilst aphasia does not affect intelligence, three quarters of Welsh people (75%) think being able to speak or communicate well is a sign of intellect, which can create huge barriers for those with aphasia. In fact, nearly a quarter of adults (23%) also admit that, if they met someone who had problems communicating, they would assume that person had a learning difficulty.

The research also highlights other common misconceptions around aphasia including, only around a quarter (24%) of Welsh people believe that aphasia onlyaffects someone’s ability to talk and one in ten people mistakenly thinking that aphasia can’t improve.

To help raise awareness of aphasia, the Stroke Association has launched ‘When the Words Away Went’, a documentary about three stroke survivors living with aphasia embarking on their journey to find their voice and rebuild their lives.

The documentary aims to equip people with the knowledge, understanding and confidence to support those living with aphasia.

Katie Chappelle, Associate Director for Wales, Stroke Association said: “Aphasia is very common, affecting over a third of stroke survivors, so it’s disheartening to see such low awareness and knowledge of aphasia amongst the general public.

“Most of us can’t imagine living with aphasia, but it makes everyday tasks like getting on the bus or talking to a friend daunting, made worse by misconceptions that people with aphasia lack intelligence. This can often lead to anxiety and depression, feeling excluded from society and difficulties with personal relationships.

“We want to encourage everyone to watch our new documentary ‘When the Words Away Went’, featuring stories from three inspiring stroke survivors impacted by aphasia, so people can better understand the condition and become an ally to those affected. Together we can help make the lives of those living with aphasia a little bit easier.

“The Stroke Association is here for everyone affected by aphasia, providing support and an important reminder that there is hope. Aphasia can and does improve, and with the right help people with aphasia can live their best lives.”

You can watch the film online at stroke.org.uk/film or stream on Channel 4 from 26 May

To find out more about aphasia and how you can support those affected, visit https://www.stroke.org.uk/aphasia.

....

Mae ymchwil newydd gan y Gymdeithas Strôc yn datgelu diffyg mawr yn ymwybyddiaeth a gwybodaeth y cyhoedd am affasia – anhwylder iaith a chyfathrebu a berir yn fwyaf cyffredin gan strôc.

Mae ymchwil newydd gan y Gymdeithas Strôc yn datgelu nad yw dros hanner pobl Cymru (57%) erioed wedi clywed am affasia*, er ei fod yn effeithio ar dros 350,000 o bobl yn y Deyrnas Unedig1.

Anhwylder iaith a chyfathrebu yw affasia – a strôc yw’r achos pennaf1. Caiff y cyflwr yn aml effaith ddofn ar allu rhywun i siarad, darllen, ysgrifennu ac/neu i ddefnyddio rhifau. Mae yna fwy na 70,000 o oroeswyr strôc yn byw yng Nghymru, a bydd dros draean (40%) yn profi affasia ar ôl eu strôc.

Mae’r ymchwil* newydd gan brif elusen strôc y Deyrnas Unedig yn amlygu nad yw’r rhan fwyaf o bobl Cymru yn gwybod am yr anhwylder, a’r effaith enfawr a gaiff ar fywydau pobl. Yn ogystal, nid yw dwy ran o dair (66%) o bobl yng Nghymru yn gwybod bod affasia’n anhwylder iaith a chyfathrebu.

Ar hyn o bryd, mae’r rhan fwyaf o bobl (85%) yn ddiffygiol mewn hyder i adnabod ei symptomau, a byddai llai na hanner o bobl (40%) yn teimlo’n hyderus wrth gyfathrebu â rhywun sydd â’r anhwylder.

Cafodd Bob Younger o Bont-y-pŵl strôc ddinistriol yn 2010, ac yntau’n 60 oed. Roedd wedi mynd i’r ysbyty am apwyntiad ar gyfer ei wraig ond tra oedd yn yr ystafell aros, cafodd strôc, ac fe’i rhuthrwyd gan feddygon i’r Adran Damweiniau ac Achosion Brys. Arhosodd Bob yn yr ysbyty am dros dri mis ond mae hi wedi bod yn daith faith i ailadeiladu’i fywyd.

“Newidiodd bywyd yn aruthrol – roedd y flwyddyn gyntaf ar ôl y strôc mor anodd. Symudwyd fy ystafell wely lawr grisiau. Roedd yn rhaid i fy nheulu gamu yn ôl a gadael imi ymdopi â’r sefyllfa.


“Os oedd arnaf eisiau paned o goffi, gwnaethant wneud imi ofyn amdani. Felly roedd yn rhaid imi gryfhau a chael y geiriau allan. Fe helpodd gymaint arnaf ac fe wnaeth fy ngwthio.

“Mae cael affasia mor rhwystredig, gan fy mod yn gwybod beth i’w ddweud yn fy mhen ond nid yw’n dod allan. Byddai’n dda gen i petawn yn gallu cael beth mae arnaf eisiau’i ddweud allan. Gyda strôc, fe’m gadawyd gydag ond un hanner ohonof. Mae gen i wendid ar yr ochr dde yn fy nghoes a’m braich.”

Gwnaeth y tad i ddau ymuno yn gyndyn â grŵp strôc Cwmbran ar ôl cael ei ddarbwyllo i wneud hynny gan gydgysylltydd cymorth y Gymdeithas Strôc.

“Dyna’r peth gorau a ddigwyddodd imi erioed. Gwrandawodd pawb a rhoesant amser imi, gan wybod bod affasia arnaf ond maent yn rhoi amser ichi ddeall a rhoi ateb. Nid oes yna ruthro neu rywun yn siarad ar eich rhan neu gael eich anwybyddu. Mae affasia’n ddinistriol. Gwnes i fath o addysgu fy hun i siarad. Geiriau sy’n glynu ac ni allaf eu cael allan. Nid wyf yn dweud wrth bobl newydd bod affasia arnaf ond pan fo rhywbeth yn digwydd ac mae gen i anhawster, rwyf yn dweud wrthynt wedyn. Mae’r gair i fyny yma yn fy mhen ond nid yw’n dod allan o fy ngheg. “

Roedd Bob yn un o aelodau cyntaf y Côr Strike a Chord (Côr Taro Tant) yng Nghwmbran a ddechreuodd gyda chwe aelod, ac a oedd ganddo ar un adeg dros bump ar hugain o gantorion.

“Mae Strike a Chord wedi bod yn fendigedig i mi. Gyda chymorth ein cyfarwyddwr cerdd, Ali Shone, rydym wedi perfformio mewn digwyddiadau gwych. Mae wedi helpu cymaint arnaf ac rwyf wedi ennill cyfeillion gwych ond hefyd mae fy lleferydd wedi gwella. Gall canu helpu pobl sydd ag affasia, gan fy mod yn medru canu’n llawer haws na siarad oherwydd bod y geiriau’n dod allan ac nad oes arnaf angen meddwl. Mae’r côr yn gwirioneddol helpu pobl sydd ag affasia, ac ni wn lle y byddwn i hebddo.”

Mae ymarfer côr Strike a Chord yn digwydd bob dydd Iau am 12.30yp yng Nghwmbran

Er nad yw affasia’n effeithio ar ddeallusrwydd, cred tri chwarter pobl Cymru (75%) fod gallu siarad neu gyfathrebu’n dda yn arwydd o ddeallusrwydd, a all greu rhwystrau dirfawr i’r rheiny sydd ag affasia. Mewn gwirionedd, mae bron i hanner oedolion (23%) hefyd yn cyfaddef y byddent yn tybio, petaent yn cyfarfod â rhywun a chanddo drafferthion cyfathrebu, bod gan yr unigolyn hwnnw anhawster dysgu.

Mae’r ymchwil hefyd yn amlygu camsyniadau cyffredin eraill yn ymwneud ag affasia, yn cynnwys dim ond tua chwarter (24%) pobl Cymru sy’n credu bod affasia ond yn effeithio ar allu rhywun i siarad, ac mae un o bob deg o bobl yn credu’n gyfeiliornus na all affasia wella.

I helpu i godi ymwybyddiaeth o affasia, lansiodd y Gymdeithas Strôc ‘When the Words Away Went’, sef rhaglen ddogfen am dri o oroeswyr strôc sy’n byw ag affasia sy’n dechrau ar eu taith i ganfod eu llais ac i ailadeiladu’u bywydau.

Nod y rhaglen ddogfen yw cyfarparu pobl â’r wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r hyder i gynorthwyo’r rheiny sy’n byw ag affasia.

Dywedodd Katie Chappelle, Cyfarwyddwr Cyswllt Cymru, Cymdeithas Strôc: “Mae affasia’n gyffredin iawn, ac yn effeithio ar dros draean goroeswyr strôc, ac felly mae’n ddigalon gweld y fath ymwybyddiaeth a gwybodaeth isel am affasia ymysg y cyhoedd yn gyffredinol.

“Ni all y rhan fwyaf ohonom ddychmygu byw ag affasia, ond mae’n gwneud gorchwylion beunyddiol fel mynd ar y bws neu siarad â chyfaill yn rhywbeth dychrynllyd o anodd, ac fe’i gwaethygir gan gamsyniadau bod pobl ag affasia’n ddiffygiol mewn deallusrwydd. Gall hyn yn aml arwain at orbryder ac iselder, teimlad o gael eich allgáu o gymdeithas ac anawsterau gyda pherthnasoedd personol.

“Mae arnom eisiau annog pawb i wylio’n rhaglen ddogfen newydd, ‘When the Words Away Went’, sy’n cynnwys storïau gan dri goroeswr strôc ysbrydoledig yr effeithiwyd arnynt gan affasia, fel y gall pobl ddeall y cyflwr yn well a dod yn gynghreiriad i’r rheiny yr effeithir arnynt. Gyda’n gilydd, gallwn helpu i wneud bywydau’r rheiny sy’n byw ag affasia ychydig bach yn haws.

“Mae’r Gymdeithas Strôc ar gael i bawb yr effeithir arnynt gan affasia, ac mae’n darparu cymorth a modd pwysig o atgoffa bod yna obaith. Gall affasia wella ac mae’n hynny’n digwydd, a chyda’r cymorth iawn, gall pobl ag affasia fyw eu bywydau gorau.”

Gallwch wylio’r ffilm ar-lein yn stroke.org.uk/film neu ei ffrydio ar Sianel 4 o’r 26ain o Fai.

I ganfod mwy o wybodaeth am affasia ac am sut y gallwch gynorthwyo’r rheiny yr effeithir arnynt, ewch i https://www.stroke.org.uk/aphasia.

Topics


  • Stroke strikes every five minutes in the UK and it changes lives in an instant.
  • The Stroke Association is a charity working across the UK to support people to rebuild their lives after stroke. We believe that everyone deserves to live the best life they can after stroke. From local support services and groups, to online information and support, anyone affected by stroke can visit stroke.org.uk or call our dedicated Stroke Helpline on 0303 3033 100 to find out about support available locally.
  • Our specialist support, research and campaigning are only possible with the courage and determination of the stroke community and the generosity of our supporters. With more donations and support, we can help rebuild even more lives.
  • You can follow us on Twitter, Facebook and Instagram.

Contacts

Angela Macleod

Angela Macleod

Press contact Communications Officer Scotland press and Stroke Association research communications 0131 555 7244
Laura Thomas

Laura Thomas

Press contact Communications Officer Wales 07776508594
Ken Scott

Ken Scott

Press contact Press Officer North of England and Midlands 0115 778 8429
Daisy Dighton

Daisy Dighton

Press contact Press Officer London and East of England 02079401358
Martin Oxley

Martin Oxley

Press contact Press Officer South of England 07776 508 646
Vicki Hall

Vicki Hall

Press contact PR Manager Fundraising and local services 0161 742 7478
Scott Weddell

Scott Weddell

Press contact PR Manager Stroke policy, research and Northern Ireland 02075661528
Katie Padfield

Katie Padfield

Press contact Head of PR & Media This team is not responsible for booking marketing materials or advertising
Out of hours contact

Out of hours contact

Press contact Media queries 07799 436008
Kate Asselman

Kate Asselman

Press contact Artist Liaison Lead 07540 518022
Tell us your story

Tell us your story

Press contact 07799 436008

The UK's leading stroke charity helping people to rebuild their lives after stroke

The Stroke Association. We believe in life after stroke. That’s why we campaign to improve stroke care and support people to make the best possible recovery. It’s why we fund research to develop new treatments and ways to prevent stroke. The Stroke Association is a charity. We rely on your support to change lives and prevent stroke. Together we can conquer stroke.

Stroke Association
240 City Road
EC1V 2PR London
UK