Skip to content
Llinos Wyn Parry a Rachel Richards
Llinos Wyn Parry a Rachel Richards

Press release -

PROSIECT NEWYDD I HELPU ADEILADU CYMUNED STRÔC GRYFACH

Bydd llawer mwy o oroeswyr strôc a'u gofalwyr ledled Cymru bellach yn gallu cael cymorth ychwanegol i helpu gyda'u hadferiadau, diolch i lansiad prosiect newydd ‘Camau Cymunedol Strôc' gan y Gymdeithas Strôc.

Dywedodd Llinos Wyn Parry, Pennaeth Cefnogaeth strôc y Gymdeithas Strôc ar gyfer y canolbarth a gogledd Cymru:

“Bydd ein pedwar swyddog dros Gymru yn

siarad â phobl wedi eu heffeithio gan strôc i benderfynu ar y gefnogaeth sydd ei angen arnynt i adael y tŷ, i fod yn fwy egnïol ac i ailadeiladu eu hyder ar ôl digwyddiad mor newidiol. Bydd hi hefyd yn siarad â gofalwyr i drafod sut y gall y prosiect eu cefnogi.

"Mae angen cefnogaeth ar lawer o oroeswyr strôc i fod yn rhan o’u cymunedau fel na fyddant yn dod yn garcharorion yn eu cartrefi eu hunain.

"Trwy'r prosiect 'Camau Cymunedol Strôc' rydym bellach yn bwriadu cynnig y gefnogaeth honno, boed yn mynd allan i sesiwn golff neu i gyfarfod â goroeswyr strôc eraill fel eu hunain. Rydyn ni hefyd yma i ofalwyr y goroeswyr strôc a byddwn ni'n gweithio gyda nhw yn uniongyrchol i ddeall eu hanghenion. "

Cafodd gŵr Bethan Milner, Aaron, strôc pan oedd yn 35 oed, yn 2015. Mae’r fam i bedwar o blant yn gobeithio y bydd y prosiect yn ei helpu i gwrdd ag eraill sy'n delio â gofynion bywyd teuluol bob dydd a'r heriau o ddychwelyd i waith.

Meddai Bethan:

"Rydyn ni'n hoffi mynd i'r grŵp Cymdeithas Strôc yn Aberystwyth i gymdeithasu dros ginio, ond Aaron yw'r goroeswr ieuengaf o thua 30 mlynedd ac mae'n aml yn dweud y byddai'n wych cwrdd â mwy o bobl o gwmpas ei oedran ef. Rwyf hefyd yn gobeithio cwrdd â gofalwyr eraill fel y gallwn rannu straeon, cyngor ac awgrymiadau ar bethau fel mynd yn ôl i'r coleg neu fynd yn ôl i'r gwaith.

"Unwaith y bydd Aaron yn cael y gefnogaeth y mae angen arno iddo ddod yn fwy ffit, mae'n dymuno gwirfoddoli. Rwyf hefyd eisiau cynnig fy nghefnogaeth i bobl eraill fel ni, wrth iddynt ailadeiladu eu bywyd ar ôl strôc. "

Wrth siarad am y prosiect, dywedodd Rachel Richards, Swyddog Cyllid yn y Gronfa Loteri Fawr:

"Credwn y bydd 'Camau Cymunedol Strôc' yn gwneud cymaint o wahaniaeth i fywydau llawer o bobl mewn cymunedau ledled Cymru, ac mae'n brosiectau fel hyn sy'n cyflawni ein haddewid i ddefnyddio arian y Loteri Genedlaethol i adfywio cymunedau, mynd i'r afael ag anfantais ac yn gadael etifeddiaeth barhaol. "

I gael gwybod mwy am y prosiect, ewch i www.stroke.org.uk/camaucymunedol

Topics

Regions


  • Trawiad ar yr ymennydd yw strôc sydd yn digwydd pan fydd y cyflenwad gwaed i’r ymennydd yn cael ei atal, unai oherwydd clot neu waedu. Pob blwyddyn, bydd o gwmpas 7,400 o bobl yng Nghymru’n cael strôc ac mae’r Gymdeithas Strôc yn amcangyfrif bod bron i 66,000 o oroeswyr strôc yn byw yng Nghymru.

  • Elusen yw’r Gymdeithas Strôc. Credwn ym mywyd ar ôl strôc a gyda’n gilydd gallwn drechu strôc. Gweithiwn yn uniongyrchol gyda goroeswyr strôc a’u teuluoedd a gofalwyr, gyda gweithwyr gofal iechyd a chymdeithasol a gyda gwyddonwyr ac ymchwilwyr. Ymgyrchwn i wella gofal a chefnogaeth strôc a chefnogwn bobl i wella yn y ffordd orau posib. Mae’r Llinell Gymorth Strôc (0303 303 3100) yn darparu gwybodaeth a chefnogaeth ar strôc. Mae mwy o wybodaeth ar gael ar www.stroke.org.uk

Contacts