Press release -
Rhedwch ras y Flwyddyn hon yn Sir Fôn neu yng Nghaerdydd a thorri'ch risg o ddioddef strôc.
Mae'r elusen wedi lansio cyfres o rasys ledled y DU yn 2019, gan gynnwys cyfle i redeg 5K ym Mharc Bute, Caerdydd ar 10 Mawrth a 5K neu 10K yn Niwbwrch, Sir Fôn ar 24 Mawrth.
Amlygodd ymchwil gan yr Athro Tom Robinson, Llywydd y Sefydliad Prydeinig ar gyfer Meddygon sy’n arbenigo mewn Strôc, ymchwil (i) sy’n dangos y gall gweithgareddau cymhedrol (cerdded) i weithgareddau corfforol dwys (loncian, beicio) leihau eich risg o strôc yn sylweddol. Mae’n bwysig fod y gweithgareddau yn gwneud i chi chwysu er mwytn iddynt gael eu cyfri fel gweithgareddau corfforol (cymhedrol i ddwys).
Mae ymgyrch Rasys Adduned yr elusen yn gyfres o ddigwyddiadau 5K, 10K neu 15k. Gall cyfranogwyr ddewis eu pellter a chodi arian hanfodol i'r Gymdeithas Strôc gan hefyd wella eu hiechyd a lleihau eu risg o gael strôc.
Dywedodd yr Athro Robinson: "Does dim rhaid i chi fod yn athletwr i leihau eich risg o ddioddef strôc; gall pob un ohonom ei wneud fel rhan o'n harferion beunyddiol. Gall cymryd rhan mewn o leiaf 30 munud o weithgaredd, sy'n gwneud i chi chwysu oddeutu dair neu bedair gwaith yr wythnos eich helpu. Cofiwch, po fwyaf y gwnewch, po fwyaf y gallwch leihau'ch risg. "
Mae'r Athro Robinson hefyd yn cynghori bod cael cynllun hyfforddi, yn allweddol i gyflawni eich nod. Dywed: "Gall paratoi ar gyfer a chymryd rhan mewn Ras Adduned leihau eich risg o ddioddef strôc. Fodd bynnag, mae hi yr un mor bwysig eich bod yn cofio bod angen i chi gynnal yr un lefel o ymarfer corff er mwyn cadw'ch risg o strôc yn isel. Os dechreuwch â chyfnodau byr o hyfforddiant gan gynyddu’n raddol, byddwch yn fwy tebygol o lwyddo a pharhau yn y tymor hir hefyd.”
Bydd Carol Bott, Cyfarwyddwr y Gymdeithas Strôc yng Nghymru yn cymryd rhan yn Ras Adduned Caerdydd ym mis Mawrth. Dywedodd Carol: "Bob pum munud yn y DU, bydd bywyd rhywun yn cael ei effeithio gan strôc, ond gallwn ni i gyd gymryd rhan mewn ymarfer corff sy'n help i leihau ein risg. Mae’r Ras Adduned yn ddigwyddiad delfrydol i deuluoedd a ffrindiau sydd am gael hwyl gyda'i gilydd a bod yn fwy egnïol yn 2019. Drwy ymuno â Ras Adduned yng Nghymru, bydd pob rhedwr nid yn unig yn lleihau eu risg o ddioddef strôc, ond hefyd bydd yn gymorth i sicrhau y gallwn barhau i gefnogi goroeswyr strôc a'u teuluoedd wrth iddynt ailadeiladu eu bywydau. "
Un agwedd yn unig o fywyd iach sydd ei angen er mwyn lleihau’r risg o ddioddef strôc yw gweithgaredd corfforol. Dylai pob un ohonom osgoi magu pwysau, smygu, goryfed alcohol a bwyta deiet sy’n afiach.
Mae'r Gymdeithas Strôc wedi bod yn gweithio gyda'r Athro Robinson er mwyn cynhyrchu canllawiau i'ch helpu: https://www.resolutionrun.org.uk/.
Cost mynediad y rasys yw £16 yn unig.
Mae'r holl redwyr yn derbyn crys-t a medal. Er mwyn ymuno â’r digwyddiad neu i gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.resolutionrun.org.uk e-bost resolution@stroke.org.uk neu ffoniwch 02920 524400. Bydd yr arian a fydd yn cael ei godi yn sgil y Ras Adduned yn cynorthwyo’r Gymdeithas Strôc i ariannu ymchwil hanfodol a chefnogi pobl sydd wedi eu heffeithio gan strôc ar draws y DU.
Os oes gennych unrhyw gyflyrau iechyd neu bryderon eraill sydd eisoes yn bodoli, mae'n bwysig eich bod yn cysylltu â'ch meddyg teulu cyn i chi ddechrau hyfforddi.
(i) Ymchwil a gymerwyd o Prior PL, Suskin N. Ymarfer ar gyfer atal strôc. Strôc a Niwroleg Fasgwlar 2018; 3: e000155. doi: 10.1136 / svn-2018-000155
Topics
Trawiad ar yr ymennydd yw strôc sydd yn digwydd pan fydd y cyflenwad gwaed i’r ymennydd yn cael ei atal, unai oherwydd clot neu waedu. Pob blwyddyn, bydd o gwmpas 7,400 o bobl yng Nghymru’n cael strôc ac mae’r Gymdeithas Strôc yn amcangyfrif bod bron i 66,000 o oroeswyr strôc yn byw yng Nghymru.
Elusen yw’r Gymdeithas Strôc. Credwn ym mywyd ar ôl strôc a gyda’n gilydd gallwn drechu strôc. Gweithiwn yn uniongyrchol gyda goroeswyr strôc a’u teuluoedd a gofalwyr, gyda gweithwyr gofal iechyd a chymdeithasol a gyda gwyddonwyr ac ymchwilwyr. Ymgyrchwn i wella gofal a chefnogaeth strôc a chefnogwn bobl i wella yn y ffordd orau posib. Mae’r Llinell Gymorth Strôc (0303 303 3100) yn darparu gwybodaeth a chefnogaeth ar strôc. Mae mwy o wybodaeth ar gael ar www.stroke.org.uk