Skip to content
Therapi celf i gefnogi goroeswyr strôc
Therapi celf i gefnogi goroeswyr strôc

Press release -

Therapi celf i gefnogi goroeswyr strôc

Bydd Brushstrokes, sy’n cael ei redeg gan y Gymdeithas Strôc gydag arian gan Wynt y Môr, cronfa gymunedol Innogy Renewables UN Ltd, yn gyfle i oroeswyr strôc dod at ei gilydd a mwynhau fod yn greadigol.

Gall therapi celf lleihau teimladau o straen a phryder a chynnig ffordd o fynegi pan mae’n anodd dod o hyd i eiriau.

Bydd y sesiynau’n cael eu cynnal gan y therapydd Pam Hutcheson, a ddywedodd:

“Nid oes yn rhaid i’r rhai sy’n cymryd rhan fod yn dda gyda chelf. Mae’n gyfle i ddod at eich gilydd i feddwl ac ymlacio. Does dim pwysau i siarad am eich teimladau neu’r celf – dim ond siawns i gael bach o hwyl ydy hyn.

“Ond weithiau, gan fod cymaint o oroeswyr wedi cael amser trawmatig yn ystod y cyfnod ar ôl eu strôc, bydd pethau’n dod fyny fel rhan o’r sesiwn. Fel seicotherapydd proffesiynol, fy rôl i yw cynnig cefnogaeth pan mae hynny’n digwydd.

“Ni’n defnyddio paent, creon a sialc pastel a ‘Model magic’, sydd ‘bach fel Play-doh. Mae croeso i’r goroeswyr strôc defnyddio brwsh paent, sbwng neu’u dwylo. Nid yw’n wers gelf, felly nid yw’n bosib i chi fod yn anghywir!”

Bydd y sesiynau yn cychwyn yn Llandudno ar ddydd Gwener, 16 Tachwedd, ac yn rhedeg am bedair wythnos rhwng 10-11.30yb. 

Am fwy o fanylion ac i archebu lle, ffoniwch 01745 508531 neu e-bostiwch CommunityStepsWales@stroke.org.uk.

Topics

Regions


Trawiad ar yr ymennydd yw strôc sydd yn digwydd pan fydd y cyflenwad gwaed i’r ymennydd yn cael ei atal, unai oherwydd clot neu waedu. Pob blwyddyn, bydd o gwmpas 7,400 o bobl yng Nghymru’n cael strôc ac mae’r Gymdeithas Strôc yn amcangyfrif bod bron i 66,000 o oroeswyr strôc yn byw yng Nghymru.

Elusen yw’r Gymdeithas Strôc. Credwn ym mywyd ar ôl strôc a gyda’n gilydd gallwn drechu strôc. Gweithiwn yn uniongyrchol gyda goroeswyr strôc a’u teuluoedd a gofalwyr, gyda gweithwyr gofal iechyd a chymdeithasol a gyda gwyddonwyr ac ymchwilwyr. Ymgyrchwn i wella gofal a chefnogaeth strôc a chefnogwn bobl i wella yn y ffordd orau posib. Mae’r Llinell Gymorth Strôc (0303 303 3100) yn darparu gwybodaeth a chefnogaeth ar strôc. Mae mwy o wybodaeth ar gael ar www.stroke.org.uk

Contacts