Skip to content

Press release -

Ymateb i gynnydd mewn amseroedd aros ambiwlansys

Ynghylch cyhoeddiad ffigurau Llywodraeth Cymru ar amseroedd ymateb ambiwlansys yng Nghymru, dywedodd Carol Bott, Cyfarwyddwr y Gymdeithas Strôc yng Nghymru:

“Mae strôc tybiedig yn disgyn i gategori melyn o alwadau ambiwlans. Rydym yn siomedig iawn o glywed bod yr amser aros cyfartalog ar gyfer y categori hwn wedi codi bron i bum munud y llynedd. Pan fydd strôc yn taro, mae rhan o'ch ymennydd yn cau lawr. Ac felly mae rhan ohonoch chi hefyd. Mae'n hanfodol bod cleifion yn cael mynediad at ofal cyflym ac effeithiol, er mwyn sicrhau eu bod yn cael yr adferiad gorau posibl.

“Rydym wedi bod yn galw am newidiadau i'r ffordd y caiff amseroedd ymateb ambiwlansys eu mesur yng Nghymru; edrych ar y gofal sy’n cael ei roi  o bwynt galwad 999 hyd at ddderbyn triniaeth yn yr ysbyty, yn hytrach nag edrych ar yr amser mae'n ei gymryd i ambiwlans cyrraedd y lleoliad. Fe groesawodd ni ymrwymiad diweddar y Gweinidog Iechyd i sicrhau bod hyn yn cael ei weithredu erbyn gaeaf 2019/20.

“Fodd bynnag, mae newyddion am y cynnydd hwn mewn amseroedd aros ambiwlansys yn dystiolaeth bellach bod angen ymateb targed i fesur o'r fath, gan ddysgu o'r dull Lloegr, i sicrhau bod cleifion strôc yng Nghymru yn cael y gofal cyflym ac effeithiol sydd ei angen arnynt i gallu ailadeiladu eu bywyd ar ôl strôc. ”

Diwedd

I gael rhagor o wybodaeth neu i drefnu cyfweliad darlledu yn Gymraeg neu Saesneg, cysylltwch âkatie.chappelle@stroke.org.uk029 2052 4420/07703 318844

Topics


  • Trawiad ar yr ymennydd yw strôc sydd yn digwydd pan fydd y cyflenwad gwaed i’r ymennydd yn cael ei atal, unai oherwydd clot neu waedu. Pob blwyddyn, bydd o gwmpas 7,400 o bobl yng Nghymru’n cael strôc ac mae’r Gymdeithas Strôc yn amcangyfrif bod bron i 66,000 o oroeswyr strôc yn byw yng Nghymru.
  • Elusen yw’r Gymdeithas Strôc. Credwn ym mywyd ar ôl strôc a gyda’n gilydd gallwn drechu strôc. Gweithiwn yn uniongyrchol gyda goroeswyr strôc a’u teuluoedd a gofalwyr, gyda gweithwyr gofal iechyd a chymdeithasol a gyda gwyddonwyr ac ymchwilwyr. Ymgyrchwn i wella gofal a chefnogaeth strôc a chefnogwn bobl i wella yn y ffordd orau posib. Mae’r Llinell Gymorth Strôc (0303 303 3100) yn darparu gwybodaeth a chefnogaeth ar strôc. Mae mwy o wybodaeth ar gael ar www.stroke.org.uk

Contacts