News -

Tackling Poverty Fortnight / Pythefnos Taclo Tlodi

Campaign aims to unearth new approaches to tackling poverty in Wales

The 13th to 26th January is the Wales Co-operative Centre’s Tackling Poverty Fortnight.

Poverty is one of the most pressing issues facing citizens in Wales and the UK, today. Poverty can affect us in many ways. The effects of low income or poor money management skills can lead to increased debt. Rural communities are affected by fuel poverty. In a world of zero hours and short term contracts, in-work poverty is an issue for residents living in even our richest cities.

This year, the Wales Co-operative Centre is running its Tackling Poverty Fortnight campaign to promote potential solutions that could help people in our most disadvantaged communities. ‘Tackling Poverty Fortnight’ will run from Tuesday 13th until Monday 26th January, known as Blue Monday – nominally the most depressing day of the year as people review their debt levels after the Christmas break.

The Tackling Poverty Fortnight campaign seeks to highlight new approaches that could make a big difference to reducing poverty levels in Wales in the future. It will take learning from other areas in the UK and even across the world and consider how those approaches could be applied in Wales.

The Wales Co-operative Centre will be publishing a series of blog posts on its new discussion website www.everyonesbusiness.coop throughout the fortnight. Alongside examples of financial and digital inclusion approaches will be guest blog posts from leading organisations working to tackle poverty and its effects. These include:

  • Graeme Francis from Age Cymru takes a look at the take up of financial entitlements in the retired population and considers the potential improvements that could be made by utilising an initiative run in Northern Ireland that helps older people to access the benefits they are entitled to.
  • The Carnegie Trust advocates a move from welfare to wellbeing, utilising the latent entrepreneurial potential of Welsh students in further education to create jobs through start ups. They advocate rolling out a high street enterprise challenge to towns across the country.
  • Chris Goulden from the Joseph Rowntree Foundation will call for a comprehensive, cross-party and cross legislature plan in the run up to the forthcoming launch of the JRF plan for eradicating poverty in the UK.
  • Merlyn Taylor, Partnership Manager at Foodcycle and Sarah Germain, Project Manager at FareShare Cymru (South Wales) look at innovative ways of using excess food from supermarkets to feed those who need it most.
  • Mary Powell-Chandler of Save the Children Wales calls for the development of Children’s Communities in Wales, based on a model developed by Save the Children UK and the University of Manchester.

Other posts will celebrate co-operative housing developments in Rhyl, the importance of digital inclusion, the impact technology can make on Credit Union service delivery as well as posts from social enterprises and charities working with people who are among the most disadvantaged in Wales.

About www.everyonesbusiness.coop

‘Everyone’s Business’ is a new website which focusses on co-operative businesses and tackling poverty in Wales.

Launched on January 1st 2015 and run by the Wales Co-operative Centre, everyonesbusiness.coop will publish posts from many different areas of business and community life.

Topics that we will be covering include:

  • the role of social enterprise and co-operatives in the Welsh economy
  • how businesses can grow when they work together
  • can wider ownership improve business results?
  • improved business performance through better use of IT.

We will also be looking at how poverty is addressed in Wales:

  • credit unions
  • prevention of homelessness
  • responsible financial advice and services
  • helping people make the most of the Internet
  • co-operative housing
  • approaches to social care
  • the affordable living agenda.

You can sign up for regular updates from the site at http://www.everyonesbusiness.coop/en/subscribe/

About the Wales Co-operative Centre

The Wales Co-operative Centre provides business support to co-operatives, social enterprises, community groups and voluntary organisations. We deliver a range of services across Wales to develop sustainable businesses and strong, inclusive communities by working co-operatively.

www.walescooperative.org

Contacts:

David Madge

Marketing & Public Affairs Officer

01792 484005

david.madge@walescooperative.org

Mark Smith

Marketing Officer

02920 807125

mark.smith@walescooperative.org

_______________________________________________________________________________

Ymgyrch sy’n bwriadu dod o hyd i ddulliau newydd o daclo tlodi yng Nghymru

Bydd Pythefnos Taclo Tlodi Canolfan Cydweithredol Cymru yn cael ei gynnal rhwng 13 a 26 Ionawr.

Mae tlodi yn un o’r materion mwyaf enbyd sy’n wynebu dinasyddion yng Nghymru a Phrydain heddiw. Gall tlodi effeithio arnon ni mewn sawl ffordd. Gall effeithiau incwm isel neu sgiliau rheoli arian gwael arwain at gynnydd mewn dyled. Tlodi tanwydd sy’n effeithio ar gymunedau gwledig. Mewn byd o gontractau dim oriau a chontractau byrdymor, mae tlodi yn y gwaith yn fater hyd yn oed i drigolion sy’n byw yn ein dinasoedd mwyaf cyfoethog.

Eleni, mae Canolfan Cydweithredol Cymru yn cynnal ei ymgyrch Pythefnos Taclo Tlodi er mwyn hyrwyddo atebion posibl i geisio helpu pobl ein cymunedau mwyaf difreintiedig. Bydd y ‘Pythefnos Taclo Tlodi’ yn cael ei gynnal o ddydd Mawrth 13 hyd ddydd Llun 26 Ionawr, sef y dydd Llun a elwir yn Ddydd Llun Digalon – diwrnod mwyaf diflas y flwyddyn mewn enw gan mai dyma pryd y bydd pobl yn adolygu’u lefelau dyled ar ôl gwyliau’r Nadolig.

Mae’r ymgyrch Pythefnos Taclo Tlodi yn ceisio amlygu dulliau newydd a allai wneud gwahaniaeth mawr i leihau lefelau tlodi yng Nghymru yn y dyfodol. Bydd yn golygu dysgu gan ardaloedd eraill ym Mhrydain, a hyd yn oed ledled y byd, gan ystyried sut y gellid cymhwyso’r dulliau hynny i Gymru.

Drwy gydol y pythefnos, bydd Canolfan Cydweithredol Cymru yn cyhoeddi cyfres o flogiau ar ei wefan drafod newydd, sef www.busnesibawb.coop. Ochr yn ochr ag enghreifftiau o ddulliau cynhwysiant ariannol a digidol, bydd yna flogiau gwesteion gan fudiadau blaengar sy’n gweithio i daclo tlodi a’i effeithiau. Mae’r rhain yn cynnwys y canlynol:

  • Bydd Graeme Francis o Age Cymru yn edrych ar faint o bobl yn y boblogaeth wedi ymddeol sy’n defnyddio’u hawliau ariannol, a bydd yn ystyried sut y gellid gwella hyn trwy ddefnyddio menter sy’n cael ei rhedeg yng Ngogledd Iwerddon i helpu pobl hŷn i gyrchu’r budd-daliadau y maen ganddyn nhw hawl iddyn nhw.
  • Mae Ymddiriedolaeth Carnegie yn dadlau dros symud o les cymdeithasol i les yr unigolyn, a hynny trwy ddefnyddio potensial entrepreneuraidd cudd myfyrwyr addysg bellach Cymru i greu swyddi trwy gychwyn busnesau. Maen nhw’n argymell cyflwyno her menter ar y stryd fawr mewn trefi ledled Cymru.
  • Bydd Chris Goulden o Sefydliad Joseph Rowntree yn galw am gynllun trawsbleidiol a thrawsddeddfwriaethol cynhwysfawr yn ystod y cyfnod a fydd yn arwain at lansio cynllun Sefydliad Joseph Rowntree i ddileu tlodi ym Mhrydain.
  • Bydd Merlyn Taylor, Rheolwr Partneriaethau yn Foodcycle a Sarah Germain, Rheolwr Prosiect FareShare Cymru (De Cymru) yn edrych ar ffyrdd arloesol o ddefnyddio bwyd dros ben o archfarchnadoedd i fwydo’r rhai sydd ei angen fwyaf.
  • Mae Mary Powell-Chandler o Gronfa Achub y Plant Cymru yn galw am ddatblygu Cymunedau Plant yng Nghymru, yn seiliedig ar fodel a ddatblygwyd gan Gronfa Achub y Plant Prydain a Phrifysgol Manceinion.

Bydd postiadau eraill yn dathlu datblygiadau tai cydweithredol yn y Rhyl, pwysigrwydd cynhwysiant digidol, yr effaith y gall technoleg ei chael ar ddarparu gwasanaethau’r Undebau Credyd, yn ogystal â phostiadau gan fentrau cymdeithasol ac elusennau sy’n gweithio gyda phobl sydd ymysg y rhai mwyaf difreintiedig yng Nghymru.

Ynglŷn ag www.busnesibawb.coop

Mae ‘Busnes i Bawb’ yn wefan newydd sy’n canolbwyntio ar fusnesau cydweithredol a thaclo tlodi yng Nghymru.

Bydd www.busnesibawb.coop, a gafodd ei lansio ar 1 Ionawr 2015, ac sy’n cael ei rhedeg gan Canolfan Cydweithredol Cymru, yn cyhoeddi postiadau ar nifer o agweddau gwahanol ar fusnes a bywyd cymunedol.

Bydd y pynciau y byddwn yn mynd i’r afael â nhw yn cynnwys:

  • rôl mentrau cymdeithasol a mentrau cydweithredol yn economi Cymru
  • sut y gall busnesau dyfu wrth gydweithio
  • a all perchenogaeth ehangach wella canlyniadau busnes?
  • gwell perfformiad busnes trwy wneud gwell defnydd o TG.

Byddwn hefyd yn edrych ar sut mae Cymru’n mynd i’r afael â thlodi:

  • undebau credyd
  • atal digartrefedd
  • cyngor a gwasanaethau ariannol cyfrifol
  • helpu pobl i elwa ar y Rhyngrwyd
  • tai cydweithredol
  • agweddau at ofal cymdeithasol
  • agenda byw fforddiadwy.

Gallwch wneud cais am y newyddion diweddaraf o’r wefan ar http://www.busnesibawb.coop/cy/tanysgrifio/

Ynglŷn â Canolfan Cydweithredol Cymru

Mae Canolfan Cydweithredol Cymru yn darparu cymorth busnes i fentrau cydweithredol, mentrau cymdeithasol, grwpiau cymunedol a sefydliadau gwirfoddol. Rydyn ni’n cynnig amrywiaeth o wasanaethau ledled Cymru er mwyn datblygu busnesau cynaliadwy a chymunedau cryf, cynhwysol trwy weithio’n gydweithredol.

www.walescooperative.org

Cysylltu:

David Madge 

Swyddog Marchnata a Materion Cyhoeddus

01792 484005

david.madge@walescooperative.org

Mark Smith

Swyddog Marchnata

02920 807125

mark.smith@walescooperative.org

Topics

  • Economy, Finance

Categories

  • wales co-operative centre
  • financial inclusion

Regions

  • Wales

Contacts

David Madge

Press contact Marketing, Press & Public Affairs Officer Press and Public Affairs. Marketing (primarily Succession and Consortia Project). 01792484005

Catherine Evans

Press contact Marketing Manager Overall responsibility for marketing and communications at the Wales Co-operative Centre 01443 743943

Mark Smith

Press contact Marketing Officer Social Media, Case Studies and Communities 2.0 029 2055 6163

Related content