Press release -

Local ownership makes a real difference to our local businesses

 

Communities in Wales agree that getting local people involved in the running of local businesses makes a real difference to community life. That is the key message from ninety one per cent of respondents to a poll conducted to support the launch of a new report by the Wales Co-operative Centre. A further sixty three per cent of respondents agreed that businesses are more likely to thrive when they are run by local people.

These figures reflect the findings of a report the Wales Co-operative Centre is launching today (Friday 16th November) at community run co-operative pub and Welsh language centre, Saith Seren in Wrexham. The report ‘Community Co-operatives in Wales - Ordinary people doing extraordinary things’ examines successful community co-operatives across Wales. Childcare services, local shops, community pubs, tourism and leisure facilities, and food co-operatives have all used this model to provide services in their local communities.

The report offers a seven step plan to setting up a community co-operative and investigates a range of community co-operatives across Wales.

The Wales Co-operative Centre research, which was undertaken by the Bevan Foundation, shows that community co-operatives offer economic, social and environmental benefits to their communities because they bring together people who are committed delivering services that their communities need.

Community co-operatives have a measurable economic benefit. They provide jobs, training and stimulate the economy around them. At Glyncorrwg Ponds in the Upper Afan Valley, a tourism co-operative employs seven people directly and 23 people indirectly in a community where nearly a third of the population of working age claim an out of work benefit. The project also makes a massive contribution to the growing tourism industry in the valley. Deudraeth Cyf currently employs 6 people in Penrhyndeudraeth, Gwynedd, where less than half the population of working age has a full-time job and there are few job opportunities in the surrounding area.

Community co-operatives can also have environmental benefits. Community co-operative shops reduce the number of journeys made by car, while community food co-operatives reduce food miles, reduce the amount of packaging used, and discourage food waste. In Pembrokeshire, Cwm Arian Renewable Energy is developing renewable energy generation capacity in the communities of Hermon, Y Glog and Llanfyrnach. Forty per cent of the income generated will be used to increase the energy efficiency of local households, twenty per cent will be used to support investment in low carbon social enterprises, with the balance being used for reducing the community’s carbon footprint.

Communities are at the heart of community co-operatives and the community benefits often extend beyond the more obvious economic or environmental benefits. Saith Seren, a pub in Wrexham closed its doors in 2011 and lay empty for several months. A co-operative has bought the building, refurbished it and established a Welsh language centre, with Welsh language classes, meeting rooms for hire, and of course a pub with a variety of Welsh cultural performances.

Gwynfi Community Co-operative based in Blaengwynfi, Neath Port Talbot, took over the running of a local supermarket in the early 1980s when it closed. There were already very few other food shops in the area – a situation which has got worse since – and nearly half the population doesn’t have access to a car. The co-operative offers a wide range of fresh and packaged groceries. Without them, there would be a “massive hole” in the community.

In Llanmadoc in Gower, Siop Y Bobl was established after a local shop closed suddenly. The community pulled together to create a co-operative which is run by volunteers and now acts as a social hub for the rural community.

Wales Co-operative Centre Chief Executive Derek Walker commented, “Our new report examines the benefits that a co-operative approach to sustaining and developing community resources has on the community and the local economy. Time and again, community co-operatives have been able to safeguard facilities, provide much needed jobs and strengthen the overall cohesion of that community. Our report offers pointers towards organising a community co-operative and we have expert development staff available to help communities interested in running their own organisation.”

The report was written by the Bevan Foundation and is the fourth of a series of reports on the benefits of co-operatives to the communities and economy of Wales commissioned to mark the UN International Year of the Co-operative.

Further information and pdf copies of the report ‘Community Co-operatives in Wales – Ordinary people doing extra-ordinary things’ are available from the Wales Co-operative Centre website www.walescooperative.org

 

Mae perchnogaeth leol yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’n busnesau lleol

Mae cymunedau yng Nghymru’n cytuno bod annog pobl i fod yn rhan o redeg busnesau lleol yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywyd cymunedol. Dyna’r neges allweddol gan naw deg ag un y cant o’r ymatebwyr i bôl piniwn a gynhaliwyd i ategu lansiad adroddiad newydd gan Ganolfan Cydweithredol Cymru. Roedd chwe deg a thri y cant arall o’r ymatebwyr yn cytuno bod busnesau’n fwy tebygol o ffynnu pan ydynt yn gael eu rhedeg gan bobl leol.

Mae’r ffigyrau hyn yn adlewyrchu canfyddiadau adroddiad y mae Canolfan Cydweithredol Cymru’n ei lansio heddiw (dydd Gwener 16 Tachwedd) mewn tafarn a chanolfan Gymreig gydweithredol sy’n cael ei rhedeg gan y gymuned, sef Saith Seren yn Wrecsam. Mae’r adroddiad ‘Mentrau Cydweithredol Cymunedol yng Nghymru - Pobl gyffredin yn gwneud pethau anghyffredin’ yn archwilio mentrau cydweithredol cymunedol llwyddiannus ledled Cymru. Mae gwasanaethau gofal plant, siopau lleol, tafarndai cymunedol, cyfleusterau twristiaeth a hamdden, a chydweithfeydd bwyd oll wedi defnyddio’r model hwn i ddarparu gwasanaethau yn eu cymunedau lleol.

Mae’r adroddiad yn cynnig cynllun ac iddo saith cam ar gyfer sefydlu menter gydweithredol gymunedol ac yn ymchwilio i ystod o fentrau cydweithredol cymunedol ledled Cymru. Mae ymchwil Canolfan Cydweithredol Cymru, a gwblhawyd gan Sefydliad Bevan, yn dangos bod mentrau cydweithredol cymunedol yn cynnig manteision economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol i’w cymunedau am eu bod yn dwyn ynghyd bobl sy’n ymrwymedig i ddarparu gwasanaethau y mae ar eu cymunedau eu hangen.

Mae mentrau cydweithredol cymunedol yn cynnig budd economaidd mesuradwy. Maent yn darparu swyddi, hyfforddiant ac yn ysgogi’r economi o’u cwmpas. Ym Mhyllau Glyncorrwg yng Nghwm Afan Uchaf, mae menter gydweithredol ym maes twristiaeth yn cyflogi saith o bobl yn uniongyrchol a 23 o bobl yn anuniongyrchol mewn cymuned lle mae bron i draean o’r boblogaeth o oedran gweithio’n hawlio budd-dal diweithdra. Mae’r prosiect hefyd yn gwneud cyfraniad enfawr tuag at y diwydiant twristiaeth sy’n tyfu yn y cwm. Mae Deudraeth Cyf ar hyn o bryd yn cyflogi 6 o bobl ym Mhenrhyndeudraeth, Gwynedd, lle mae gan lai na hanner y boblogaeth o oedran gweithio swydd lawn-amser a lle nad oes llawer iawn o gyfleoedd gwaith yn yr ardal gyfagos.

Gall mentrau cydweithredol cymunedol ddwyn manteision amgylcheddol hefyd. Mae siopau cydweithredol cymunedol yn gostwng nifer y siwrneiau a wneir mewn car, tra bo cydweithfeydd bwyd cymunedol yn gostwng milltiroedd bwyd, yn gostwng swm y deunydd pacio a ddefnyddir, ac yn annog pobl i beidio â gwastraffu bwyd. Yn Sir Benfro, mae Ynni Adnewyddadwy Cwm Arian yn datblygu gallu i gynhyrchu ynni adnewyddadwy yng nghymunedau Hermon, Y Glog a Llanfyrnach. Bydd deugain y cant o’r incwm a gaiff ei greu yn cael ei ddefnyddio i gynyddu effeithlonrwydd ynni aelwydydd lleol, bydd ugain y cant yn cael ei ddefnyddio i roi cymorth i fuddsoddi mewn mentrau cymdeithasol carbon isel, a bydd y gweddill yn cael ei ddefnyddio i leihau ôl troed carbon y gymuned.

Mae cymunedau’n greiddiol i fentrau cydweithredol cymunedol ac mae’r manteision cymunedol yn aml yn ymestyn y tu hwnt i’r manteision economaidd neu amgylcheddol mwy amlwg. Fe gaeodd drysau Saith Seren, tafarn yn Wrecsam, yn 2011 a bu’n wag am sawl mis. Mae menter gydweithredol wedi prynu’r adeilad, wedi ei adnewyddu ac wedi sefydlu canolfan Gymreig, gyda dosbarthiadau Cymraeg, ystafelloedd cyfarfod i’w llogi, ac wrth gwrs tafarn gydag amrywiaeth o berfformiadau diwylliannol Cymreig.

Fe gymerodd Menter Gydweithredol Gymunedol Gwynfi ym Mlaengwynfi, Castell-nedd Port Talbot, yr awenau mewn archfarchnad leol ar ddechrau’r 1980au pan gaeodd yr archfarchnad. Roedd yr ardal eisoes yn brin iawn o siopau bwyd eraill – sefyllfa sydd wedi gwaethygu ers hynny – ac mae bron hanner y boblogaeth heb fynediad at gar. Mae’r fenter gydweithredol yn cynnig ystod lawn o fwydydd ffres a bwydydd mewn pacedi. Hebddynt, byddai “twll enfawr” yn y gymuned.

Yn Llanmadog ym Mhenrhyn Gŵyr, fe sefydlwyd Siop Y Bobl wedi i siop leol gau yn sydyn. Daeth y gymuned ynghyd i greu menter gydweithredol sy’n cael ei rhedeg gan wirfoddolwyr ac mae bellach yn gweithredu fel canolbwynt cymdeithasol i’r gymuned wledig.

Meddai Prif Weithredwr Canolfan Cydweithredol Cymru Derek Walker, “Mae ein hadroddiad newydd yn archwilio’r manteision y mae’r dull cydweithredol o gynnal a datblygu adnoddau cymunedol yn eu cynnig i’r gymuned a’r economi leol. Dro ar ôl tro, mae mentrau cydweithredol cymunedol wedi gallu diogelu cyfleusterau, darparu swyddi yr oedd eu dirfawr angen a chryfhau cydlyniant cyffredinol y gymuned honno. Mae ein hadroddiad yn cynnig cynghorion ar gyfer trefnu menter gydweithredol gymunedol ac mae gennym staff datblygu arbenigol ar gael i helpu cymunedau sydd â diddordeb mewn rhedeg eu sefydliad eu hunain.”

Ysgrifennwyd yr adroddiad gan Sefydliad Bevan a hwn yw’r pedwerydd mewn cyfres o adroddiadau ar fanteision mentrau cydweithredol i gymunedau ac economi Cymru a gomisiynwyd i nodi Blwyddyn Ryngwladol Mentrau Cymdeithasol y Cenhedloedd Unedig.

Mae mwy o wybodaeth a chopïau pdf o’r adroddiad ‘Mentrau Cydweithredol Cymunedol yng Nghymru - Pobl gyffredin yn gwneud pethau’ ar gael o wefan Canolfan Cydweithredol Cymru www.walescooperative.org

 

Related links

Topics

  • Economy, Finance

Categories

  • community
  • co-operatives
  • business
  • cooperative
  • wales cooperative centre
  • bevan foundation

Wales Co-operative Centre

The Wales Co-operative Centre was set up thirty years ago and ever since has been helping businesses grow, people to find work and communities to tackle the issues that matter to them. Its advisors work co-operatively across Wales, providing expert, flexible and reliable support to develop sustainable businesses and strong, inclusive communities.

Community Co-operatives in Wales - Ordinary people doing extraordinary things

‘Community Co-operatives in Wales - Ordinary people doing extraordinary things’ is a report written by the Bevan Foundation and published by the Wales Co-operative Centre. The report is the fourth in a series of four reports published during the UN International Year of Co-operatives 2012 considering differing aspects of the co-operative economy in Wales. The others covered the topics of business succession, business consortia and the economic value of the co-operative and mutual sector in Wales.

Report launch

The report will  be launched on Friday 16 November at 1pm at Y Saith Seren, Canolfan Gymreig Wrecsam, 18 Chester Street, Wrecsam LL13 8BG.

Contact

For further information, or to arrange an interview please contact David Madge on 01792 484005 or email david.madge@walescooperative.org

 

Contacts

David Madge

Press contact Marketing, Press & Public Affairs Officer Press and Public Affairs. Marketing (primarily Succession and Consortia Project). 01792484005

Catherine Evans

Press contact Marketing Manager Overall responsibility for marketing and communications at the Wales Co-operative Centre 01443 743943

Mark Smith

Press contact Marketing Officer Social Media, Case Studies and Communities 2.0 029 2055 6163

Related content