Press release -
Anrhydedd i ferch pum mlwydd oed o Ynys Môn ar ôl cael strôc diwrnod ar ôl geni
Cynhaliwyd digwyddiad dathlu bywyd ar ôl strôc yr elusen i nodi cyflawniadau a chyfraniadau goroeswyr strôc, gofalwyr, gwirfoddolwyr, codwyr arian a gweithwyr proffesiynol o bob cwr o Ogledd Cymru a gogledd orllewin Lloegr.
Enwebwyd Lilly Patrick, pump mlwydd oed o Niwbwrch, ar gyfer y wobr dewrder plentyn gan ei mham Claire.
Dywedodd Claire:
"Roedd Lilly bob amser yn crio cyn gymaint fel babi. Roeddwn i mewn ac allan o'r ysbyty gyda hi, ond nid oedd meddygon yn ei gymryd o ddifrif, nes iddi fynd yn sâl iawn yn chwe mis oed a chafodd ei ddiagnosio a sfaenhau babanod a pharlys yr ymennydd, a ddaru nhw ddweud gall hynny ei gadael hi gydag anableddau ddifrifol.
“Ond fe ddechreuodd Lilly i shyfflo, yna cerdded, siarad a bwydo ei hun ac erbyn hyn mae hi’n mynd i’r ysgol. Heb otsbeth sy'n cael ei daflu ati, mae'n profi pawb yn anghywir ac hi yw y ferch anhygoel, disglair, wych y mae hi heddiw, gyda chymorth mawr gan ei efeilliad, Daisy. "
Mae Claire nawr wedi penderfynu derbyn ei her redeg gyntaf erioed i gefnogi strôc trwy ymuno â Ras Adduned Ynys Môn yn Niwbwrch ar 24 Mawrth.
Ychwanegodd Claire:
"Rwyf am rhedeg y 5k i godi arian ar gyfer y Gymdeithas Strôc, ac mae hefyd yn rhywbeth y gallaf ei wneud ar gyfer Lilly. Bydd hi a Daisy yn mwynhau’n fawr bod ar gychwyn y ras gyda phawb i'w cefnogi."
Cynhaliwyd y dathliad bywyd Ar Ôl Strôc yn Stadiwm AJ Bell yn Salford.
Meddai Carol Bott, Cyfarwyddwr y Gymdeithas Strôc yng Nghymru sydd ei hun am redeg ras CAerdydd ar 10 Mawrth: "Llongyfarchiadau mawr i Lilly am gael ei enwebu am wobr Bywyd ar Ôl Strôc y DU a dangos cymaint o ddewrder wrth fyw gydag effeithiau strôc.
"Rydyn ni'n gwybod bod strôc yn digwydd yn gyflym, ond gall yr effeithiau fod yn ddinistriol ac yn para am gyfnod hir. Mae'r holl arian sy’n cael ei godi gan bob rhedwr yn y Ras Adduned yn golygu y gallwn ni gyrraedd mwy o oroeswyr strôc a'u teuluoedd i gynnig y gefnogaeth y gallai fod angen iddynt ailadeiladu eu bywydau. "
Er mwyn gofrestru i Redeg Ras adduned 5K neu 10K Ynys Môn, ewch i www.resolutionrun.org.uk.
Mae Gwobrau Bywyd Ar Ôl Strôc y Gymdeithas Strôc yn gyfle i gydnabod y dewrder a ddangosir gan oroeswyr strôc a gofalwyr yn ogystal â'r gwaith a'r ymrwymiad gwych a ddangosir gan weithwyr iechyd proffesiynol, grwpiau a sefydliadau cefnogol.
Bydd enwebiadau ar gyfer dathliadau 2019 ar agor yn fuan. Am fwy o wybodaeth ewch i www.stroke.org.uk/LASA
Topics
Trawiad ar yr ymennydd yw strôc sydd yn digwydd pan fydd y cyflenwad gwaed i’r ymennydd yn cael ei atal, unai oherwydd clot neu waedu. Pob blwyddyn, bydd o gwmpas 7,400 o bobl yng Nghymru’n cael strôc ac mae’r Gymdeithas Strôc yn amcangyfrif bod bron i 66,000 o oroeswyr strôc yn byw yng Nghymru.
Elusen yw’r Gymdeithas Strôc. Credwn ym mywyd ar ôl strôc a gyda’n gilydd gallwn drechu strôc. Gweithiwn yn uniongyrchol gyda goroeswyr strôc a’u teuluoedd a gofalwyr, gyda gweithwyr gofal iechyd a chymdeithasol a gyda gwyddonwyr ac ymchwilwyr. Ymgyrchwn i wella gofal a chefnogaeth strôc a chefnogwn bobl i wella yn y ffordd orau posib. Mae’r Llinell Gymorth Strôc (0303 303 3100) yn darparu gwybodaeth a chefnogaeth ar strôc. Mae mwy o wybodaeth ar gael ar www.stroke.org.uk