Skip to content
Al Dupres yn y BBC
Al Dupres yn y BBC

Press release -

Cyhoeddwr BBC a goroeswr strôc yn derbyn sialens cerdded i godi arian dros strôc

Bydd Al Dupres, 54, o Gaerdydd yn cymryd rhan yn nhaith gerdded Step Out y Gymdeithas Strôc o gwmpas llyn Parc y Rhath am 2yh ar 10 Mehefin.

Roedd Al, sydd yn gweithio fel cyhoeddwr i BBC Cymru, ar ei wyliau yn Nhexas flwyddyn ddiwethaf pan gollodd y gallu i siarad yn ddealladwy.

Meddai Al:

“Nid oeddwn yn gallu siarad yn iawn am 24 awr, a chefais ofn gan fod siarad mor bwysig i fy ngwaith. Ond mi wnes i ddeffro mewn ysbyty dysgu yn Austin gyda therapydd llefarydd ger llaw, a dechreuodd gweithio gyda fi’n syth. Erbyn hyn yr unig effaith hir dymor yw bach o wendid yn fy nghoes chwith.

“Cafodd fy mam strôc, a chafodd ei pharlysu ar un ochr. Ddaru hi wir ddioddef felly dwi'n ddiolchgar pob dydd fy mod i’n gallu siarad a chyfathrebu. Mae fy nghalon yn mynd allan i’r rhai nad yw’n gallu gwneud hynny.”

Mae Al eisoes wedi codi £320, ac mae eisiau gwneud mwy o bobl yn ymwybodol o symptomau strôc.

Ychwanegodd Al:

“Pan gefais i fy strôc, mi wnes i jest gwglo ‘deffro ‘fyny yn siarad iaith tramor’. Byddai’n dda petawn i wedi gwybod am y prawf FAST, lle mae ‘S’ yn sefyll am ‘Speech’, gan fod trafferth siarad yn symptom strôc.

“Nid oeddwn yn deall fy mod i wedi cael strôc nes i mi ffonio fy ngwraig, a ddaru hi ddweud mai dyna beth oedd wedi digwydd. Dwi wir eisiau i bawb fod yn ymwybodol o’r arwyddion.”

Bydd teithiau cerdded Step Out yn digwydd ledled Cymru rhwng Mai a Gorffennaf 2018 i godi arian i’r Gymdeithas Strôc, er mwyn cynnig cymorth i oroeswyr strôc a’u teuluoedd. Mae strôc yn un o’r prif resymau dros anabledd ac mae bron i 66,000 o bobl yng Nghymru yn byw gydag effeithiau strôc. I’r goroeswyr sy’n cymryd rhan yn y daith, mae hyn hefyd yn ddathliad o oresgyn sialensiau strôc, ac ail-afael yn eu hannibyniaeth.

Meddai Margaret Street, Cyfarwyddwr y Gymdeithas Strôc yng Nghymru:

“Mae strôc yn taro mewn eiliad ac mae’n achosi mwy o anableddau nac unrhyw gyflwr arall. Mae’n ysbrydoliaeth i weld Al yn derbyn y sialens cerdded a chodi arian hanfodol i gefnogi goroeswyr eraill.

“Mae Step Out yn daith cerdded bydd yn hwyl i bawb, beth bynnag yw eich oedran neu lefel ffitrwydd. Rydym yn gwahodd y gymuned i gyd i ddod a mwynhau'r diwrnod yma a helpu i ni ei wneud yn ddigwyddiad i’w gofio.”

Mae teithiau Step Out yn digwydd dros Gymru a Lloegr yr haf yma. Ymwelwch ag www.stroke.org.uk/stepout i arwyddo fyny i’r daith agosach i chi.

Topics

Regions


  • A stroke is a brain attack which happens when the blood supply to the brain is cut off, caused by a clot or bleeding in the brain. There are more than 100,000 strokes in the UK each year; that is around one stroke every five minutes. There are over 1.2 million people in the UK living with the effects of stroke. 
  • Stroke Association is a charity. We believe in life after stroke and together we can conquer stroke. We work directly with stroke survivors and their families and carers, with health and social care professionals and with scientists and researchers. We campaign to improve stroke care and support people to make the best recovery they can. We fund research to develop new treatments and ways of preventing stroke. The Stroke Helpline (0303 303 3100) provides information and support on stroke. More information can be found at www.stroke.org.uk
  • Contacts

    Angela Macleod

    Angela Macleod

    Press contact Communications Officer Scotland press and Stroke Association research communications 0131 555 7244
    Laura Thomas

    Laura Thomas

    Press contact Communications Officer Wales 07776508594
    Ken Scott

    Ken Scott

    Press contact Press Officer North of England and Midlands 0115 778 8429
    Daisy Dighton

    Daisy Dighton

    Press contact Press Officer London and East of England 02079401358
    Martin Oxley

    Martin Oxley

    Press contact Press Officer South of England 07776 508 646
    Vicki Hall

    Vicki Hall

    Press contact PR Manager Fundraising and local services 0161 742 7478
    Scott Weddell

    Scott Weddell

    Press contact PR Manager Stroke policy, research and Northern Ireland 02075661528
    Katie Padfield

    Katie Padfield

    Press contact Head of PR & Media This team is not responsible for booking marketing materials or advertising
    Out of hours contact

    Out of hours contact

    Press contact Media queries 07799 436008
    Kate Asselman

    Kate Asselman

    Press contact Artist Liaison Lead 07540 518022
    Tell us your story

    Tell us your story

    Press contact 07799 436008

    The UK's leading stroke charity helping people to rebuild their lives after stroke

    The Stroke Association. We believe in life after stroke. That’s why we campaign to improve stroke care and support people to make the best possible recovery. It’s why we fund research to develop new treatments and ways to prevent stroke. The Stroke Association is a charity. We rely on your support to change lives and prevent stroke. Together we can conquer stroke.

    Stroke Association
    240 City Road
    EC1V 2PR London
    UK