Press release -
Elusen Gymraeg yn cynnig cymorth i arbed unigrwydd a achosir gan strôc
Yn ôl y Gymdeithas Strôc, bob blwyddyn, bydd tua 7,400 o bobl yn cael strôc yng Nghymru ac mae llawer yn canfod effaith emosiynol strôc yn galed i'w ddelio efo.
Mae cael gafael ar y wybodaeth gywir, cyngor ymarferol a chefnogaeth emosiynol yn hanfodol er mwyn helpu i leihau'r teimladau o unigrwydd a achosir gan strôc a gwella hyder goroeswyr yn dilyn eu diagnosis.
Mae Heidi Mathews, â goroesodd strôc yn ei 40au, yn canmol dau fenter newydd wedi eu ddarparu gan y Gymdeithas Strôc, elusen blaenllaw yn y maes, sydd wir wedi helpu yn ei hadferiad.
Fe newidodd bywyd Heidi yn llwyr ar ôl strôc yn 47. Dysgodd y fam I dair o Crughywel mor hanfodol oedd cael cefnogaeth gan eraill a allai ddeall yr hyn roedd hi'n mynd drwodd.
Meddai Heidi:
"Ar ôl fy strôc, byddwn yn eistedd ar fy soffa ac yn crio, gan edrych allan o'r ffenestr a meddwl - 'beth ydw i'n ei wneud nawr?'"
Hwbwyd hyder Heidi ar ôl i ei merch, Grace, ddweud wrthi am Fy Nghanllaw Strôc, sef cymuned ar-lein, lle roedd wedi canfod ffyrdd o helpu ei mam a chyfarfod â gofalwyr strôc ifanc eraill.
Yna cafodd Heidi yr hyder i ymuno â Phrosiect Phoenix sy'n cynnig cyfarfodydd caffi i gefnogi goroeswyr Sir Fynwy gyda thrafferthion cyfathrebu ar ôl strôc. Bellach mae hi'n wirfoddolwr sy’n annog goroeswyr strôc eraill i ddod yn rhan o'u cymunedau unwaith eto.
Er bod Fy Nghanllaw Strôc yn cynnig cymorth ar-lein, mae rhaglen Camau Cymunedol Strôc yr elusen yng Nghymru, sydd wedi ei ariannu gan y Gronfa Loteri Fawr, yn helpu i greu cysylltiadau wyneb yn wyneb. Mae'n annog pobl sy'n cael eu heffeithio gan strôc i ddod at ei gilydd a threfnu digwyddiadau cymdeithasol i adeiladu rhwydweithiau cefnogi lleol, fel eu bod yn teimlo'n llai ynysig ac yn gwella'n well.
Ychwanegodd Heidi:
"Mae cwrdd â phobl eraill sydd wedi eu heffeithio gan strôc wedi bod yn wych ac wedi rhoi ystyr i fy mywyd. Mae’n bleser gweld sut mae pobl yn dechrau teimlo'n llai anghysbell ac yn gwella eu gallu i gyfathrebu pan fyddem i gyd yn cwrdd â’n gilydd – fel â ddigwyddodd i mi.
"Mae sgwrsio â goroeswyr strôc eraill ar y fforymau hefyd wedi fy helpu i wella fy narllen, ysgrifennu a wedi rhoi hwb i fy hyder a rwy'n gwella fy siarad yn araf deg. Mae'n dda dweud wrth bobl yr hyn rydych chi wedi'i brofi a dweud wrthynt i gadw arno. "
Dywedodd Llinos Wyn Parry, Cyfarwyddwr dros-dro y Gymdeithas Strôc yng Nghymru:
"Mae Camau Cymunedol Strôc yn rhoi cyfle i oroeswyr helpu pobl eraill sydd wedi cael strôc yn ddiweddar trwy rannu eu profiadau personol o fywyd ar ôl strôc.
"Hyd yn hyn, rydym wedi trefnu sesiynau golff a hwylio a dosbarth celf lle mae goroeswyr a gofalwyr yn cael y cyfle i gymdeithasi ag eraill sy'n deall heriau'r problemau corfforol,llefaru a seicolegol y gall strôc eu cael.
"Gan nad yw bob amser yn bosibl i bobl ymuno â gweithgareddau grŵp lleol, mae Fy Nghanllw Strôc yn gallu cynnig mynediad uniongyrchol i'r holl wybodaeth a gall fod o gymorth I rywun wedi eu heffeithio gan strôc."
I ddarganfod mwy am Fy Nghanllaw Strôc, ewch iwww.mystrokeguide.comac ar gyfer Camau Cymunedol Strôc, ewch iwww.stroke.org.uk/camaucymunedol neu ffoniwch 02920 5244000.