Skip to content
Gofalwyr ger y torbwynt:  Gofalwyr strôc yn y DU yn gwneud heb gymorth hanfodol

Press release -

Gofalwyr ger y torbwynt: Gofalwyr strôc yn y DU yn gwneud heb gymorth hanfodol

Yn ôl ffigurau newydd a gyhoeddwyd heddiw gan y Gymdeithas Strôc, nid yw un o bob pump (19%) o bobl sy’n gofalu am oroeswyr strôc wedi cael unrhyw fath o gymorth ar ôl i’w bywydau gael eu troi ben i waered dros nos.

Mae'r elusen hefyd wedi darganfod bod 40% o ofalwyr strôc a oedd wedi bod yn gofalu am fwy na thair blynedd yn sôn u bod wedi blino'n lân, a bod tua 1 o bob 3 o dan straen neu'n orbryderus. Er gwaethaf hynny, nid yw dros draean o bobl sy'n gofalu am oroeswyr strôc (35%) yn cael unrhyw gymorth emosiynol, sy’n cael effaith ddinistriol ar eu hiechyd a'u lles.

Ar hyn o bryd, mae dros 1.2 miliwn o oroeswyr strôc yn y DU a rhagwelir y bydd y nifer hon yn codi i 2.1 miliwn erbyn 2035. Mae'r elusen yn rhybuddio bod gofalwyr strôc yn dod o dan bwysau cynyddol i reoli eu hanghenion beunyddiol eu hunain wrth ofalu am eu hanwyliaid, ac mae'r sefyllfa'n debygol o waethygu.

Gyda dros 11,000 o ymatebion, adroddiad Profiad Byw â Strôc y Gymdeithas Strôc yw arolwg mwyaf erioed yn y DU o bobl y mae strôc(i) yn effeithio arnynt. Mae'r drydedd bennod (o bedair) Gofalu am Oroeswr Strôc: yr hyn sydd ei angen ar ofalwyr, yn datgelu:

  • Mae gofalwyr strôc yn brwydro i ymdopi: dywedodd bron i hanner (47%) y gofalwyr nad oedd ganddynt unrhyw gefnogaeth, na gynigiwyd unrhyw help iddynt, neu nad oeddent yn gwybod ble i ddechrau.
  • Mae gofalwyr strôc yn teimlo’n ynysig: dywedodd dros chwarter (27%) o ofalwyr nad oedd digon o grwpiau cymorth iddynt.

Mae John Milnes, 72 oed, o Gaerdydd, wedi bod yn gofalu am ei wraig, Anne, ers iddi gael strôc yn 2015, er ei fod ef yn dioddef o afiechyd Parkinson.

Dywedodd John: “O ganlyniad ei strôc, nid yw Anne yn gallu defnyddio ochr dde ei chorff. Mae hi hefyd yn cael anawsterau lleferydd ac iaith. Roedd Anne yn athrawes Saesneg ac mae ei meddwl mor finiog ag erioed, ond nid yw hi’n gallu siarad, sy’n rhwystredig iawn i’r ddau ohonom ni.

“Rhai misoedd ar ôl strôc Anne, cefais ddiagnosis afiechyd Parkinson, sy’n effeithio ar gryfder fy llais ac fy lefelau egni. Rwy’n mynychu hyfforddiant llais a dosbarthiadau ymarfer corff bob wythnos i helpu.

“Mae gofalwyr yn dod i’r tŷ am awr bob bore a gyda’r nos i ofalu am fy ngwraig, sy’n ddefnyddiol tu hwnt. Fel arall, rwy’n gofalu amdani 24 awr y dydd. Yn ogystal, rhaid i mi sicrhau bod unrhyw staff gofal newydd sy'n dod i'r tŷ yn deall yr hyn sydd ei angen ar Anne, a all fod yn llafurus iawn ac sy'n golygu mai ychydig iawn o amser rhydd sydd gen i.

“Cyn gynted ag rwy’n datgelu bod fy ngwraig yn cael cymorth, mae'r drysau a allai gynnig cefnogaeth i mi yn cau.

“Nid yw erioed wedi bod yn glir pryd y gallaf gael unrhyw help i mi fy hun.

“Un peth sydd wedi gwneud bywyd yn haws yw’r sesiynau golff i ofalwyr, sy’n cael eu trefnu gan y Gymdeithas Strôc. Mae’n hyfryd cael cyfle i dreulio amser gyda phobl eraill sy’n deall, tra bod Anne yn cael gofal gan aelodau’r grŵp strôc lleol.

“Un fantais o chwarae golff yw’r cyfle i gwrdd am goffi a sgwrs ar ôl gorffen. Felly, hyd yn oed os nad yw eich chwaraewr golff proffesiynol ar gael, mae’r grŵp o ofalwyr am gwrdd.”

Dywedodd Carol Bott, Cyfarwyddwr y Gymdeithas Strôc: “Mae bywydau’n newid ar unwaith yn dilyn strôc. Dros nos, mae partner yn gorfod bod yn ofalwr di-dâl. Rydym yn gwybod am filoedd o bobl ledled y DU sy’n neilltuo’u bywydau i ofalu am anwyliaid, y gallai eu lleferydd, annibyniaeth, lles emosiynol neu bersonoliaeth gael eu heffeithio ar ôl strôc. Yn unol â’r ffigyrau newydd hyn, dros amser, mae ymgymryd â rôl gofalwr yn gallu cael effaith andwyol ar iechyd y gofalwr. Yn anffodus, mae nifer o bobl yn wynebu’r sefyllfa argyfyngus hon ar eu pennau eu hunain a heb gymorth.

“Disgwylir i nifer y rhai sydd wedi goroesi strôc gynyddu bron i filiwn o bobl erbyn 2035. Felly dim ond gwaethygu fydd y broblem hon.”

Mae'r adroddiad Profiad Byw o Strôc yn datgelu realiti byw gyda strôc. Mae'r Gymdeithas Strôc eisiau i bawb sydd wedi'u heffeithio gan strôc gael mynediad at y cymorth sydd ei angen arnynt, pan fydd ei angen arnynt. Ar hyn o bryd mae dros 1.2 miliwn o oroeswyr strôc yn y DU, a dywedodd dros hanner (62%) y rhai a holwyd eu bod wedi dibynnu ar gymorth gofalwyr di-dâl ar ryw adeg ers eu strôc. Mae'r canfyddiadau hefyd yn datgelu:

  • Bod gofalwyr strôc yn wynebu anawsterau ariannol: dywedodd dros chwarter (27%) o ofalwyr nad ydynt yn derbyn digon o gymorth ar Lwfans Gofalwr / budd-daliadau.
  • Nad yw gofalu am oroeswyr strôc yn cael ei rannu’n gyfartal rhwng menywod a dynion, gyda mwy o fenywod (68%) yn gweithredu fel gofalwr.

Parhaodd Carol:“Mae angen cefnogaeth, cyngor a gwybodaeth ar ofalwyr i’w helpu i gydbwyso gofalu â gofalu am eu lles eu hunain. Rhaid i ni sicrhau bod gan bob un sy'n gofalu am oroeswr strôc y cymorth emosiynol, ariannol ac ymarferol cywir yn ei le. Er enghraifft, mae gan bob gofalwr hawl i Asesiad Gofalwr(ii) gan ei awdurdod lleol, i sicrhau eu bod yn cael yr help a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt.”

Dywedodd Emily Holzhausen OBE, Cyfarwyddwr Polisi a Materion Cyhoeddus Carers UK: “Yn sydyn, gall gofalu am aelod teulu sydd wedi cael strôc fod yn gorwynt o newidiadau, gyda gofalwyr yn cael eu gorfodi i addasu yn gyflym heb wybod lle i gael cymorth.

“Gan ddelio â lefelau uchel o straen a gor-flinder, mae nifer o ofalwyr yn cael eu heffeithio’n ariannol ac yn ei chael hi’n anodd blaenoriaethu eu hanghenion eu hunain, gan barhau i ddarparu gofal heb gymorth.

“Mae angen cymorth o ansawdd gwell a mynediad at wasanaethau ar ofalwyr di-dâl a’r bobl y maent yn gofalu amdanynt ar frys. Rhaid i'r Llywodraeth gyflawni cynlluniau ar gyfer diwygio gofal cymdeithasol sy'n sicrhau bod gofalwyr yn cael y cymorth ymarferol ac ariannol sydd ei angen arnynt i ofalu heb ohirio eu bywydau.”

Mae’r Gymdeithas Strôc yn darparu cymorth a gwybodaeth i bobl sydd wedi cael eu heffeithio gan strôc. Rydym yn darparu gwybodaeth i ofalwyr ar sut i wneud cais am asesiad gofalwr. Yn ogystal, rydym yn cynnig Grantiau Bywyd ar ôl Strôc i dalu am wyliau byr i ofalwyr trwy ein Llinell Gymorth Strôc (0303 3033 100), Fy Nghanllaw Strôc, y Gwasanaeth Adfer Strôc a’n rhaglen addysg, Gofalu a Chi.

Mwy o wybodaeth: www.stroke.org.uk

I gael mwy o wybodaeth am adroddiad Profiad Byw â Strôc – Gofalu am oroeswr strôc: yr hyn sydd angen ar ofalwyr, ewch i www.stroke.org.uk/livedexperience


-DIWEDD-

I gael mwy o wybodaeth ar y gwaith ymchwil, cysylltwch â Katie Chappelle, Pennaeth Dylanwadu a Chyfathrebu Cymdeithas Strôc Cymru, ar Katie.chappelle@stroke.org.uk / 07703 318844, neu ffion.miles@stroke.org.uk / 02920 524419.

Nodiadau i olygyddion:

Am y Gymdeithas Strôc

  • Mae strôc yn taro bob pum munud yn y DU ac mae'n newid bywydau mewn amrantiad.
  • Bob blwyddyn bydd tua 7,400 o bobl yn cael strôc yng Nghymru ac rydym yn amcangyfrif bod bron i 70,000 o oroeswyr strôc yn byw yng Nghymru ar hyn o bryd.
  • Mae'r Gymdeithas Strôc yn elusen sy'n gweithio ledled y DU i gefnogi pobl i ailadeiladu eu bywydau ar ôl strôc. Credwn fod pawb yn haeddu byw'r bywyd gorau y gallant ar ôl cael strôc. O wasanaethau a grwpiau cymorth lleol, i wybodaeth a chefnogaeth ar-lein, gall unrhyw un y mae strôc yn effeithio arno ymweld â strôc.org.uk neu ffonio ein Llinell Gymorth Strôc ar 0303 3033 100 i gael mwy o wybodaeth am y gefnogaeth sydd ar gael yn lleol.
  • Diolch i ddewrder a phenderfyniad y gymuned strôc a haelioni ein cefnogwyr y mae ein cefnogaeth arbenigol, ein hymchwil a'n hymgyrch yn bosibl. Gyda mwy o roddion a chefnogaeth, gallwn helpu i ailadeiladu hyd yn oed mwy o fywydau.
  • Gallwch ein dilyn ni arTwitter, Facebook ac Instagram.
  • i.Cynhaliwyd yr arolwg Profiad Byw â Strôc gan 2CV (Mehefin-Awst 2018). Llenwodd 9,254 o oroeswyr strôc yr arolwg post. Llenwodd 1,880 o bobl sydd wedi eu heffeithio gan strôc yr arolwg ar-lein, gan gynnwys 681 o ofalwyr, fel rhan o sampl gynrychioliadol genedlaethol o'r boblogaeth strôc yn y Deyrnas Unedig.
  • ii.Yn yr Alban, yr enw a roddir ar y math hwn o asesiad yw Carer’s Support Plan.

Am Carers UK

Mae Carers UK yn elusen a arweinir gan ofalwyr, ar gyfer gofalwyr - ein cenhadaeth yw gwneud bywyd yn well i ofalwyr.

  • Rydym yn darparu cyngor, gwybodaeth a chymorth.
  • Rydym yn cysylltu gofalwyr â’i gilydd er mwyn sicrhau nad oes unrhyw un yn gorfod gofalu ar eu pennau eu hunain.
  • Rydym yn ymgyrchu gyda’n gilydd dros newid parhaol.
  • Rydym yn arloesi i ddod o hyd i ffyrdd newydd o gyrraedd a chynorthwyo gofalwyr.

I gael cyngor a gwybodaeth ymarferol am ofalu, ewch i www.carersuk.org neu anfonwch neges e-bost at advice@carersuk.org.

Fforwm Carers UK yw ein cymuned ar-lein i ofalwyr ac mae ar agor i aelodau Carers UK 24-awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn: www.carersuk.org/forum.

Gwefan (www.carersuk.org), Facebook: (www.facebook.com/carersuk);
Twitter: @CarersUK

Mae Carers UK yn elusen sydd wedi'i chofrestru yng Nghymru a Lloegr (246329) ac yn yr Alban (SC039307) ac yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi'i gofrestru yng Nghymru a Lloegr (864097).

Topics


  • Mae strôc yn taro bob pum munud yn y DU ac mae'n newid bywydau mewn amrantiad.
  • Mae'r Gymdeithas Strôc yn elusen sy'n gweithio ledled y DU i gefnogi pobl i ailadeiladu eu bywydau ar ôl strôc. Credwn fod pawb yn haeddu byw'r bywyd gorau y gallant ar ôl cael strôc. O wasanaethau a grwpiau cymorth lleol, i wybodaeth a chefnogaeth ar-lein, gall unrhyw un y mae strôc yn effeithio arno ymweld â strôc.org.uk neu ffonio ein Llinell Gymorth Strôc bwrpasol ar 0303 3033 100 i ddarganfod am y gefnogaeth sydd ar gael yn lleol.
  • Dim ond gyda dewrder a phenderfyniad y gymuned strôc a haelioni ein cefnogwyr y mae ein cefnogaeth arbenigol, ein hymchwil a'n hymgyrch yn bosibl. Gyda mwy o roddion a chefnogaeth, gallwn helpu i ailadeiladu hyd yn oed mwy o fywydau.
  • Gallwch ein dilyn ar Twitter, Facebook ac Instagram.

Contacts

Angela Macleod

Angela Macleod

Press contact Communications Officer Scotland press and Stroke Association research communications 0131 555 7244
Laura Thomas

Laura Thomas

Press contact Communications Officer Wales 07776508594
Ken Scott

Ken Scott

Press contact Press Officer North of England and Midlands 0115 778 8429
Daisy Dighton

Daisy Dighton

Press contact Press Officer London and East of England 02079401358
Martin Oxley

Martin Oxley

Press contact Press Officer South of England 07776 508 646
Vicki Hall

Vicki Hall

Press contact PR Manager Fundraising and local services 0161 742 7478
Scott Weddell

Scott Weddell

Press contact PR Manager Stroke policy, research and Northern Ireland 02075661528
Katie Padfield

Katie Padfield

Press contact Head of PR & Media This team is not responsible for booking marketing materials or advertising
Out of hours contact

Out of hours contact

Press contact Media queries 07799 436008
Kate Asselman

Kate Asselman

Press contact Artist Liaison Lead 07540 518022
Tell us your story

Tell us your story

Press contact 07799 436008

The UK's leading stroke charity helping people to rebuild their lives after stroke

The Stroke Association. We believe in life after stroke. That’s why we campaign to improve stroke care and support people to make the best possible recovery. It’s why we fund research to develop new treatments and ways to prevent stroke. The Stroke Association is a charity. We rely on your support to change lives and prevent stroke. Together we can conquer stroke.

Stroke Association
240 City Road
EC1V 2PR London
UK