Press release -
Lansio ymgyrch Cymru i leihau risg y genedl o strôc
Mae’r Gymdeithas Strôc wedi lansio ymgyrch Cymru gyfan wedi’i hanelu at leihau nifer yr achosion o strôc ledled y wlad.
Mae tri ffactor risg penodol sy’n rhoi pobl mewn risg gynyddol o gael strôc. Bydd ymgyrch Lleihau eich Risg o Strôc yr elusen yn codi ymwybyddiaeth o nifer yr achosion o strôc sy’n cael eu hachosi gan bwysau gwaed uchel, Ffibriliad Artrïaidd (AF) a Phyliau o Isgemia Dros Dro (TIA), sydd hefyd yn cael ei adnabod fel strôc fach neu bwl rhyfedd.
Dywedodd Ana Palazón, Cyfarwyddwr Cymru y Gymdeithas Strôc:
“Trwy weithredu ar y tri ffactor risg strôc mwyaf, gallem leihau nifer y strociau ledled Cymru hyd at 50%. Rydym ni’n gofyn i bobl wneud tri pheth syml:
- Mynd i wirio eu pwysedd gwaed unwaith y flwyddyn;
- Gwirio eu curiad calon am unrhyw afreoleidd-dra
- Ceisio sylw meddygol ar unwaith os byddant yn dioddef unrhyw symptomau strôc, fel gwendid wynebol, gwendid yn y breichiau neu leferydd aneglur.”
Mae pwysau gwaed uchel yn un o ffactorau risg mwyaf strôc, ac yn cyfrannu at 54% o strociau. Nid oes rhaid i bwysau gwaed uchel gael unrhyw symptomau, felly'r unig ffordd i wybod a oes gennych chi bwysau gwaed uchel yw mynd i’w fesur yn rheolaidd.
Ffibriliad Artrïaidd (sydd hefyd yn cael ei adnabod fel AF) yw’r math mwyaf cyffredin o guriad calon afreolaidd yng Nghymru. Mae pobl sy’n byw ag AF bum gwaith yn fwy tebygol o gael strôc ac mae strociau sy’n cael eu hachosi gan AF yn fwy tebygol o arwain at farwolaeth, neu achosi lefelau uchel o anabledd i’r goroeswr.
Y trydydd ffactor risg mwyaf yw Pyliau o Isgemia Dros Dro, sy’n digwydd pan ymyrrir ar y cyflenwad gwaed i’r ymennydd am gyfnod byr yn unig. Er efallai na fydd y symptomau’n para’n hir iawn, mae’r TIA yn ddifrifol iawn o hyd. Mae’n arwydd bod yr unigolyn mewn risg o gael strôc. Dyna pam mae TIA yn cael ei alw’n strôc rybudd yn aml, ond mae gormod o bobl yn anymwybodol o’r cysylltiad rhwng TIA a strôc, ac nid ydynt yn ceisio’r help nac yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt. Yn aml, mae pobl yn diystyru symptomau TIA fel “pwl rhyfedd”; fodd bynnag, gallai gwneud hynny beryglu bywyd, gan fod mwy na 25% o bobl sydd wedi cael strôc wedi cael strôc neu TIA yn flaenorol.
Mae’r Gymdeithas Strôc yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a’r saith bwrdd iechyd ledled Cymru i godi ymwybyddiaeth ar draws y boblogaeth gyfan. Ffocws yr ymgyrch fydd annog aelodau’r cyhoedd i gymryd cyfrifoldeb dros wirio eu curiad calon a’u pwysau gwaed yn rheolaidd, a gwneud yn siŵr eu bod nhw’n ceisio triniaeth feddygol frys os byddant yn drwgdybio afreoleidd-dra neu’n dioddef symptomau strôc.
Dywedodd Ana, “Dylid trin holl symptomau strôc yn ddifrifol, ni waeth pa mor gyflym y maen nhw’n pasio. Dylai pobl gadw llygad allan am wendid wynebol neu wyneb llipa, colli symudedd ar un ochr neu broblemau â lleferydd.”
“Mae’r neges Act FAST yn hanfodol bwysig; Wyneb, Braich, Lleferydd ac Amser i ffonio 999 (Face, Arm, Speech and Time to call 999). Gorau po gyntaf y caiff pobl help meddygol i gael y canlyniadau gorau ac anabledd llai. Peidiwch ag anwybyddu pyliau rhyfedd, ffoniwch 999 ar unwaith.”
I gael mwy o wybodaeth am yr ymgyrch anfon ebost i info.cymru@stroke.org.uk neu dilynwch ni ar Twitter @strokewales. Os yw strôc wedi’ch effeithio chi neu aelod o’ch teulu, ffoniwch ein llinell gymorth ar 0303 3033 100.
Topics
Regions
Caiff yr ymgyrch Lleihau eich Risg o Strôc ei hariannu gan Lywodraeth Cymru a bydd yn rhedeg rhwng 16 Ionawr a 31 Mawrth.
Mae strôc yn ymosodiad ar yr ymennydd sy’n digwydd pan mae’r cyflenwad gwaed i’r ymennydd yn cael ei rwystro, a achosir gan dolchen neu waedu ar yr ymennydd. Yng Nghymru, mae mwy na 7,000 o bobl yn cael strôc bob blwyddyn, ac mae’n un o’r achosion mwyaf o anabledd difrifol ymhlith oedolion. Mae dros 65,100 o bobl yng Nghymru ac 1.2 miliwn o bobl yn y DU yn byw ag effeithiau strôc.
Mae’r Gymdeithas Strôc yn elusen. Credwn mewn bywyd ar ôl strôc, a gyda’n gilydd, gallwn goncro strôc. Rydym ni’n gweithio’n unionyrchol gyda goroeswyr strôc a’u teuluoedd a’u gofalwyr, gyda gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol, a gyda gwyddonwyr ac ymchwilwyr. Rydym ni’n ymgyrchu i wella gofal a chymorth strôc er mwyn i bobl wella mor dda ag y gallan nhw. Rydym ni’n ariannu ymchwil i ddatblygu triniaethau newydd a ffyrdd o atal strôc. Mae’r Llinell Gymorth Strôc (0303 303 3100) yn darparu gwybodaeth a chymorth ar strôc. Ceir mwy o wybodaeth ar www.stroke.org.uk.